Mae'r hysbysiad hwn ar gyfer dinasyddion Bro Morgannwg.
Mae'r Cyngor yn prosesu data personol yn ddyddiol. Rydym yn cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi, sef data personol. Rydym wedi ein cofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a bydd unrhyw wybodaeth sydd gennym yn cael ei phrosesu'n unol â'r egwyddorion a nodir yn Rheoliadau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â nhw.
Byddwn yn:
- Parhau i gryfhau ein prosesau ar gyfer cynnal preifatrwydd yr holl wybodaeth bersonol sydd gennym.
- Gofyn i'n holl gyflogeion gydymffurfio'n llawn â chyfraith Diogelu Data.
- Cadw cyn lleied o wybodaeth bersonol ag sydd ei hangen i'n galluogi i gyflawni ein rôl fel Cyngor.
- Dileu gwybodaeth bersonol pan fydd yr angen i'w chadw wedi mynd heibio.
- Cyrchu a phrosesu'r holl wybodaeth bersonol yn unol â phrosesu teg a gaiff ei nodi pan gesglir gwybodaeth gan Unigolion.
- Cynllunio ein systemau a'n prosesau er mwyn cydymffurfio ag egwyddorion diogelu data.
- Cymryd camau gweithredu ar unwaith os byddwn yn darganfod na chydymffurfir â'n polisïau.
Mae'r hysbysiad hwn wedi'i greu i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â'ch data a'r mesurau diogelwch sydd ar waith i'w ddiogelu.
Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn ei gael
Mae'r mathau o ddata personol sydd gennym ac rydym yn ei brosesu amdanoch yn cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
- Manylion adnabod, gan gynnwys dyddiad geni,
- Gwybodaeth am gollfarn droseddol lle bo hynny'n berthnasol.
- Clipiau teledu cylch cyfyng, rhifau cofrestru cerbydau a/neu alwadau wedi'u recordio - dim ond pan fydd cais yn cael ei gyflwyno gan Fro Morgannwg a pan fyddwn yn dod o hyd i'r ffilm.
Rydym yn casglu eich data yn yr achosion canlynol:
- Mae Heddlu Bro Morgannwg neu Heddlu De Cymru yn cyflwyno cais am ffilm a allai eich adnabod chi neu'ch cerbyd.
- Pan fyddwch chi'n defnyddio un o'r Pwyntiau Cymorth ar gyfer cymorth brys
Y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o'ch data personol
Mae Canolfan Derbyn Larymau Caerdydd yn darparu sawl gwasanaeth i Fro Morgannwg.
- Ar gyfer monitro mannau cyhoeddus drwy deledu cylch cyfyng, mae'r Cyngor yn cadw data personol amdanoch yn rhinwedd ei swyddogaeth fel rheolydd data ar y cyd â Bro Morgannwg.
- Ar gyfer monitro ac ymateb i Bwyntiau Cymorth Cyhoeddus, mae'r Cyngor yn cadw data personol amdanoch yn rhinwedd ei swyddogaeth fel rheolydd data ar y cyd â Bro Morgannwg.
- Pan fo ARC Caerdydd yn darparu gwasanaeth monitro o bell ar gyfer Meysydd Parcio ledled Bro Morgannwg, ARC Caerdydd sy'n prosesu'r data, ac mae'r holl benderfyniadau a'r rheolaeth yn cael eu cadw gyda Bro Morgannwg. Mae gwybodaeth bellach am sut rydym yn defnyddio eich data personol isod.
Yn gyffredinol, ar un o'r seiliau cyfreithiol isod y byddwn yn defnyddio eich data personol:
- mae angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol
- mae angen i ni brosesu eich data personol er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein capasiti fel corff cyhoeddus
- mae angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau contract
- mae'r prosesu yn angenrheidiol er mwyn diogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu berson naturiol arall.
Sut y byddwn yn defnyddio eich data personol
Efallai y proseswn eich data personol i gyflawni ein rhwymedigaethau, gall hyn gynnwys prosesu eich data personol ar gyfer un neu'r cyfan o'r dibenion canlynol:
- Darparu lluniau teledu cylch cyfyng, rhifau cofrestru cerbydau a/neu alwadau wedi'u recordio i Fro Morgannwg.
