Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Polisi preifatrwydd Dinas Gerdd Caerdydd

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Dinas Gerdd Caerdydd yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu'n cofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn negeseuon e-bost marchnata neu'n cystadlu yn ein cystadlaethau neu dynnu gwobrau.

Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd, y Rheolwr Data at ddibenion y data a gesglir. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Pa ddata ydym yn ei gasglu?

Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn casglu'r data canlynol:

  • Enw,
  • Cyfeiriad e-bost,
  • Cod Post.

Cesglir hyn at ddiben derbyn diweddariadau sy'n ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd. O bryd i'w gilydd efallai y bydd cystadlaethau neu roddion hefyd gydag opsiwn i gael eich ychwanegu at y rhestr bostio marchnata.

Mae'r gyfraith Diogelu Data yn disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni (a) Caniatâd: mae'r unigolyn wedi rhoi caniatâd clir i chi brosesu ei ddata personol at ddiben penodol.

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydych yn rhoi'r rhan fwyaf o'r data rydym yn ei gasglu i Ddinas Gerdd Caerdydd yn uniongyrchol. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn:

Cofrestru i dderbyn negeseuon e-bost ar gyfer digwyddiadau a allai fod o ddiddordeb i chi.

Wrth gymryd rhan mewn cystadleuaeth neu ddigwyddiad.

Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu'n rhoi adborth ar unrhyw un o'n byrddau negeseuon neu drwy e-bost.

Defnyddio ein gwefan neu edrych arni trwy gwcis eich porwr.

Efallai y bydd Dinas Gerdd Caerdydd hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o'r ffynonellau canlynol:

Lle efallai eich bod wedi dewis derbyn ein deunyddiau marchnata gan bartner (er enghraifft, wrth brynu tocyn ar gyfer digwyddiad y mae Dinas Gerdd Caerdydd yn ymwneud â'i greu).

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn casglu eich data fel y gallwn:

  • Brosesu eich archeb a rheoli eich cyfrif.
  • Anfon e-bost atoch gyda newyddion am weithgareddau Dinas Gerdd Caerdydd - gan gynnwys yr ŵyl a chan bartneriaid.
  • Anfon e-bost atoch gyda newyddion a chynigion arbennig am gynnyrch a gwasanaethau eraill y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt.
  • Cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu rodd ac fel y gallwn gysylltu â chi am unrhyw wobr.

Sut ydym yn storio eich data?

Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn storio eich data yn ddiogel gyda systemau diogelu cyfrinair diogel a thrwy Mailchimp. Mae Mailchimp yn llwyfan awtomeiddio marchnata yn America, a thrwy glicio i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Gallwch adolygu polisïau preifatrwydd Mailchimp i ystyried unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â darparu gwybodaeth bersonol y tu allan i'r UE, yma: https://mailchimp.com/legal/

Ar gyfer rhoddion a chystadlaethau, mae eich data hefyd yn cael ei storio trwy systemau diogelu cyfrinair diogel gyda Mailchimp a thrwy'r wefan trydydd parti Mailchimp.

Bydd cystadlaethau neu dynnu gwobrau yn casglu eich data gan ddefnyddio Snap Surveys. Mae Snap Surveys Limited a Snap Surveys NH, Inc. ("Snap Surveys", neu "ni") wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd a diogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae eu polisi preifatrwydd yn disgrifio'r ffordd y maent yn casglu ac yn defnyddio'r wybodaeth bersonol y maent yn ei chasglu am ymwelwyr â'u gwefan a defnyddwyr ein cynnyrch a'n gwasanaethau: https://www.snapsurveys.com/survey-software/privacy-policy-us/

Bydd ffurflen Snap Survey yn casglu data sy'n cynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch cod post, gydag opsiwn i optio i mewn i restr bostio Dinas Gerdd Caerdydd (a hefyd optio i mewn i glywed gan bartneriaid, lle bo hynny'n briodol).

Bydd Dinas Gerdd Caerdydd yn cadw eich data cofrestru e-bost hyd nes y byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl neu nes bod tair blynedd wedi mynd heibio. Gallwch ddad-danysgrifio neu ddiweddaru eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen yn nhroednodyn ein negeseuon e-bost neu drwy gysylltu â thîm Dinas Gerdd Caerdydd yn uniongyrchol yn [email protected].

Ar gyfer data cystadleuaeth neu dynnu gwobrau, bydd y rhai nad ydynt wedi optio i mewn i dderbyn data marchnata yn cael eu storio hyd nes y bydd yr enillydd wedi'i hysbysu (am hyd at 3 mis). Ar ôl diwedd y cyfnod hwn, byddwn yn dileu eich data drwy ei ddileu o'n systemau.

Marchnata

Dymuna Dinas Gerdd Caerdydd anfon gwybodaeth atoch am ein cynnyrch a'n gwasanaethau y credwn allai fod o ddiddordeb i chi, yn ogystal â rhai ein cwmnïau partner.

Er nad ydym yn rhannu eich data personol gyda sefydliadau neu bartneriaid trydydd parti, efallai y byddwch yn derbyn negeseuon e-bost gennym yn eich cyfeirio at eu digwyddiadau a'u busnesau a'u gwasanaethau. Cliciwch ar yr opsiwn Dad-danysgrifio ar ein negeseuon e-bost marchnata neu e-bostiwch y tîm yn [email protected] os hoffech optio allan ar unrhyw adeg.

Os ydych wedi cytuno i dderbyn gohebiaeth farchnata, gallwch bob amser ddewis peidio â'i derbyn yn ddiweddarach.

Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i atal Dinas Gerdd Caerdydd rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata neu roi eich data i aelodau eraill Cyngor Caerdydd.

Os nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi mwyach at ddibenion marchnata, cliciwch ar e-bost [email protected].

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Dymuna Dinas Gerdd Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:


Yr hawl i gael mynediad

Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd am gopïau o'ch data personol.


Yr hawl i gywiro

Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.


Yr hawl i ddileu

Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau.


Yr hawl i gyfyngu prosesu

Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.


Yr hawl i wrthwynebu prosesu

Mae gennych hawl i wrthwynebu i Ddinas Gerdd Caerdydd brosesu eich data personol, dan rai amodau.


Yr hawl i gludo data

Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni drwy ein cyfeiriad e-bost: [email protected]

Neu ysgrifennwch atom: Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Cwcis

Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, mae'n bosibl y byddwn yn casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg

I gael mwy o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org.

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

Mae gwefan Dinas Gerdd Caerdydd yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i'n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw.

https://mailchimp.com/legal/

https://www.snapsurveys.com/survey-software/privacy-policy-us/

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Mae Ein Cwmni yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 1 Mai 2024.

Sut i gysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Dinas Gerdd Caerdydd, y data rydym yn ei gadw amdanoch, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio [email protected] neu drwy'r post:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol

Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Dinas Gerdd Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.