Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Derbyniadau i ysgolion uwchradd

Mae plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd ar ôl iddynt droi'n 11. Bydd rhieni disgyblion ym mlwyddyn 6 mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn cael manylion am y broses ymgeisio.

Gallwch wneud cais am le ym mhob ysgol uwchradd gymunedol yng Nghaerdydd.

Rydym yn cynnal derbyniadau cydgysylltiedig gyda rhai ysgolion.

I gael lle yn Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i'r ysgol. I gael rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch y llyfryn derbyniadau ysgolion 2026 i 2027 (PDF, 7 MB).

Os yw eich plentyn eisoes yn yr ysgol uwchradd, gallwch wneud cais i newid ysgol.

Diwrnod cynnig lleoedd ysgol

O Ddydd Llun 2 Mawrth 2026, byddwn yn anfon llythyr cynnig atoch am leoedd ysgolion uwchradd ar gyfer Medi 2026 drwy e-bost a phost.

Gweld y crynodeb o'r dyraniad lleoedd.

Byddwch yn derbyn un ai:

  • lle yn eich ysgol ddewis gyntaf,
  • lle mewn ysgol ddewis is, neu
  • dim cynnig.

Os ydych wedi derbyn cynnig am le yn eich ysgol ddewis gyntaf, rhaid i chi ymateb i'r cynnig erbyn Dydd Llun 16 Mawrth 2026.

Gweld copi o'r llythyr cynnig dewis cyntaf (PDF, 353 KB).

Os ydych wedi derbyn cynnig am le yn eich ysgol ddewis is, mae hyn yn golygu nad oes digon o leoedd ar gael yn eich dewis cyntaf. Hyd yn oed os nad ydych yn siwr am y dewis is a gaiff ei gynnig, rydym yn eich annog yn gryf i dderbyn y cynnig hwn erbyn y dyddiad cau ac aros ar y rhestr aros ar gyfer eich ysgol dewis uwch. Bydd hawl i apelio yn parhau i fod gennych, hyd yn oed os byddwch yn derbyn cynnig is.

Gweld copi o'r llythyr cynnig dewis is (PDF, 365 KB).

Os nad ydych wedi derbyn unrhyw gynnig, mae hyn yn golygu nad oes gan unrhyw un o'ch dewisiadau ddigon o leoedd ar gael.  Mae lleoedd amgen yn parhau i fod ar gael mewn ysgolion yng Nghaerdydd ar gyfer eich plentyn. Byddwn wedi anfon rhestr atoch o ysgolion lle mae lleoedd ar gael.

Gweld Lythyr dim cynnig (PDF, 510 KB).

Ymateb i'r llythyr cynnig

Rhaid i chi ymateb i'r cynnig erbyn Dydd Llun 16 Mawrth 2026.

Gallwch ymateb trwy:

  • fewngofnodi i'r system ceisiadau llefydd ysgol, neu
  • e-bostio [email protected]. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys enw a dyddiad geni'r plentyn.  

Mewngofnodwch i'r system derbyn i ysgolion

Os na fyddwch yn ymateb i'r cynnig erbyn 16 Mawrth 2026, byddwn yn cymryd yn ganiataol nad ydych am gael y lle hwnnw mwyach ac efallai y caiff eich cynnig ei dynnu'n ôl.

Os byddwch yn derbyn y lle, bydd yr ysgol yn cysylltu â chi gyda manylion ynghylch y trefniadau derbyn.

Os ydych chi wedi methu dyddiad y cais

Mae ceisiadau wedi cau. Os ydych chi wedi methu'r dyddiad cau i wneud cais am le i ddechrau ym mis Medi 2026, cwblhewch gais hwyr.

Cwblhewch y ffurflen gais hwyr

Y broses ymgeisio

Gweler dyddiadau pwysig yn y broses ymgeisio:

Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2014 a 31 Awst 2015
DyddiadCam yn y broses ymgeisio
Dydd Llun 22 Medi 2025Y broses o wneud cais i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2026 yn cychwyn.
Dydd Llun 17 Tachwedd 2025Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais hwyr.
Rhagfyr 2025 i Chwefror 2026Caiff ffurflenni eu prosesu a'u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu'r cyfeiriad a'r wybodaeth ategol rydych wedi'u rhoi i ni.
Dydd Llun 2 Mawrth 2026Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch, neu os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post. Nodwch mai dim ond ar ôl 10am ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn.
Dydd Llun 16 Mawrth 2026Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
Ebrill 2026Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a'u hasesu.
Mai 2026Canlyniadau'r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu'n fisol o nawr ymlaen. Safleoedd Rhestr Aros ar gael.
Medi 2026Plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.

Derbyniadau cydlynol

Rydym yn cynnal rhaglen derbyniadau cydlynol gyda 5 ysgol:

  • Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog
  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Os ydych yn gwneud cais i Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi, Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog neu Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen ychwanegol. Cysylltwch â'r ysgol berthnasol i gael y ffurflen.

Byddwn ond yn ymdrin â'r rownd gyntaf o geisiadau ar gyfer pob ysgol gydgysylltiedig. Os byddwch yn colli'r dyddiad ymgeisio, cysylltwch â'r ysgolion yn uniongyrchol i gyflwyno ceisiadau hwyr.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Ffôn: 029 2087 2088