Os ydych chi wedi cael asesiad gan Wasanaethau Plant neu Oedolion, bydd Gweithiwr Cymdeithasol wedi trafod Taliadau Uniongyrchol gyda chi fel dewis er mwyn bodloni eich anghenion gofal a chymorth.
Mae Taliadau Uniongyrchol yn galluogi pobl i drefnu gofal a gwasanaethau drostynt eu hunain yn lle derbyn pecyn o ofal a drefnir gan yr Awdurdod Lleol. Mae Taliadau Uniongyrchol yn addas ar gyfer ystod eang o bobl, gan gynnwys:
- Rhieni a gofalwyr 16 oed neu'n hŷn
- Pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn gydag anableddau
- Pobl hŷn
- Oedolion sydd â namau corfforol neu synhwyrol
- Oedolion sydd ag anabledd neu broblemau iechyd meddwl
Bydd Derbynwyr Taliadau Uniongyrchol neu eu cynrychiolwyr yn aml yn gweld bod ganddynt:
- fwy o ddewis a rheolaeth dros y gwasanaethau maent yn eu derbyn a
- gofal wedi'i ddarparu mewn ffordd fwy cyfleus a hyblyg.
Gyda Thaliadau Uniongyrchol byddwch yn dewis pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch, pwy sy'n ei ddarparu a phryd bydd gofyn am wasanaethau.
Ydw i'n gymwys i gael Taliad Uniongyrchol?
Os oes gennych chi, neu eich gofalwr anghenion gofal neu gymorth na allwch eu bodloni heb cael help, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni i drafod eich sefyllfa.
Bydd angen i chi ymgymryd ag Asesiad Llesiant gan weithiwr cymdeithasol o'r adran Gwasanaethau Plant neu Oedolion, a fydd yn adnabod eich anghenion a'r ffordd orau i sicrhau y cânt eu bodloni.
Argymhellir Taliadau Uniongyrchol fel un o'r dulliau sy'n tyfu gyflymaf o ran bodloni canlyniadau pobl yng Nghymru, a'n nod ni yw sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu elwa arnynt.
Beth yw buddion Taliadau Uniongyrchol?
Mae nifer o fuddion os byddwch yn dewis defnyddio Taliad Uniongyrchol:
- Byddwch yn ymwneud mwy â'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eich bywyd.
- Rhoddir rheolaeth o ddydd i ddydd dros yr arian a darpariaeth eich gofal i chi.
- Mwy o hyblygrwydd a dewis, gan eich galluogi i brynu gofal sy'n fwy addas ar gyfer eich anghenion unigol.
- Byddwch yn gwneud trefniadau yn uniongyrchol fel y bydd unrhyw un sy'n ymwneud â'ch gofal yn adrodd i chi.
- Byddwch yn trefnu'r amserlen ar gyfer eich gofal.
Ar gyfer beth y gallaf ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol?
- Cyflogi cynorthwy-ydd personol i fodloni eich anghenion Gofal a Chymorth
- Prynu gwasanaethau o ficro-fenter sicrwydd ansawdd lleol
- Prynu gwasanaethau gan ddarparwr preifat o'ch dewis chi (e.e. asiantaeth gofal)
- Talu tuag at gostau cludiant fel y gallwch ymweld â ffrindiau neu deulu, neu fel y gallwch fwynhau gweithgareddau hamdden neu addysgol er mwyn diwallu'ch canlyniadau a aseswy
- Prynu cymorth er mwyn rhoi seibiant i'ch gofalwr di-dâl neu'ch gofalwr teuluol
- Prynu gofal seibiant neu breswyl
Ni ellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol ar gyfer:
- Prynu gwasanaethau iechyd e.e. gofal nyrsio
- Prynu eitemau personol neu foethus
- Talu biliau'r aelwyd
- Talu costau llety
Sut mae Taliadau Uniongyrchol yn gweithio yng Nghaerdydd?
Os ydych yn gymwys i gael Gofal a Chymorth gennym, bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy'n eich asesu wedi trafod Taliad Uniongyrchol gyda chi. Bydd y drafodaeth hon wedi cynnwys y lefelau cymorth angenrheidiol.
