Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Polisi derb​yn i ysgolion

Mae'n ofynnol i ni ymgynghori ar y trefniadau derbyn i ysgolion a'u gosod ar gyfer ysgolion cymunedol a gwirfoddol a reolir bob blwyddyn.

Mae'r Polisi Derbyn ar gyfer:

  • Ysgolion meithrin cymunedol
  • Ysgolion cynradd cymunedol a gwirfoddol a reolir
  • Ysgolion uwchradd cymunedol

 


Mae'n rhaid i ni gynnal ymgynghoriad ffurfiol cyn gosod y trefniadau derbyn. Gweld manylion yr Ymgynghoriad Polisi Derbyn Ysgolion diweddaraf.

Rydym hefyd yn cydlynu derbyniadau i nifer o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sylfaen, ond nid ni yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgolion hyn.

Gallwch gysylltu â'r ysgolion hyn yn uniongyrchol i gael gwybod am eu polisïau derbyn eu hunain neu ddod o hyd iddynt yn y:
 

Amrywio Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2026 i 2027 Wedi'u Pennu

Yn dilyn ymgynghoriad rhwng 3 Rhagfyr 2024 a 17 Ionawr 2025, cafodd Trefniadau Derbyn i Ysgolion Caerdydd 2026 i 2027 eu pennu ar 20 Mawrth 2025. Yn ddiweddarach, cafodd y Cyngor wybod am gamgymeriad yn ei drefniadau yn ymwneud ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg.

Rhoddodd y trefniadau blaenorol a bennwyd gan Gorff Llywodraethu'r ysgol flaenoriaeth i ddysgwyr sy'n byw yng nghymuned Pentref Llaneirwg. Roedd ffiniau'r ardal hon yn wahanol i'r dalgylch a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd.

Cafodd yr ardal a bennwyd gan y Corff Llywodraethu ei chynnwys yn ei drefniadau derbyn am nifer o flynyddoedd ac roedd ffin yr ardal hon yn wahanol i'r ffin a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor.

Yn unol â gofynion y Cod Derbyn i Ysgolion, mae'r Cyngor felly wedi cyfeirio hyn at Weinidogion Cymru i'w benderfynu.
Pe bai'n cael eu pennu, byddai'r trefniadau wedi'u hamrywio'n cynnwys dalgylch ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, sef Cymuned Pentref Llaneirwg.