Mae'r Hyb Diogelu Amlasiantaethol (MASH) yn casglu gwybodaeth amlasiantaethol i wneud asesiadau a phenderfyniadau, gan sicrhau'r ymyrraeth fwyaf priodol yn seiliedig ar anghenion y plentyn. Mae MASH yn brysbennu ac yn asesu'n amlasiantaethol bryderon am blant sy'n agored i niwed, gan ddod â gweithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau ynghyd i greu tîm integredig.
Mae pwrpas MASH yn cynnwys ymateb mwy cydgysylltiedig i bryderon, taith well i'r plentyn, a mwy o bwyslais ar gymorth cynnar. Mae hyn yn arwain at wasanaethau mwy gwybodus ac ymyriadau amserol. Mae yna waith partneriaeth agos, atebolrwydd clir, a gwell cyfathrebu amlasiantaethol. Yn ogystal, mae gostyngiad mewn ail-atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau amhriodol.
Mae'r manteision i asiantaethau yn cynnwys ar y diogelu ar y cyd blant sy'n agored i niwed ac osgoi dyblygu gwaith.
Sut rydym yn defnyddio eich data personol?
Os nodir pryder diogelu ar gyfer plentyn, oedolyn neu ddioddefwr, bydd partneriaid yn defnyddio ac yn rhannu gwybodaeth rhwng gweithwyr proffesiynol i amddiffyn plant ac oedolion sy'n agored i niwed rhag niwed, esgeulustod a chamdriniaeth.
Mathau o ddata personol
Mae'r mathau o ddata personol rydym yn ei brosesu yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:
Categorïau cyffredinol
- Gwybodaeth bersonol uniongyrchol, Enw llawn
- Dyddiad geni
- Rhywedd
- Cyfeiriad
- Rhif ffôn
- Ethnigrwydd
- Mamiaith
- Cofnodion Addysg ac Ysgol lle bo'n berthnasol i unrhyw bryderon diogelu a lles a godir am blant
- Cofnodion Gofal Cymdeithasol lle bo'n berthnasol i unrhyw bryderon diogelu a lles a godir am blant
- Cofnodion Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid lle bo'n berthnasol i unrhyw bryderon diogelu a lles a godir am blant
- Cofnodion Gwasanaethau Prawf lle bo'n berthnasol i unrhyw bryderon diogelu a lles a godir am blant
- Cofnodion Iechyd lle bo'n berthnasol i unrhyw bryderon diogelu a lles a godir am blant
- Cofnodion yr Heddlu lle bo'n berthnasol i unrhyw bryderon diogelu a lles a godir am blant
Is-gategorïau
- Manylion rhieni neu gofalwyr (gan gynnwys unrhyw berthnasau a / neu bersonau â chyfrifoldeb cyfreithiol dros blant a phobl ifanc)
- Cofnodion yr ystyrir eu bod yn berthnasol i unrhyw bryderon diogelu a lles a godir am bant.
- Anghenion ac amgylchiadau'r plentyn
- Barn gweithwyr proffesiynol
- Gwybodaeth y mae gofalwr y plentyn / pobl eraill maen nhw'n eu hadnabod wedi eu rhoi i ni
- Gwybodaeth a roddir gan wasanaethau eraill sy'n gweithio gyda'r plentyn, e.e. Iechyd, Addysg, yr Heddlu
- Gweithwyr gofal ac asiantaethau gwirfoddol
- Gwybodaeth am ganlyniadau unrhyw achos gofal fel y'u penderfynwyd gan y Llys
- Gwybodaeth am addysg gan gynnwys Nodweddion agored i niwed, e.e. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), Anghenion Dysgu Arbennig/Ychwanegol Prydau Ysgol am Ddim (PYADd), Ceiswyr Lloches, Teithwyr, Cymraeg/Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY), Plant y Lluoedd Arfog, Gofalwyr Ifanc ac ati
- Gwybodaeth am ymchwiliadau troseddol a chyflogaeth lle bo'n berthnasol i'r ddyletswydd ddiogelu sy'n cael ei chyflawni
- Gwybodaeth y mae eich gofalwr neu bobl eraill sy'n eich adnabod wedi ei rhoi i ni
Sut rydym yn defnyddio eich data
Caiff eich data ei ddefnyddio i werthuso a yw plant yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol a pha wasanaethau y dylent eu derbyn. Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth i'n helpu i gynllunio, trefnu a gwella'r gwasanaethau hynny, adrodd ar y gwaith rydym wedi ei wneud a dangos ein bod wedi defnyddio arian cyhoeddus yn iawn. Lle bo'n bosibl, caiff gwybodaeth a ddefnyddir at y dibenion hyn ei gwneud yn ddienw.