- At ddibenion ystadegol a chyfeirio, bydd hwn yn ddata dienw.
- i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol.
Sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw
Byddwn yn rhannu eich data personol gyda sefydliadau partner a darparwyr gwasanaeth fel y gallant ein helpu i gynnal ein dyletswyddau contract, ein hawliau a'n disgresiynau mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarparwn. Ym mhob achos, byddwn dim ond yn rhannu data i'r graddau y credwn fod angen yr wybodaeth yn rhesymol at y dibenion hyn.
Caiff unrhyw Wybodaeth Bersonol sydd gennym dim ond ei datgelu, gyda diben rhesymol, i:
- Ein staff - pan fydd yr wybodaeth yn hanfodol ac yn ofynnol ar gyfer eu gwaith.
- Y Llysoedd - dan gyfarwyddyd Gorchymyn Llys.
- Yr Heddlu - lle maen nhw'n gofyn am luniau teledu cylch cyfyng ar gyfer canfod a/neu atal trosedd.
- Ein partneriaid - Bro Morgannwg, yn unol â'r weithdrefn y cytunwyd arni'n unig.
- Contractwyr - Pan fo angen mynediad i wneud gwaith, gwneir hyn yn unol â gweithdrefnau preifatrwydd y cytunwyd arnynt.
Pa mor hir rydym yn cadw eich data personol
| Gwybodaeth | Cedwir gan ARC | Cyfeiriad i safonau | Sylwadau |
|---|---|---|---|
| Ffurflenni Rhyddhau Ffilmio Teledu Cylch Cyfyng | 3 blynedd - Oni fernir bod angen cadw yn unol ag ymchwiliad | Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth y Comisiynydd Gwybodaeth 5.2.5 a Chod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth Egwyddor 6, BS 7958 2015 Cymal 7.2 | Ffurflen rhyddhau data llawn gan gynnwys taflenni ymwelwyr wedi'u llofnodi |
| Ffilm teledu cylch cyfyng o fewn Locer Tystiolaeth | 1 flwyddyn - Oni fernir bod angen cadw yn unol ag ymchwiliad | Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth y Comisiynydd Gwybodaeth 5.2.5 a Chod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth Egwyddor 6, BS 7958 2015 Cymal 7.2 | Deunydd ffilm wedi'i arbed mewn locer tystiolaeth y tu allan i gyfnod cadw safonol o 31 diwrnod. Archwiliad misol o ddeunydd ffilm wedi'i arbed |
| Digwyddiadau Teledu Cylch Cyfyng ar System Rheoli Fideo | 2 flynedd - Oni fernir bod angen cadw yn unol ag ymchwiliad | Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth y Comisiynydd Gwybodaeth 5.2.5 a Chod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth Egwyddor 6, BS 7958 2015 Cymal 7.2 | Cofnod digwyddiad llawn ar SRhF |
Eich hawliau
Mae gennych hawl i gael mynediad at eich data a chael copi o'r data personol sydd gan y Cyngor amdanoch a gofyn i'r Awdurdod gywiro eich data personol os oes camgymeriadau neu wybodaeth sy'n hen. Mewn rhai amgylchiadau, cewch hefyd ofyn i'r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol nes i unrhyw gamgymeriadau gael eu gwirio, gwrthwynebu prosesu neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn) ofyn i ni ddileu eich data personol.
Os hoffech arfer unrhyw un neu rai o'r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech chi arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost:
[email protected]
[email protected]
Ffoniwch ni ar:
02920 381850 (ARC Caerdydd)
01446 700111 (Bro Morgannwg)
Neu ysgrifennwch atom:
ARC Caerdydd
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
y Barri
CF63 4RU.
Diweddaru'r hysbysiad hwn
Mae ARC Caerdydd yn adolygu ei Hysbysiad Preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y wefan. Diweddarwyd y Polisi Preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 31 Rhagfyr 2024.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd ARC Caerdydd, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni.
E-bostiwch ni yn: [email protected]
Ffoniwch ni: 02920 381850
Neu ysgrifennwch atom:
ARC Caerdydd
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol
Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw ARC Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.
Cysylltu â Diogelu Data
Cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