Fel Derbyniwr Taliad Uniongyrchol Caerdydd rhoddir pecyn Cymorth Craidd i chi, y byddwn yn ei drefnu gyda'r darparwr cymorth. Bydd hyn yn rhoi cyngor a chymorth rheng flaen gan Ymgynghorwyr Taliadau Uniongyrchol ar sut i reoli Taliad Uniongyrchol yn ogystal â threfniadau wrth gefn a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Os ydych yn dymuno recriwtio cynorthwy-ydd personol, cewch eich cyfeirio wedyn at y darparwr cymorth ar gyfer Gosod Cyflogwyr a Recriwtio Cychwynnol. Bydd hyn yn eich galluogi i gychwyn y prosesau angenrheidiol i fod yn gyflogwr, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfraith cyflogaeth a'r camau sydd eu hangen i hysbysebu a recriwtio ar gyfer staff.
Os ydych yn dymuno defnyddio microfenter, bydd y darparwr cymorth yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ddarparwr addas ac i'ch helpu i ddeall eich rhwymedigaethau wrth brynu gwasanaethau gan ficro-fenter.
Cymorth i reoli eich arian
Gall rheoli arian, yn enwedig pan gaiff ei ddarparu ar ffurf cronfa gyhoeddus , fod yn dasg heriol, ond bydd y darparwr cymorth yn gallu'ch helpu.
- Gwasanaeth Cyflogres - Ar gyfer helpu i reoli'r gweithgareddau sylfaenol y tu ôl i gyflogi cynorthwywyr personol, asiantaethau a darparwyr eraill, gallwn drefnu gwasanaeth Cyflogres ar eich rhan. Bydd y gwasanaeth hwn yn darparu cymorth ar ffurf cyngor ariannol, templedi a ffurflenni i reoli'r gyflogres.
- Bancio a Reolir - Pe byddai'n well gennych beidio â rheoli'r cyllid y tu ôl i'ch Taliad Uniongyrchol, gall y darparwr cymorth hefyd weithredu fel asiant ar eich rhan chi. Darperir hyn drwy wasanaeth Bancio wedi'i Reoli y gallwn ei threfnu yn yr un modd.
Gall gweithwyr cymdeithasol werthuso'r dewisiadau cywir i chi drwy'r broses asesu llesiant a byddant yn gwneud yr atgyfeirio unwaith i benderfyniad gael ei wneud. Am ragor o fanylion am sut y darperir y gwasanaethau hyn, gweler y llyfryn gwasanaethau.
Pwy fydd yn helpu ac yn cefnogi fy Nhaliad Uniongyrchol?
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda darparwr cymorth a aseiniwyd, Canolfan Dewis ar gyfer Byw yn Annibynnol, er mwyn sicrhau y caiff y sawl sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol eu cefnogi trwy'r broses o reoli eu Taliad Uniongyrchol.
Mae ganddynt brofiad helaeth o weithio gyda Thaliadau Uniongyrchol a byw'n annibynnol, yn ogystal â hanes cryf o gefnogi'r rhai gydag anableddau.
Mae'r gwasanaeth a ddarperir gan Dewis yn rhad ac am ddim i dderbynwyr Taliadau Uniongyrchol ac mae iddo bum elfen allweddol (mae'n bosibl na fydd gofyn amdanynt i gyd).
- Cymorth Craidd - help a chyngor ar reoli Taliadau Uniongyrchol.
- Cyflogres - cymorth gweinyddol gyda rheoli'r gyflogres i gyflogeion.
- Bancio a Reolir - swyddogaeth gymorth gynhwysfawr er mwyn rheoli cyllid Taliadau Uniongyrchol ar ran y derbyniwr.
- Gosod Cyflogwyr - helpu derbynwyr i fod yn gyflogwyr i'w Cynorthwywyr Personol eu hunain.
- Recriwtio - help a chyngor wrth recriwtio er mwyn bodloni anghenion Gofal a Chymorth.