Rydym yn sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel a'i bod ar gael i'r rhai sydd angen ei defnyddio yn unig. Nid ydym yn cadw gwybodaeth bersonol am fwy o amser nag sydd ei angen arnom.
Mae'r Gwasanaethau Plant yn defnyddio'r wybodaeth i sicrhau diogelwch a lles y plant yng Nghyngor Caerdydd. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i sicrhau:
- bod gan y staff sy'n rhoi cymorth i'r plentyn wybodaeth gywir a chyfredol er mwyn eu helpu i benderfynu ar y cymorth gorau ar ei gyfer
- bod cofnodion cywir ar gael pan fyddwn yn adolygu ei ofal a'i gymorth
- y gellir ymchwilio i unrhyw bryderon yn briodol os bydd cwyn gennych
- mai dim ond unwaith y bydd rhaid rhoi gwybodaeth i ni.
Sut rydym yn cael eich data personol?
Rydym yn cael eich data personol o ffynonellau sy'n cynnwys:
- Personau sy'n gwneud atgyfeiriad
- Data personol a roddir gennych chi
- Perthnasau, gwarcheidwaid neu bersonau eraill sy'n gysylltiedig â chi
- Sefydliadau trydydd sector
- Atgyfeiriadau gan yr Heddlu
- Ymgynghorwyr neu ymarferwyr gofal iechyd, cymdeithasol a lles
- Y Gwasanaeth Prawf
- Adrannau eraill yn y Cyngor, gan gynnwys addysg
Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?
Dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu'r wybodaeth hon yw:
Erthygl 6(1)(e) mae angen prosesu ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth ymgymryd ag awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolwr
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Rhan 7 - mae'n cryfhau cyfrifoldebau diogelu sefydliadau o ran oedolion a phlant a'r ddyletswydd i roi gwybod am bryderon
Rhan 9 - mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo cydweithrediad â phartneriaid perthnasol o ran oedolion, plant a gofalwyr ac yn nodi trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth.
Erthygl 6(1)(e) - mae angen prosesu ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth ymgymryd ag awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolwr;
Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998
Deddf i amddiffyn unigolion sy'n datgelu gwybodaeth benodol er budd y cyhoedd, i ganiatáu i unigolion o'r fath ddwyn achos yn ymwneud ag erledigaeth; ac at ddibenion cysylltiedig;
Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003
Deddf i wneud darpariaeth am gyfiawnder troseddol ac am ddelio â throseddwyr; i ddiwygio'r gyfraith sy'n ymwneud â gwasanaeth rheithgor; i wneud darpariaeth am achosion sifil a ddygwyd gan droseddwyr; ac at ddibenion cysylltiedig;
Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000
Deddf i sefydlu Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i Gymru a Lloegr a Gwasanaeth Cynghori Llys Teulu; i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â delio â phobl sy'n cael eu hamau o, eu cyhuddo o, neu eu barnu'n euog o droseddau;
Adran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970
Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yn rhinwedd eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol weithredu dan arweiniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
Deddf Galluedd Meddyliol 2005
Yn darparu prawf ar gyfer asesu gallu oedolion a phlant 16 ac 17 oed i wneud penderfyniadau, ac yn galluogi rhoi camau gweithredu ar waith a gwybodaeth i gael ei rhannu er eu budd gorau;
Adran 2 Deddf Llywodraeth Leol 2000
Yn rhoi'r pwerau i awdurdodau lleol hyrwyddo neu wella lles cymdeithasol eu hardal. Mae hyn yn rhoi pŵer awgrymedig i rannu gwybodaeth â gwasanaethau statudol eraill a'r sector annibynnol;
Adran 115 Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
Yn caniatáu datgelu gwybodaeth bersonol a allai fel arall fod wedi ei wahardd i gefnogi strategaethau trosedd ac anhrefn lleol yn unol â'r amcanion a amlinellir yn benodol ynddi. Nid oes rhaid datgelu a rhaid i'r sefydliad wneud ei benderfyniad ei hun; fodd bynnag, rhaid bodloni gofynion y ddyletswydd hyder cyfraith gyffredin a deddfwriaeth diogelu data o hyd. Felly, ni ddylid datgelu gwybodaeth a roddir yn gyfrinachol oni bai bod budd cyhoeddus trosfwaol clir i wneud hynny.
