Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Sut i gael mynediad at y​ gwasanaeth gofal i oedolion

Mae'r mwyafrif ohonom eisiau cael rheolaeth dros ein bywydau a byw mor annibynnol â phosibl, ond weithiau mae angen ychydig o gymorth ychwanegol arnom i wneud hyn.

Rydyn ni'n cynnig ac yn trefnu gwasanaethau gofal i oedolion sydd angen cymorth, gofal neu ddiogelwch, gan gynnwys pobl sy'n gadael yr ysbyty a gofalwyr mewn sefyllfaoedd anodd. Gallwn gynnig unrhyw rai o'r canlynol i'ch helpu i fyw yn fwy annibynnol:

  • gwybodaeth a chyngor.
  • wweithgareddau â chymorth mewn canolfannau dydd a lleoliadau cymunedol eraill.
  • cymorth i'ch galluogi i fanteisio ar hyfforddiant neu gyflogaeth.
  • seibiant byr i ofalwyr.
  • addasiadau i'r cartref neu offer arbennig i helpu pobl â salwch neu anabledd gyda'u gweithgareddau bob dydd.
  • offer cyfathrebu i fonitro eich diogelwch a'ch galluogi i alw am help.
  • llety â chymorth neu ofal mewn cartref preswyl neu nyrsio.
  • gofal a chymorth personol yn eich cartref.

Mae Gwasanaethau Cartref Cyngor Caerdydd (Tîm Adnoddau Cymunedol a Gwasanaeth Byw â Chymorth Caerdydd) yn cael eu rheoleiddio a'u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Gweler ein hadroddiadau arolygu a'n sgorau cyhoeddedig.

Oes gennyf hawl i gael gwasanaethau?

Os ydych yn oedolyn ag anghenion gofal cymdeithasol a all effeithio ar eich iechyd, diogelwch neu annibyniaeth, gallai fod angen cymorth ychwanegol arnoch. Mae gennym ddyletswydd i asesu eich anghenion a sicrhau eu bod yn cael eu diwallu yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi.

Gall anghenion godi o:

  • namau neu anableddau corfforol, synhwyraidd neu ddysgu
  • oedran
  • salwch cronig
  • anawsterau iechyd meddwl, gan gynnwys dementia neu broblemau gyda'r cof.
  • dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau.

Byddwn yn ystyried a oes angen gofal a chymorth arnoch i gyflawni canlyniadau personol mewn perthynas â'r canlynol:

  • eich gallu i gynllunio neu reoli eich arferion personol neu ddyddiol
  • eich gallu i gyfathrebu
  • eich amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod
  • eich gallu i gymryd rhan mewn gwaith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden
  • eich gallu i gynnal perthnasau teuluol neu bersonol pwysig eraill
  • eich gallu i ddatblygu a chynnal perthnasau cymdeithasol ac ymgysylltu â'r gymuned ehangach
  • eich gallu i fodloni eich cyfrifoldebau gofalu am blentyn

Gallech hefyd fod yn gymwys oherwydd amgylchiadau gwahanol, er enghraifft os ydych yn ofalwr di-dâl mewn sefyllfa anodd.


029 2023 4234

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol