Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Derbyniadau i ysgolion meithrin

Mae gan blant hawl i gael lle rhan-amser mewn meithrinfa o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.

Byddant yn aros yn yr ysgol feithrin tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed pan fyddant yn dechrau'r dosbarth derbyn yn yr ysgol.

Mewngofnodwch i'r system derbyn i ysgolion

Gallwch weld dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch:

Os ydych chi wedi methu dyddiad y cais

Os ydych chi wedi methu'r dyddiad cau i wneud cais am le i ddechrau ym mis Medi 2026, cwblhewch gais hwyr.

Cwblhewch y ffurflen gais hwyr

Addysg Gymraeg

Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, pa bynnag iaith rydych yn ei siarad gartref.

Mae teuluoedd o bob math yn elwa ar addysg Gymraeg: teuluoedd nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg a rhai sydd yn ei siarad hi, teuluoedd o bob math o gefndir ethnig a chrefyddol, teuluoedd o Gymru a'r rhai sydd wedi symud yma o rywle arall.

Mae addysg Gymraeg yn galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Gall roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn.

Gwelwch ragor o wybodaeth am addysg Gymraeg.

Y Broses ymgeisio

Plant a anwyd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 (i ddechrau yn nhymor yr Hydref 2026)

 

Os ganwyd eich plentyn rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023
DyddiadCam yn y broses ymgeisio
26 Ionawr 2026Mae'r broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin ym mis Medi 2026 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor.
23 Chwefror 2026Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
Chwefror, Mawrth ac Ebrill 2026Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni.
6 Mai 2026Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig.
20 Mai 2026Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
O 21 Mai 2026Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu.
Mehefin 2026Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen.
Medi 2026Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.

 

Plant a anwyd rhwng 1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023 (i ddechrau yn nhymor y Gwanwyn 2027)

 

Os ganwyd eich plentyn rhwng 1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023
DyddiadCam yn y broses ymgeisio
1 Mehefin 2026Proses gwneud cais am leoedd meithrin yn ystod Gwanwyn a Haf 2027 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor.
29 Mehefin 2026Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
Gorffennaf i Medi 2026Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni.
5 Hydref 2026Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig.
Hydref 2026Mae rhestrau aros yn cael eu sefydlu.
19 Hydref 2026Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
Hydref 2026Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu.
Tachwedd 2026Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen.
Tymor y gwanwyn 2027Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.

 

Plant a anwyd rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2024 (i ddechrau yn nhymor yr Haf 2027)

 

Os ganwyd eich plentyn rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2024
DyddiadCam yn y broses ymgeisio
1 Mehefin 2026Proses gwneud cais am leoedd meithrin yn ystod Gwanwyn a Haf 2027 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor.
29 Mehefin 2026Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
Gorffennaf i Medi 2026Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni.
8 Ionawr 2027Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig.
Ionawr 2027Mae rhestrau aros yn cael eu sefydlu.
22 Ionawr 2027Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
Ionawr 2027Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu.
Chwefror 2027Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen.
Tymor yr haf 2027Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.

 

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:

Cysylltu â ni

Neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.