Rydym yn gwneud yn siŵr bod ysgolion yn fannau diogel lle mae plant, pobl ifanc a staff yn cael eu trin â pharch ac urddas.
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddiogelwch a lles myfyrwyr a staff, rydym wedi lansio ymgyrch sy'n hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel i bawb sy'n eu mynychu.
Y ffocws allweddol yw atgoffa cymunedau ysgol bod gan ddisgyblion a staff hawl i fynychu eu lleoliad addysg heb dderbyn camdriniaeth neu unrhyw fath o ymosodiad ymosodol. Ni fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef.
Rhaid i ddisgyblion, rhieni, ysgolion a'u cymunedau weithio gyda'i gilydd i gadw ysgolion yn ddiogel.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar wefan Ystafell Newyddion Caerdydd.
