Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Hysbysiad preifatrwydd y fenter ywyll genedlaethol

Pam ein bod yn rhoi'r hysbysiad hwn i chi

Mae'n rhaid i'r Cyngor yn unol â'r gyfraith ddiogelu cronfeydd cyhoeddus a weinyddir gennym ac o ganlyniad, i sicrhau nad yw arian trethdalwyr yn cael ei dynnu allan o'r system trwy dwyll.

Mae'r hysbysiad hwn wedi ei gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut y byddwn yn ei ddefnyddio, eich hawliau ynghlwm ag ef a'r mesurau diogelwch sydd ar waith i'w ddiogelu.

Pa ddata personol sydd gennym

Er mwyn perfformio'r dasg, gallwn goladu amrywiaeth o ddata sydd gennym amdanoch chi. Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor.

 

Sefydliadau y byddwn yn rhannu eich data personol â nhw

I atal a datgelu twyll, mae'n bosib y byddwn yn rhannu gwybodaeth a roddir i ni gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio a gweinyddu cronfeydd cyhoeddus, megis Swyddfa'r Cabinet, yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gynghorau eraill.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru (Yr Archwilydd Cyffredinol) yn adolygu cyfrifon y Cyngor ac yn gofyn i ni gymryd rhan mewn ymarferion paru data i helpu i atal a datgelu twyll.

Mae paru data yn golygu cymharu cofnodion cyfrifiadurol un corff gyda chofnodion cyfrifiadurol eraill gan yr un neu gyrff eraill, i weld i ba raddau maen nhw'n cyfateb. Gwybodaeth bersonol yw hyn fel arfer.

Mae'r math hwn o baru data yn fodd o nodi hawliadau/taliadau a all fod yn dwyllodrus. Gall pariad nodi amrywiad sy'n galw am ymchwil pellach. Ni ellir cymryd yn ganiataol a fu twyll, camgymeriad neu eglurhad arall hyd nes i ymchwiliad gael ei gwblhau.

Mae gofyn i ni roi setiau penodol o ddata i'r Archwilydd Cyffredinol i'w paru ar gyfer pob ymarferiad ac mae rhain wedi eu nodi yng nghanllaw Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn defnyddio data yn rhinwedd ei rymoedd yn Rhan 3 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid yw'n gofyn am gydsyniad yr unigolion dan sylw o danReoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.

Mae Paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn amodol ar God Ymarfer (466kb).

Am fwy o wybodaeth ar rymoedd cyfreithiol Yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau paham ei fod yn paru gwybodaeth benodol, gweler;

Cysylltu â ni / Swyddog Diogelu Data

Os oes unrhyw bryderon gennych yn ymwneud â'r Fenter Twyll Genedlaethol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data am fwy o wybodaeth.

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

[email protected]