Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Dyddiadau pwysig

Gwiriwch y terfynau amser derbyn i ysgolion diweddaraf, a dewch o hyd i'r holl ddyddiadau sydd eu hangen arnoch fel nad ydych yn methu unrhyw ddyddiadau cau ar gyfer lleoedd ysgol eleni.

Dyddiadau derbyniadau ysgol feithrin

Os ganwyd eich plentyn rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 (i ddechrau yn nhymor yr Hydref 2026)
DyddiadCam yn y broses ymgeisio
26 Ionawr 2026Mae'r broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin ymmis Medi 2026 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor.
26 Chwefror 2026Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
Chwefror, Mawrth ac Ebrill 2026Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni.
6 Mai 2026Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig.
20 Mai 2026Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
O 21 Mai 2026Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu.
Mehefin 2026Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen.
Medi 2026Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.

 

Os ganwyd eich plentyn rhwng 1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023 (i ddechrau yn nhymor y Gwanwyn 2027)
DyddiadCam yn y broses ymgeisio
1 Mehefin 2026Proses gwneud cais am leoedd meithrin yn ystod Gwanwyn a Haf 2027 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor.
29 Mehefin 2026Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
Gorffennaf i Medi 2026Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni.
5 Hydref 20256Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig.
Hydref 2026Mae rhestrau aros yn cael eu sefydlu.
19 Hydref 2026Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
Hydref 2026Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu.
Tachwedd 2026Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen.
Tymor y gwanwyn 2027Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.

 

Os ganwyd eich plentyn rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2024 (i ddechrau yn nhymor yr Haf 2027)
DyddiadCam yn y broses ymgeisio
1 Mehefin 2026Mae'r broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin ymGwanwyn i Haf 2027 yn dechrau. Gwasanaeth cais ar-lein yn agor.
29 Mehefin 2026Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
Gorffennaf i Medi 2026Caiff ceisiadau eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni.
8 Ionawr 2027Diwrnod y cynnig. Byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch os ydych wedi gofyn i'ch cynnig gael ei anfon drwy'r post. Gellir hefyd rhoi penderfyniadau dros y ffôn ar ôl 10am ar ddiwrnod y cynnig.
Ionawr 2027Mae rhestrau aros yn cael eu sefydlu.
22 Ionawr 2027Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
Ionawr 2027Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu.
Chwefror 2027Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan drwy'r post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen.
Tymor yr haf 2027Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.

 

Dyddiadau derbyn i ysgol gynradd
 

Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022
DyddiadCam yn y broses ymgeisio
10 Tachwedd 2025Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2026 yn cychwyn.
12 Ionawr 2026Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais hwyr.
Chwefror i Ebrill 2026Caiff ffurflenni eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni.
16 Ebrill 2026Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch, neu os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post. Nodwch mai dim ond ar ôl 10am ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn.
30 Ebrill 2026Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
O 1 Mai 2026Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu.
Mehefin 2026Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen.
Medi 2026Plant yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser.

 

Dyddiadau derbyn i ysgolion uwchradd

 

Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2014 a 31 Awst 2015
DyddiadCam yn y broses ymgeisio
22 Medi 2025Y broses o wneud cais i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2026 yn cychwyn.
17 Tachwedd 2025Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais hwyr.
Rhagfyr 2025 i Chwefror 2026Caiff ffurflenni eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni.
2 Mawrth 2026Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch, neu os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post. Nodwch mai dim ond ar ôl 10am ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn.
16 Mawrth 2026Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
O 16 Mawrth 2026Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu.
Mai 2026Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen. Safleoedd Rhestr Aros ar gael.
Medi 2026Plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.

 

Ceisiadau hwyr

Mae'n bwysig eich bod yn cyflwyno'ch cais ar amser i wella eich siawns o gael lle yn yr ysgol o'ch dewis.

Os ydych wedi methu'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol, cwblhewch gais hwyr. Darganfod mwy am geisiadau hwyr.