Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Asesiadau gofal

I ddeall sut y gallwn eich helpu i gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir bydd angen i ni siarad gyda chi am eich sefyllfa. Gelwir hyn yn asesu.

Mae'r broses asesu yn hyblyg, yn dibynnu ar eich anghenion chi, a gall gael ei gyflawni gan ystod o weithwyr proffesiynol yn y maes gofal cymdeithasol yn gweithio ynghyd.

Beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym ni?

Mae'r asesiad fel arfer yn cynnwys cwestiynau ynghylch:

  • eich amgylchiadau personol a'r problemau yr ydych yn eu cael a arweiniodd at ofyn am help
  • yr hyn sy'n bwysig i chi - eich nodau personol
  • yr hyn sy'n eich atal rhag cyflawni'r nodau hynny a'r datrysiadau posibl
  • risgiau i chi neu bobl eraill os na chyflawnir y canlyniadau hynny
  • eich cryfderau a'ch galluoedd personol

Mae'r asesiad yn ddarlun ohonoch chi a'ch anghenion ar adeg benodol. Gellir ei ailadrodd ar unrhyw bryd.

Mae gennych hawl i gael eiriolwr neu rywun i'ch cefnogi os oes angen help arnoch i ateb y cwestiynau hyn.

Ar ôl yr asesiad, byddwn yn gweithio gyda chi i gytuno ar ba fath o gymorth fyddai orau i chi, pryd a pha mor aml yr hoffech y cymorth hwnnw.

Beth os bydd fy amgylchiadau yn newid?

Gall eich anghenion neu amgylchiadau newid yn y dyfodol. Dyna pam y byddwn yn adolygu eich cynllun ar ddyddiad y cytunwyd arno gyda chi ac yn gwirio'n rheolaidd ei fod yn diwallu eich anghenion.

Cynhelir y gwiriadau hyn fel arfer:

  • ar ôl y 4-6 wythnos gyntaf
  • unwaith y flwyddyn
  • pryd bynnag yr ydych yn rhoi gwybod i ni bod eich anghenion wedi newid

Rhowch wybod i ni ar unrhyw adeg os yw eich sefyllfa'n newid fel y gallwn addasu eich cynllun a sicrhau eich bod yn cael yr help cywir.

Defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i rannu gwybodaeth bersonol yr ydych wedi'i rhoi am eich hun gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn rhan o'ch gofal.

Gallwn eich sicrhau:

  • y bydd eich gwybodaeth yn chael ei rhannu'n gyfrifol ac yn ddiogel
  • trwy rannu gwybodaeth yn y ffordd hon ni fydd rhaid i chi ailadrodd eich stori i wahanol bobl ar wahanol adegau
  • bydd yn eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch mor gyflym â phosibl

Mae gennych yr hawl i ddweud 'na' os nad ydych am i ni rannu eich gwybodaeth.

Gofyn am asesiad

Os ydych chi'n meddwl bod angen gwasanaethau gofal arnoch chi neu rywun yr ydych yn ei nabod, cysylltwch â ni i gael asesiad.

[email protected]
029 2023 4234
029 2078 8570 - rhif argyfwng 24 awr


Gofyn am asesiad i rywun arall

Gallwch wneud atgyfeiriad i rywun sydd angen help a gofal. Bydd angen i ni ofyn rhywfaint o gwestiynau i chi am y person hwnnw:

  • manylion cyffredinol, fel enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac oedran.
  • rheswm dros gysylltu
  • hanes meddygol / iechyd meddwl
  • sut i gysylltu â'r person
  • risgiau posibl

Nid oes angen i chi wybod popeth am yr unigolyn cyn i chi gysylltu â ni, a rhannwch eich pryderon gyda ni.

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol