Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Prevent a Channel yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan gewch eich atgyfeirio i a'ch mabwysiadu yn y Panel Channel neu'r Panel Below The Threshold.
Mae'r Rhaglen Prevent gan gynnwys y Panel Channel a'r Panel Below The Threshold yn wasanaethau a gydlynir gan Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion y data sy'n cael eu casglu. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.
Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?
Wrth arfer ein Dyletswydd Prevent Statudol, bydd Prevent, Channel a Below The Threshold yn casglu gwybodaeth amrywiol a allai gynnwys unrhyw beth o blith y data canlynol:
Data personol
- Manylion personol
- Manylion teulu
- Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
- Manylion ariannol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Anghenion tai
- Delweddau gweledol, golwg personol, ac ymddygiad
- Trwyddedau a feddir
- Cofnodion myfyriwr a disgybl
- Gwybodaeth ffeil achos
- Data genedigaethau a marwolaethau
Dosbarthiadau arbennig o ddata personol
- Manylion iechyd meddwl neu gorfforol
- Tras hil neu dras ethnig
- Ymlyniad gwleidyddol
- Barn wleidyddol
- Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig)
- Credoau crefyddol neu gredoau eraill o natur debyg
- Achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
- Cyfeiriadedd rhywiol
Y sail gyfreithlon y dibynnir arni yw Tasg Gyhoeddus (e) wedi'i chefnogi gan y ddeddfwriaeth Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015.
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data categori arbennig yw:
Erthygl 9.2(g) ar gyfer data categori arbennig: Mae'r prosesu'n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail cyfraith ddomestig a fydd yn gymesur â'r amcan a geisir ac yn gosod mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau a buddiannau sylfaenol gwrthrych y data.
Amod Atodlen 1: Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl.
O dan Ddeddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015 mae dyletswydd gyfreithiol ar bob Awdurdod Lleol ac awdurdodau penodol eraill i ystyried yn briodol yr angen i atal pobl rhag cael eu denu gan derfysgaeth. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i gael eu radicaleiddio neu ymwneud â therfysgaeth.
Nod rhaglen Prevent a phaneli Channel a Below the Threshold yw:
- Ymateb i her ideolegol terfysgaeth a'r bygythiad rydym yn ei wynebu gan y rhai sy'n ei hyrwyddo.
- Atal pobl rhag cael eu denu gan derfysgaeth a sicrhau eu bod yn cael cyngor a chymorth priodol yn gynnar.
- Galluogi'r rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn terfysgaeth i ymwrthod â hyn ac i adsefydlu.
Sut rydym yn casglu eich data?
Mae'r rhaglen Prevent, a'r paneli Channel a Below the Threshold yn casglu data ac yn prosesu data pan:
- Wneir atgyfeiriad i Prevent.
- Bydd data'n cael ei dderbyn gan bartneriaid ar gyfer yr atgyfeiriad cychwynnol a fydd yn cynnwys data sy'n bodoli eisoes.
- Gwneir sgan partneriaeth ar draws addysg, iechyd, y gwasanaeth prawf a sefydliadau eraill a allai fod yn ymwneud â'r unigolyn eisoes, y gellir ei ddefnyddio i gasglu data newydd.
- Bydd rhagor o ddata yn cael ei gasglu o adroddiadau gan Ddarparwyr Ymyrraeth a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â chynlluniau cymorth.
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Gall Prevent a Channel ddefnyddio eich data ar gyfer y canlynol:
Mae rhannu data yn agwedd bwysig ar Prevent, a phaneli Channel a Below The Threshold gan ei fod yn caniatáu i asiantaethau weithio mewn partneriaeth fel bod unigolion a'r cyhoedd yn cael eu cadw'n ddiogel, yn ogystal â galluogi unigolion i fod yn fwy cadarn a chyfrannu at eu llesiant eu hunain. Er mwyn helpu gyda hyn, rydym yn defnyddio data a gwybodaeth o ystod o ffynonellau, gan gynnwys data sy'n cael ei gasglu ar iechyd, addysg, ymwneud â throseddau ac anghenion tai unigolyn.
