Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Panel apeliadau addysg annibynnol

Mae gan rieni a gofalwyr yr hawl gyfreithiol i apelio yn erbyn ein penderfyniad i wrthod lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis. Mae'r apeliadau hyn yn cael eu clywed gan banel annibynnol o 3 unigolyn.

Mae pob ysgol gymunedol yng Nghaerdydd yn cael eu gwasanaethu gan y Panel Apeliadau Ysgolion Annibynnol.

Rydym yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â'r panel ar hyn o bryd.

Beth mae'r paneli apeliadau yn ei wneud?

Mae paneli apeliadau derbyniadau addysg yn clywed tystiolaeth a gwneud penderfyniadau am apeliadau gan rieni neu warcheidwaid sy'n dymuno herio penderfyniad i beidio â derbyn plentyn i'r ysgol o'u dewis. Bydd y panel yn ystyried:

  • y polisïau derbyn i ysgolion perthnasol ac a ydynt wedi'u cymhwyso'n gyfreithlon, ac
  • achos y rhieni dros dderbyn eu plentyn i ysgol a ffefrir.

Mae paneli adolygiadau annibynnol gwaharddiadau yn ystyried apeliadau gan rieni neu ofalwyr y mae eu plant wedi cael eu gwahardd yn barhaol o ysgol. Bydd y panel yn:

  • ystyried penderfyniad corff llywodraethu i gefnogi gwaharddiad parhaol, a
  • phenderfynu a ddylid cytuno ar eu penderfyniad ai peidio.

Aelodau'r Panel

Mae'r paneli'n cynnwys arbenigwyr addysg ac aelodau anarbenigol. Mae angen 3 aelod panel ar gyfer pob gwrandawiad apêl.

Ar gyfer apeliadau derbyniadau addysg, mae'r panel yn cynnwys:

  • 1 aelod o staff, a
  • 2 aelod anarbenigol.

Ar gyfer apeliadau gwaharddiadau parhaol mae'r panel yn cynnwys:

  • 1 ymarferydd addysg, ac
  • 1 llywodraethwr ysgol ac
  • 1 aelod anarbenigol.

Bydd gan bob panel glerc cyfreithiol i gynghori ar bob mater cyfreithiol a bydd rhywun yn cymryd nodiadau i gofnodi'r trafodion.

Y rôl a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch

Fel aelod o'r panel, byddwch yn:

  • Darllen gwaith papur a sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir ar gyfer pob apêl.
  • Deall polisïau a deddfwriaeth berthnasol (rhoddir hyfforddiant).
  • Meddu ar sgiliau gwrando a chyfathrebu da.
  • Gweithio gyda gonestrwydd a thegwch.
  • Gallu ymarfer barn gadarn a gwneud penderfyniad rhesymegol da.
  • Ymwybodol o faterion cydraddoldeb.
  • Dibynadwy ar ddiwrnodau gwrandawiad apêl.
  • Gallu gweithio gydag aelodau eraill o'r panel apeliadau.

Byddwch yn cael hyfforddiant llawn.

Mae aelodau'r panel yn darparu gwasanaeth gwirfoddol pwysig. Gallant hawlio treuliau, fel teithio, wrth fynychu apeliadau a hyfforddiant.

Fel arfer, cynhelir apeliadau wyneb-yn-wyneb yng nghanol Caerdydd. Bydd lluniaeth ar gael. Mae rhai apeliadau'n cael eu clywed o bell.

Mae apeliadau'n cael eu clywed drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o apeliadau'n cael eu clywed rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf. Maent yn digwydd yn ystod y dydd, fel arfer rhwng 10am a 4pm.

Os hoffech ddysgu mwy am ddod yn aelod panel, e-bostiwch ni. Byddwn yn anfon ffurflen gais atoch.

E-bost: [email protected]