Pan fo angen rhannu gwybodaeth bersonol plant, gall sefydliadau partner hefyd ddibynnu ar ddarpariaethau pŵer a roddir dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
Deddf Plant 2004
Yn rhoi'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer amddiffyn plant yng Nghymru. Mae'r prif egwyddorion a sefydlwyd gan y ddeddf yn cynnwys: natur hollbwysig lles y plentyn; y disgwyliadau a'r gofynion ynghylch dyletswyddau gofal i blant. Mae Rhan 3 y Ddeddf yn gymwys i Gymru yn unig;
Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006
O dan y ddeddf, sefydlwyd Awdurdod Diogelu Annibynnol (ADA) i wneud penderfyniadau am unigolion y dylid eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant a chynnal rhestr o'r unigolion hyn;
Deddf Addysg 1996
Dan adran 14 Deddf Addysg 1996 (DA 1996) mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod digon o ysgolion cynradd ac uwchradd yn eu hardal i sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle i gael addysg briodol.
Adran 175 Deddf Addysg 2002
Yng Nghymru, rhaid i ysgolion ddilyn Cadw Dysgwyr yn Ddiogel: rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol dan Ddeddf Addysg 2002 (Llywodraeth Cymru, 2012) Mae'r trefniadau ar gyfer diogelu plant wedi'u nodi yn adran 175 Deddf Addysg 2002
Deddf Addysg 2011
Mae'r ddeddf hon yn cynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau addysg lleol a sefydliadau addysg bellach wneud trefniadau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant;
Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008
Yn deddfu ar gyfer yr argymhellion ym mhapur gwyn Care Matters (Adran dros Addysg a Sgiliau, 2007) i ddarparu gofal a gwasanaethau o ansawdd uchel i blant mewn gofal.
Llywodraeth Cymru - Mewn Dwylo Diogel 2000
(Adran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol yn eu swyddogaethau gwasanaeth cymdeithasol weithredu dan arweiniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru).
Pan fyddwn yn casglu data categori arbennig fel y rhestrir uchod, rydym hefyd yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol canlynol:
Mae Erthygl 9(2)(g) GDPR y DU yn gofyn bod sail yng nghyfraith y DU, a ddarperir gan Adran 10(3) Deddf Diogelu Data 2018.
Mae hwn yn ei dro yn cyfeirio at yr angen i fodloni amod perthnasol yn Rhan 2 Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018. Yr amod perthnasol yw:
- Atodlen 1, Rhan 2, Paragraff 7 - Gweinyddu cyfiawnder a dibenion seneddol:Gellir rhannu gwybodaeth at ddibenion gweinyddu cyfiawnder.
- Atodlen 1, Rhan 2, Paragraff 18 (1) - Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl:mae'r prosesu'n angenrheidiol at ddibenion:amddiffyn unigolyn rhag esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol, neu amddiffyn lles corfforol, meddyliol neu emosiynol unigolyn.
 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth
Y sefydliad sy'n rhoi'r hysbysiad hwn i chi ac sy'n rheoli'r wybodaeth a roddir yw'r Hyb Diogelu Amlasiantaethol (MASH), sy'n cynnwys:
- Cyngor Caerdydd (Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, Tai a Chymunedau)
- Heddlu De Cymru (HDC)
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (GCPhEF)
Mae darparwyr trydydd sector yn ymwneud yn rhithwir â'r broses MASH i roi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig yn unol â'r gynhadledd amlasiantaeth asesu risg (CAAR).
