Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Pa gymorth y byddaf yn ei gael?

Pan fyddwch chi, neu rywun sy'n agos atoch, yn gofyn am gyngor a chymorth, byddwn wrth law i'ch helpu ac i gynnig gwybodaeth a chyngor ar yr amryw opsiynau sydd ar gael.

Bydd eich cymorth yn dibynnu ar y math o help sydd ei angen arnoch a byddwn yn ystyried:

  • A ydych yn gallu diwallu'r angen hwnnw ar eich pen eich hun;
  • A ydych yn gallu diwallu'r angen gyda gofal a chymorth pobl eraill sy'n barod i helpu;
  • A allwch ddiwallu'r angen gyda chymorth gwasanaethau y gallwch eu defnyddio yn y gymuned.

Gall cymorth lefel gyntaf fod ar ffurf gwybodaeth a chyngor a/neu gymorth gan eich cymuned leol.

Gadael yr ysbyty

I'ch helpu i gael eich hyder a/neu gryfder yn ôl ar ôl arhosiad byr yn yr ysbyty, neu pan fo angen i chi ddechrau bod yn annibynnol am y tro cyntaf, gall yr amryw opsiynau gynnwys:

  • Gwybodaeth a chyngor o ran pa gymorth sydd ar gael yn eich cymuned leol
  • Cymorth i fanteisio ar ofal a chymorth
  • Gofal yn eich cartref
  • Offer a chymhorthion i'ch helpu
  • Addasiadau bach e.e. rheiliau ar y grisiau

Beth os oes angen mwy o gymorth arnaf?

Os yw eich anghenion chi'n fwy, a bod angen mwy o gymorth arnoch, mae'r cymorth hwn yn debygol o gael ei ddarparu gan nifer o bobl neu asiantaethau gwahanol.

Yn yr achos hwn, mae'n debygol y bydd trefniadau ar gyfer eich gofal yn cael eu hysgrifennu mewn cynllun gofal a chymorth. Gelwir hwn yn gynllun gofal a thriniaeth ym maes iechyd meddwl.

Mae'r cynllun gofal yn ddogfen i'ch helpu chi i wybod beth mae pawb yn ei wneud, a phryd maen nhw'n gwneud hynny. Cewch gopi ohono.

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol