Mae Cyngor Caerdydd wedi nodi cynlluniau i ehangu nifer y lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau arbenigol (CAAau) yn y ddinas. Nod hyn yw sicrhau bod anghenion pob dysgwr yn cael eu diwallu yn ein hysgolion.
Y nod yw:
- darparu mynediad cyfartal i addysg a chymorth arbenigol,
- lleihau dibyniaeth ar leoliadau annibynnol costus, a
- sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at gymorth yn agos at eu cartref.
Mae'r ehangiad hwn yn golygu bod angen cynnydd mewn athrawon arbenigol a chynorthwywyr addysgu.
Sut i wneud cais
Gallwch ymgeisio am rolau cynorthwy-ydd addysgu a dysgu ar wefan eTeach.
Dysgwch fwy am ddod yn athro arbenigol
Gallwch ddysgu mwy am ddod yn athro arbenigol yng Nghaerdydd.
Gallwch wylio mwy o fideos ar ein sianel YouTube.
Strategaeth Cynhwysiant Addysg Caerdydd
Mae'r ymgyrch recriwtio yn dilyn cyhoeddi Strategaeth Cynhwysiant Addysg Caerdydd. Ein gweledigaeth yw 'gweithio gyda'n gilydd a chymryd cyfrifoldeb ar y cyd dros sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Caerdydd yn llwyddo ac yn teimlo eu bod yn perthyn'.
Mae'r egwyddorion allweddol yn cynnwys:
- Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob dysgwr,
- Sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei ddathlu a gwerthoedd cynhwysol yn cael eu hymgorffori mewn ymarfer bob dydd,
- Blaenoriaethu lles a mynediad cyfartal at gymorth arbenigol.
Dysgwch fwy am y Strategaeth Cynhwysiant Addysg a sut mae'n adeiladu amgylchedd addysgol mwy cynhwysol a chefnogol yng Nghaerdydd.
Meysydd ar gyfer gweithredu
Mae ein meysydd gweithredu yn cynnwys:
- Dyfnhau ac ymgorffori ymarfer cynhwysol: Hyrwyddo diwylliant lle mae pob dysgwr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.
- Cryfhau ymgysylltiad dysgwyr: Sicrhau bod dysgwyr yn cyfrannu'n weithredol at eu haddysg.
- Y ddarpariaeth gywir a'r cymorth gorau: Addasu'r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion amrywiol, gan gynnwys ehangu CAAau.
- Diwallu anghenion pob dysgwr: Cynyddu lleoedd arbenigol lleol a chefnogi ysgolion prif ffrwd i nodi a mynd i'r afael ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
- Cefnogi a chryfhau'r gweithlu: Buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol ac arallgyfeirio'r gweithlu addysg.
