Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Help i wneud cais

Cyn i chi ddechrau'r broses ymgeisio gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ein 7 Awgrym ar wneud cais am le mewn ysgol.

Mae'r awgrymiadau ar wneud cais am le mewn ysgol hefyd ar gael mewn nifer o ieithoedd cymunedol:

Arabeg | Bengaleg | Cantoneg | Tsieceg | Mandarin | Pwyleg | Portiwgaleg | Rwmaneg | Rwseg | Somalieg | Wcreineg

Derbyn i Ysgolion Caerdydd

 

Os carech wylio'r fideo hwn gydag is-deitlau, cliciwch ar y botwm Subtitles / Close Caption (CC) ar waelod y sgrîn fideo.

Mae llawer o ysgolion gwych yng Nghaerdydd, ond mae'r lleoedd yn llenwi'n gyflym.

Dyma ambell awgrym i'ch helpu i wneud cais am le mewn ysgol:

7 darn o gyngor i'ch helpu i wneud cais am le mewn ysgol (PDF, 952 KB).

Mae'r wybodaeth yn y ddogfen hon yn cynnwys lluniau ac wedi'i dylunio i'w hargraffu.

Gallwch weld crynodeb o'r wybodaeth ar y dudalen hon.

7 darn o gyngor i'ch helpu i wneud cais am le mewn ysgol

Dysgwch am ysgolion

Edrychwch ar ysgolion yn eich ardal. Ewch i'w gwefan, edrychwch ar eu prosbectws a darllenwch yr adroddiad Estyn.

Dewch o hyd i wybodaeth am ysgolion yn eich ardal chi.

Ceisiwch drefnu ymweliad

Nid yw'r ffaith eich bod wedi clywed am ysgol yn golygu eich bod yn ei hadnabod.

Edrychwch ar wefannau ysgolion, darllenwch adroddiadau a gofynnwch a allwch ymweld.

Dewch i nabod eich ardal

Edrychwch i weld pa ysgolion sydd yn eich ardal chi.

Ni allwn roi sicrwydd i chi o le yn eich ysgol agosaf, ond mae dysgu mwy amdani yn lle da i ddechrau. Mae rhai ysgolion yn boblogaidd iawn, felly rydym yn sicrhau bod pobl yn byw yn y cyfeiriad y maent yn ei roi i ni, hyd at y dyddiad derbyn.

Rhestrwch eich dewis ysgolion

Gobeithiwn y cewch le yn eich dewis cyntaf o ysgol ond yn aml nid yw hynny'n bosibl. Mae gan bob ysgol uchafswm y gallant ei dderbyn. Meddyliwch am bob dewis yn ofalus.

Nodyn: Mae lleoedd ysgol yn llenwi'n gyflym, felly nodwch eich holl ddewisiadau i wneud yn siŵr y gallwn roi eich dewis uchaf posibl i chi.

Mae rhestru eich holl ddewisiadau o'r dechrau yn bwysig iawn.

Anfonwch fanylion atom

Rydym am i'ch plentyn gael y lle gorau posibl. Gallwch helpu drwy anfon unrhyw dystiolaeth pan fyddwch yn gwneud cais.

Dywedwch wrthym os oes gan eich plentyn:

  • unrhyw frodyr neu chwiorydd yn yr ysgol
  • unrhyw anghenion dysgu ychwanegol
  • unrhyw anghenion meddygol neu gymdeithasol sy'n golygu bod angen iddo fynd i un ysgol ac nid un arall

Rhowch wybod i ni os bydd unrhyw beth yn newid.

Gwnewch gais mewn da bryd

Mae yna ddyddiad cau. Rydym yn gwirio ceisiadau sy'n dod i law ar amser yn gyntaf.

Os methwch chi'r dyddiad cau, byddwch chi'n colli'r rownd gyntaf. Yna mae'n rhaid i chi lawrlwytho ffurflen a'i hanfon i mewn. Mae hynny'n cymryd mwy o amser a gallech golli lle mewn ysgol a ddewisoch.

Peidiwch â bod yn hwyr

Mae 60% o ysgolion Caerdydd yn llenwi yn y rownd gyntaf.

Gwnewch gais ar-lein

Gallwch wneud cais am le ysgol ar-lein.

Rydym yn ymdrin â derbyniadau i ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd drwy ein system dderbyn ar-lein.

Ceisiwch ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost bob tro y byddwch yn cysylltu â ni.

Mae rhai ysgolion ffydd yn rheoli eu lleoedd ysgol eu hunain - felly edrychwch ar eu gwefan i weld a oes angen i chi wneud cais yn uniongyrchol iddyn nhw.

Gofynnwch am help

Os nad oes gennych gyfrifiadur neu os oes angen help arnoch, gallwch wneud apwyntiad i ymweld â hyb neu ffoniwch ni ar 02920 872088.

Derbyn neu wrthod eich cynnig

Pan gewch gynnig ar gyfer ysgol yng Nghaerdydd, mae angen i chi ddweud wrthym a ydych am dderbyn y lle cyn gynted â phosibl. Efallai na fyddwch yn cael eich dewis cyntaf, ond byddwch yn aros ar y rhestr aros honno.

Os gwelwch yn dda, dywedwch wrthym os nad ydych am dderbyn y lle fel y gallwn ei roi i rywun arall.

Gallwch apelio

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad am le mewn ysgol.

Bydd grŵp (panel) o wirfoddolwyr annibynnol, di-dâl yn gwrando ar eich apêl. Y panel sydd biau'r gair olaf.

Help gyda'r system ceisiadau ysgol

Os hoffech gael help i lenwi eich ffurflen gais gallwch ymweld ag un o'n hybiau cynghori.

Mae'r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi'u dylunio i'w hargraffu. Mae'n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.