Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Derbyniadau i ysgolion cynradd

Mae plant yn dechrau yn y dosbarth derbyn yn y mis Medi ar ôl troi'n 4 oed. Bydd rhieni plant mewn ysgol feithrin yng Nghaerdydd yn cael manylion am y broses ymgeisio.

Gallwch wneud cais am le mewn dosbarth derbyn mewn unrhyw ysgol gynradd yng Nghaerdydd.

Mae pob ardal yng Nghaerdydd yn cael ei gwasanaethu gan:

  • Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg,
  • Ysgol Gynradd Cyfrwng Saesneg,
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys Yng Nghymru, ac
  • Ysgol Gynradd Gatholig.

Nid oes angen i chi allu siarad Saesneg neu Gymraeg na dilyn crefydd penodol i fynd i unrhyw un o'r ysgolion hyn.

Gallwch gweld manylion eich ysgolion agosaf a dalgylchoedd drwy ddefnyddio'r tab Ysgolion Agosaf. Mae'r pellteroedd yn bellteroedd uniongyrchol felly efallai na fyddan nhw'n llwybrau cerdded diogel.

Rydym yn cynnal rhaglen dderbyn gydlynol gyda 21 ysgol. Bydd yn rhaid i rieni sy'n gwneud cais am le yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant John Lloyd wneud cais yn uniongyrchol i'r ysgol.
 

Amrywio Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2026 i 2027 Wedi'u Pennu

Rydym wedi cael gwybod am gamgymeriad yn ein trefniadau derbyn ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg. Roedd y trefniadau blaenorol yn rhoi blaenoriaeth i ddysgwyr sy'n byw yng nghymuned Pentref Llaneirwg. Roedd ffiniau'r ardal hon yn wahanol i ddalgylch y Cyngor.

O dan y Cod Derbyn i Ysgolion, mae rhaid i ni gyfeirio hyn at Weinidogion Cymru am gytundeb. Pe byddent yn cytuno ar y trefniadau wedi'u hamrywio, cymuned Pentref Llaneirwg fydd y dalgylch ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg.

Diwrnod cynnig lleoedd ysgol

O ddydd Iau 16 Ebrill 2026, byddwn yn anfon llythyr atoch ar gyfer lleoedd ysgol gynradd yn dechrau ym mis Medi 2026 drwy e-bost a phost.

Gweld y crynodeb o'r dyraniad lleoedd (PDF, 98 KB).

Byddwch yn derbyn un ai:

  • lle yn eich ysgol ddewis gyntaf,
  • lle mewn ysgol ddewis is, neu
  • dim cynnig.

Os ydych wedi derbyn cynnig am le yn un o'ch ysgolion dewisol, rhaid i chi ymateb i'r cynnig erbyn dydd Iau 30 Ebrill 2026.

Gweld copi o'r llythyr cynnig dewis cyntaf (PDF, 152 KB)

Os ydych wedi derbyn cynnig am le yn eich ysgol ddewis is, mae hyn yn golygu nad oes digon o leoedd ar gael yn eich dewis cyntaf. Hyd yn oed os nad ydych yn siwr am y dewis is a gaiff ei gynnig, rydym yn eich annog yn gryf i dderbyn y cynnig hwn erbyn y dyddiad cau ac aros ar y rhestr aros ar gyfer eich ysgol dewis uwch. Bydd hawl i apelio yn parhau i fod gennych, hyd yn oed os byddwch yn derbyn cynnig is.

Derbyniadau i ysgolion cynradd - Llythyr cynnig dewis is (PDF, 207 KB)

Os nad ydych wedi derbyn unrhyw gynnig, mae hyn yn golygu nad oes gan unrhyw un o'ch dewisiadau ddigon o leoedd ar gael. Mae lleoedd amgen yn parhau i fod ar gael mewn ysgolion yng Nghaerdydd ar gyfer eich plentyn. Byddwn wedi anfon rhestr atoch o ysgolion lle mae lleoedd ar gael.

Gweld copi o lythyr dim cynnig (PDF, 128 KB).

Ymateb i'r llythyr cynnig

Rhaid i chi ymateb i'r cynnig erbyn dydd Iau 30 Ebrill 2026.

Gallwch ymateb trwy:

  • fewngofnodi i'r system ceisiadau llefydd ysgol, neu
  • e-bostio [email protected]. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys enw a dyddiad geni'r plentyn.

Mewngofnodwch i'r system derbyn i ysgolion

Os na fyddwch yn ymateb i'r cynnig erbyn 30 Ebrill 2026, byddwn yn cymryd yn ganiataol nad ydych am gael y lle hwnnw mwyach ac efallai y caiff eich cynnig ei dynnu'n ôl.

Os byddwch yn derbyn y lle, bydd yr ysgol yn cysylltu â chi gyda manylion ynghylch y trefniadau derbyn.

Os ydych chi wedi methu dyddiad y cais

Mae ceisiadau wedi cau. Os ydych chi wedi methu'r dyddiad cau i wneud cais am le i ddechrau ym mis Medi 2026, cwblhewch gais hwyr.

Cwblhewch y ffurflen gais hwyr

Gallwch wneud cais am ysgolion ffydd drwy'r ysgol yn uniongyrchol.

Addysg Gymraeg

Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, beth bynnag yw'r iaith rydych yn ei siarad yn y tŷ.

Mae pob math o deuluoedd yn manteisio ar addysg Gymraeg:

  • teuluoedd di-Gymraeg a Chymraeg eu hiaith,
  • teuluoedd o bob math o gefndiroedd ethnig a chrefyddol,
  • teuluoedd o Gymru a'r rhai sydd wedi symud yma o rywle arall.

Manteision addysg Gymraeg

Mae addysg Gymraeg yn galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Gall roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn.

Gwelwch ragor o wybodaeth am addysg Gymraeg.

Y broses ymgeisio

Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022
DyddiadCam yn y broses ymgeisio
10 Tachwedd 2025Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2026 yn cychwyn.
12 Ionawr 2026Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais hwyr.
Chwefror i Ebrill 2026Caiff ffurflenni eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni.
16 Ebrill 2026Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 10am ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn.
30 Ebrill 2026Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
Mai 2026Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu.
Mehefin 2026Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen.
Medi 2026Plant yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser.

Derbyniadau cydlynol

Rydym yn cynnal rhaglen derbyniadau cydlynol gyda:

  • Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Yr Holl Seintiau
  • Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Esgob Childs
  • Ysgol Gynradd Gatholig Crist y Brenin
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Teulu Sanctaidd
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys Yng Nghymru Dinas Llandaf
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette
  • Ysgol Gynradd Gatholig Cadog Sant
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant
  • Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Ffransis
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Forwyn Fair
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Sant Paul
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Ffôn: 029 2087 2088