Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae'r Is-adran Budd-daliadau yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu'n gwneud cais am Fudd-dal Tai, Gostyngiad y Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim a Grantiau Hanfodion Ysgol.
Mae'r Is-adran Budd-daliadau'n rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion casglu data. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.
Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Mae'r adran Budd-daliadau yn casglu'r data canlynol:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
- Gwybodaeth adnabyddadwy, gan gynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol, rhifau cyfeirnod personol sy'n ymwneud â'ch Cofnodion Tai.
- Gwybodaeth am eich amgylchiadau personol, lle bo'i hangen gan wasanaeth perthnasol.
- Gwybodaeth ariannol, cyflogaeth a budd-daliadau
- Data demograffig, a all gynnwys gwybodaeth am aelodau o'r teulu a'r ardal y maent yn byw ynddi, lle bo angen hynny ar wasanaeth perthnasol
- Cyfrifoldebau Gofalu
- Trefniadau mynediad Gofal Plant
- Manylion dibynyddion
- Manylion Lluoedd Arfog
- Perchnogaeth Eiddo
- Gwybodaeth sy'n Gysylltiedig â Thenantiaeth
Cesglir hyn er mwyn asesu hawl i Fudd-dal Tai, Gostyngiad y Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim a Grant Hanfodion Ysgol.
Mae'r gyfraith Diogelu Data yn disgrifio'r sail gyfreithlon dros brosesu eich data fel sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni: (e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i chi berfformio tasg sydd er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth seiliau clir yn y gyfraith.
Deddfwriaeth:
- Rheoliadau Budd-dal Tai 2006 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
- Deddf Addysg 1996, Deddf Diwygio Lles 2012, Deddf Plant a Theuluoedd 2014
Sut rydym yn casglu eich data?
Chi sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r data rydyn ni'n ei gasglu i'r is-adran Budd-daliadau. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data yn yr achosion canlynol:
- Pan wnewch gais ar-lein am Fudd-dal Tai, Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim, Grant Hanfodion Ysgol.
Mae'r data yn cael ei fewnbynnu ar NEC naill ai gan y cwsmer wrth lenwi ffurflen gais ar-lein neu gan asesydd Budd-daliadau.
Gall yr Is-adran Budd-daliadau hefyd dderbyn eich data yn anuniongyrchol o'r ffynonellau canlynol:
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Mae'r Adran Budd-daliadau yn casglu eich data fel y gallwn:
- Asesu eich hawl i Fudd-dal Tai, Gostyngiad y Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim, Grant Hanfodion Ysgol.
Pan fydd yr is-adran Budd-daliadau yn asesu eich hawliad, gall anfon eich data at, a defnyddio'r wybodaeth ddilynol gan, asiantaethau gwirio credyd i atal twyll a chamgymeriad.
Mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio trydydd parti Blue Prism i wirio eich bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a/neu fudd-daliadau grant hanfodion ysgol. Rhagor wybodaeth am sut mae Blue Prism yn prosesu eich data.
Mae Cyngor Caerdydd yn prosesu eich taliadau drwy gronfa ddata NEC ac yna i SAP. I gael rhagor wybodaeth am sut mae NEC yn prosesu eich data. Rhagor o wybodaeth am sut mae SAP yn prosesu eich data.
Sut rydym yn storio eich data?
Bydd eich data personol yn cael ei storio'n ddiogel ar ein system rheoli achosion ddiogel.
Bydd cofnodion Budd-dal Tai yn cael eu cadw am 6 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y gwnaed yr hawliad ynddi.
Bydd data ariannol yn cael ei gadw am 6 blynedd ar ôl i'ch hawl i fudd-dal ddod i ben.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai yr Is-adran Budd-daliadau wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:
- Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
- Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
- Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
- Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.
Nid oes angen i chi dalu unrhyw daliad am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.
Cysylltwch â ni drwy [email protected] os hoffech wneud cais.
Cwcis
Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, mae'n bosibl y byddwn yn casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg.
Dysgwch fwy am y wefan All About Cookies.
Sut rydym yn defnyddio cwcis?
Mae Ein Cwmni yn defnyddio cwcis mewn amrywiaeth o ffyrdd i wella'ch profiad ar ein gwefan, gan gynnwys:
- Eich cadw wedi'ch mewngofnodi
- Deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan
Sut i reoli cwcis
Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis, ac mae'r wefan uchod yn dweud wrthych sut i ddileu cwcis o'ch porwr. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae'n bosib na fydd rhai o nodweddion y wefan yn gweithio o ganlyniad i hynny.
Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
Mae gwefan Cyngor Caerdydd yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i'n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen ei pholisi preifatrwydd hi.
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Mae Ein Cwmni yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 05 Chwefror 2025.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd yr Is-adrab Budd-daliadau, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost i [email protected] neu drwy'r post:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol
Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Cyngor Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy ffonio 0303 123 1113.