Mae'r rhaglen Prevent a'r paneli Channel a Below The Threshold yn rhannu eich gwybodaeth bersonol dim ond am y rhesymau a nodir dan y Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 uchod, oni bai bod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu inni ei rannu am reswm arall, er enghraifft, i'ch amddiffyn chi neu eraill rhag niwed.
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn ddiogel, yn gyfan gwbl ar sail angen gwybod yn unig gan y rhai sydd wedi'u hawdurdodi'n benodol i wneud hynny ac ni fydd yn cael ei chadw'n hirach na'r angen.
Pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth, efallai y byddwn yn ei chael gan neu'n ei rhannu â rhai o'r partneriaid a restrir isod neu bob un lle bo hynny'n berthnasol, yn angenrheidiol a gyda chaniatâd priodol:
- Teulu, cymdeithion neu gynrychiolwyr y person y mae ei ddata personol yn cael ei brosesu gennym
- Sefydliadau gofal iechyd, cymdeithasol a lles
- Darparwyr addysg a chyrff arholi
- Llywodraeth leol a chanolog
- Cyrff proffesiynol
- Heddluoedd, heddluoedd nad ydynt yn gysylltiedig â'r swyddfa gartref
- Darparwyr Tai Cofrestredig
- Landlordiaid y Sector Preifat
- Sefydliadau gwirfoddol ac elusennol
- Mudiadau ffydd
- Myfyrwyr a disgyblion gan gynnwys eu rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr neu gynrychiolwyr
- Llysoedd, carchardai
- Asiantaethau partner, sefydliadau cymeradwy ac unigolion sy'n gweithio gyda'r heddlu
- Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Grwpiau trydydd sector sydd wedi cael eu hyfforddi fel Hyrwyddwyr Prevent ac sy'n gweithio'n agos gyda Thîm Prevent yng Nghyngor Caerdydd
Sut rydym yn storio eich data?
Mae Prevent a Channel yn storio eich data yn ddiogel ar ein safle SharePoint diogel. Mae unrhyw ddata sy'n cael ei rannu drwy e-bost â phartneriaid sydd wedi ymrwymo i'r protocol TLS (Diogelwch Haen Cludo) sy'n gysylltiad e-bost diogel. Ar gyfer y sefydliadau hynny nad ydynt ar y cysylltiad diogel TLS, byddwn yn rhannu gan ddefnyddio e-bost wedi'i warchod gan gyfrinair.
Gellir cadw gwybodaeth o'r sianel am o leiaf 7 mlynedd o'r gweithredu diwethaf ar gyfer achosion o oedolion a hyd at 25fed pen-blwydd ar gyfer achosion yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, ac mae rhaid ei dinistrio wedyn. Bydd gwybodaeth a rennir yn y panel Below The Threshold yn cael ei chadw am gyfnod o chwe blynedd a chwe mis.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai Prevent a Channel wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:
Yr hawl i gyrchu gwybodaeth
Mae gennych hawl i ofyn i Prevent a Channel am gopïau o unrhyw ran o'ch data personol.
Yr hawl i gywiro
Mae gennych hawl i ofyn i Prevent a Channel gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae hefyd gennych chi hawl i ofyn i Prevent a Channel gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu
Mae gennych hawl i ofyn i Prevent a Channel ddileu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
Mae gennych hawl i ofyn i Prevent a Channel gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i wrthod prosesu
Mae gennych hawl i wrthod i Prevent a Channel brosesu eich data personol, o dan rai amodau.
Yr hawl i gludo data
Mae gennych hawl i ofyn i Prevent a Channel drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni drwy ein cyfeiriad e-bost: [email protected].
Neu ysgrifennwch atom:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Bydd y rhaglen Prevent a'r panel Channel yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar ym mis Mai 2025.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd Prevent a Channel, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost i [email protected] neu drwy'r post:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol
Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Prevent a Channel wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei wefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.
