Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Polisi preifatrwydd project Cedar

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd Prosiect Cedar yn defnyddio'r data personol a gesglir oddi wrthych pan gewch eich atgyfeirio atom i gael cymorth i'ch atal rhag colli eich llety a/neu gymorth i ymgartrefu mewn llety newydd yn ardal Caerdydd.

Cyngor Caerdydd yw Rheolydd y Data at ddibenion y data a gaiff ei gasglu. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

​Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Bydd Prosiect Cedar yn casglu'r data canlynol:

  • Data personol (Teitl; Enw llawn; Dyddiad geni; Rhif YG; Cyfeiriad; Rhifau cyswllt ac a yw'n ddiogel ffonio/tecstio; Gofynion iaith)
  • Cyfansoddiad y teulu (Partner; Plant a gyda phwy maent yn byw; Cyflawnwr)
  • Statws Tai/Tenantiaeth.
  • Materion ariannol (Incwm a gwariant; Dyled; Statws cyflogaeth; Budd-daliadau sy'n cael eu hawlio).
  • Ffactorau a allai eich gwneud yn agored i niwed (Dibyniaeth ar alcohol/cyffuriau; Gweithgarwch troseddol; Anableddau corfforol/synhwyraidd; Salwch; Statws lloches; Anghenion cymorth ychwanegol; Materion diogelu).
  • Anghenion cymorth/sefyllfa bresennol (A ydych chi mewn man diogel neu mewn argyfwng; Patrymau cam-drin).
  • Manylion unrhyw Asesiad Risg os yw ar gael, neu unrhyw risgiau y gallai fod angen i staff fod yn ymwybodol ohonynt.
  • Data Cyfle Cyfartal (gallwch ddewis peidio â darparu'r data hwn a bydd yn cael ei wneud yn ddienw).

Cesglir hyn er mwyn caniatáu i Brosiect Cedar ddarparu ei wasanaeth a bwriad y prosiect yw darparu llwybr llyfnach i Ddynion sy'n Ddioddefwyr Cam-drin Domestig/Trais Rhywiol i'w hatal rhag colli eu llety a/neu eu helpu i ymgartrefu mewn llety newydd yn ardal Caerdydd.

Mae'r gyfraith Diogelu Data yn disgrifio'r sail gyfreithlon dros brosesu eich data fel sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni: (e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i chi gyflawni tasg sydd er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.

Deddfwriaeth: Deddf Tai (Cymru) 2014, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

​​Sut rydym yn casglu eich data?

Rydych chi'n rhoi'r rhan fwyaf o'r data rydyn ni'n ei gasglu yn uniongyrchol i'r Cyngor. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn:

  • Mynd un o Hybiau Cyngor Caerdydd ac yn cael cymorth gan staff y Cyngor neu gan weithiwr proffesiynol sy'n gwneud atgyfeiriad ar eich rhan.
  • Defnyddio ein gwefan neu'n edrych arni trwy gwcis eich porwr.
  • Ymgysylltu â'ch gweithiwr cymorth mewn sesiynau cymorth.
  • Caniatáu mynediad at gofnodion meddygol neu weithwyr proffesiynol a allai fod yn eich cefnogi.
  • Gellir casglu gwybodaeth drwy ddulliau electronig (h.y. Word, Excel, Outlook), ymatebion trwy'r post (arolygon a holiaduron) a/neu ryngweithio wyneb yn wyneb (gan gynnwys cyfarfodydd unigol a grŵp).

​​Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae'r Cyngor yn casglu eich data er mwyn:

  • Asesu eich anghenion a phrosesu eich atgyfeiriad.
  • Eich atal rhag colli eich cartref trwy waith amlasiantaethol, gwella diogelwch yr eiddo a sicrhau bod gwasanaethau cyfannol cofleidiol i'ch cefnogi.
  • Eich cyfeirio at wasanaethau eraill a all eich cefnogi i gyflawni eich canlyniadau.
  • Gallu adrodd ar eich canlyniadau a dangos tystiolaeth o wasanaeth effeithiol.

​Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?​​

Bydd Prosiect Cedar yn rhannu eich data gyda Pobl, sefydliad trydydd parti sydd wedi'i gontractio i ddarparu llety a chymorth yn ôl yr angen i chi.

Dim ond o dan gyfarwyddiadau Cyngor Caerdydd y bydd Pobl yn prosesu eich data personol.

Bydd Pobl yn cynnig cymorth yn ôl yr angen gyda'ch caniatâd chi. Gallwch dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy e-bostio [email protected].

Bydd angen i'ch gweithiwr cymorth yn y gwasanaeth Pobl gysylltu ag asiantaethau eraill er mwyn eich cefnogi'n effeithiol, felly bydd angen i chi roi caniatâd iddynt weithredu ar eich rhan a/neu dderbyn gwybodaeth yn ymwneud â'ch amgylchiadau personol a allai fod yn berthnasol i'r cymorth sydd ei angen arnoch.

​Sut rydym yn storio eich data?

​Mae Prosiect Cedar yn storio'ch data yn ddiogel ar System Rheoli Cymorth yn Ôl yr Angen y Cyngor.

Bydd Prosiect Cedar yn cadw'r wybodaeth a ddaw i law wrth gyflawni eich cynllun cymorth drwy gydol eich cefnogaeth ac yn unol â Pholisi Cadw'r Cyngor. Pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data 3 blynedd ar ôl i'r cymorth orffen.

​Cwcis

Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch chi'n ymweld â'n gwefan, mae'n bosibl y byddwn ni'n casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg.

Gallwch ddysgu mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis​.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai Prosiect Cedar wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:


Yr hawl i gyrchu gwybodaeth

Mae gennych hawl i ofyn i Brosiect Cedar ddarparu copïau o'ch data personol.


Yr hawl i gywiro

Mae gennych hawl i ofyn i Brosiect Cedar gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i Brosiect Cedar gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.


Yr hawl i ddileu

Mae gennych hawl i ofyn i Brosiect Cedar ddileu eich data personol, dan rai amodau.


Yr hawl i gyfyngu ar brosesu

Mae gennych hawl i ofyn i Brosiect Cedar roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.


Yr hawl i wrthwynebu prosesu

Mae gennych hawl i wrthwynebu i Brosiect Cedar brosesu eich data personol, dan rai amodau.


Yr hawl i gludo data

Mae gennych hawl i ofyn i Brosiect Cedar drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.

​Sut i gysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd y Cyngor, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio [email protected] neu drwy'r post:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

​​​​​Mae GCLlC yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 20 Mehefin 2024.​

Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol

Os hoffech gwyno neu os ydych yn teimlo nad yw'r Cyngor wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.