Pam rydym yn rhannu gwybodaeth
Mae gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu er mwyn:
- Ymateb i bryderon diogelu neu anghenion gofal a chymorth
- Cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol ar gyfer diogelu.
Mae'r holl Asiantaethau sy'n cymryd rhan yn y broses MASH yn prosesu gwybodaeth bersonol, sy'n ymwneud â chi neu aelodau o'ch teulu; diogelwch, llesiant ac amddiffyniad rhag niwed, esgeulustod a chamdriniaeth.
Mae pob aelod o staff a gyflogir gan yr asiantaethau hyn yn rhwym gan y ddyletswydd cyfrinachedd cyfraith gyffredin sy'n golygu bod yn rhaid cadw'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni yn gyfrinachol ac nad yw'n cael ei rhannu ag unrhyw un arall oni bai:
- Mae rhwymedigaeth gyfreithiol neu ganiatâd cyfreithiol i bartneriaid ddatgelu'r wybodaeth i sefydliad neu berson arall.
- Mae protocolau ar waith sy'n caniatáu i bartneriaid rannu gwybodaeth amdanoch chi/eich teulu i gefnogi unrhyw ymyrraeth neu wasanaethau a ddarperir.
Rhaid cymryd camau rhesymol i fodloni anghenion cyfathrebu'r defnyddiwr gwasanaeth. Dylid rhannu'r anghenion hyn rhwng partneriaid fel rhan o brosesau/protocolau rhannu gwybodaeth lleol, integredig.
Cadw data
Mae eich data yn cael ei gadw am y cyfnod amser canlynol, yn dibynnu ar y math o ymyrraeth:
| Math o ymyrraeth | Cyfnod amser |
|---|---|
| Amddiffyn Plant (Adran 47 neu Gofrestriad DP) | 35 mlynedd ar ôl cau |
| Plant sy'n Derbyn Gofal | 75 mlynedd ar ôl y pen-blwydd yn 18 oed |
| Plant wedi'u Mabwysiadu | 100 mlynedd |
| Plant sy'n destun Asesiad Llesiant (Dim Camau Pellach) | 5 mlynedd ar ôl cau |
| Plant sy'n destun Asesiad Llesiant (Gwaith Parhaus) | 7 mlynedd ar ôl cau |
| Plant sy'n destun Asesiad Helpu Teuluoedd (Dim Gwaith Parhaus) | 5 mlynedd ar ôl cau |
| Plant sy'n destun Asesiad Helpu Teuluoedd (Gwaith Parhaus) | 7 mlynedd ar ôl cau |
Eich hawliau diogelu data
Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy'n cynnwys:
Eich hawl mynediad
Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gywiro
Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
Eich hawl i ddileu
Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
Eich hawl i gyfyngu ar brosesu
Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu
Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
Eich hawl i gludadwyedd data
Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.
Nid oes angen i chi dalu i arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.
Cysylltwch â ni yn [email protected] os hoffech wneud cais neu gwblhau'r Ffurflen Hawliau Unigolion.
Os oes gennych bryder am blentyn sydd mewn perygl o niwed, cysylltwch â'r MASH ar 02920 536490.
Os oes gennych bryder am blentyn sydd mewn perygl o niwed, cysylltwch â'r MASH ar 02920 338439.
Yn achos argyfwng y tu allan i 8:30am i 5pm o Ddydd Llun i Ddydd Iau a 8:30am i 4:30pm Ddydd Gwener, ffoniwch y Tîm Dyletswydd Argyfwng ar: 02920 788570.
Os ydych yn meddwl bod plentyn neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â'r heddlu ar 999.
Sut i gwyno
Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni yn [email protected].
Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi defnyddio eich data:
Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cysylltu â Diogelu Data
Cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data i gael rhagor o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data Tîm Llywodraethu Gwybodaeth Neuadd y SirGlanfa'r IweryddCaerdyddCF10 4UW
E-bost: [email protected]
Y tro diwethaf i'r hysbysiad preifatrwydd hwn gael ei ddiweddaru oedd 9 Mehefin 2025.
