Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Person addas

Pan fydd rhywun yn cael ei asesu gan y Gwasanaethau Oedolion fel rhywun sydd angen gofal a chymorth, efallai y bydd yn gymwys i gael taliadau uniongyrchol. Gelwir y person hwn yn ddefnyddiwr gwasanaeth.

Dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, os nad oes gan y defnyddiwr gwasanaeth y galluedd meddyliol i gydsynio i daliadau uniongyrchol, efallai y byddant ar gael iddo o hyd os oes rhywun a all dderbyn a rheoli'r taliadau uniongyrchol ar ei ran. Gelwir y person hwn yn 'Berson Addas'.

Os ydych yn ystyried gweithredu fel Person Addas ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth nad oes ganddo alluedd, mae'r canllaw hwn i chi.

Cael eich penodi fel person addas

Ni allwch ddod yn berson addas yn awtomatig. Rhaid i chi fod yn rhywun:

  • sydd wedi cael Atwrneiaeth Arhosol dros Eiddo a Materion Ariannol ac Iechyd a Lles ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth; neu
  • sydd wedi'i benodi'n ddirprwy i'r defnyddiwr gwasanaeth gan y Llys Gwarchod; neu
  • yr ydym yn ystyried ei fod yn gweithredu er budd gorau'r defnyddiwr gwasanaeth.

Weithiau, ni allwch fod yn berson addas oherwydd y math o berthynas sydd gennych â'r defnyddiwr gwasanaeth gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Y cynorthwy-ydd personol a gyflogir drwy'r taliadau uniongyrchol
  • Gofalwyr bywydau a rennir
  • Gofalwr maeth

Yn ogystal, ni all Cyngor Caerdydd ysgwyddo'r cyfrifoldeb o fod yn Berson Addas.

 

Beth sy'n rhan o'r rôl?

Mae gan Berson Addas lawer o gyfrifoldebau. Rhaid i ni sicrhau bod y person sy'n ymgymryd â'r rôl yn fodlon ac yn alluog i gyflawni'r dyletswyddau, a all gynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol, er enghraifft, cyflogi staff a chadw cofnodion ariannol cywir.

Byddwn yn sicrhau bod unrhyw un sy'n ystyried bod yn Berson Addas yn deall yr hyn sy'n gysylltiedig fel y gall benderfynu a yw am barhau i wneud cais.

Mae gennym Wasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol a all roi'r cymorth sydd ei angen, fel recriwtio cynorthwywyr personol, sefydlu gwasanaethau cyflogres ac ati.

Rydym bob amser yn annog unrhyw un sy'n cael taliad uniongyrchol gennym, gan gynnwys unrhyw Berson Addas, i dderbyn cymorth y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol gan y bydd yn gallu eich helpu a'ch tywys ar hyd y ffordd.

Os byddwch yn dod yn Berson Addas, byddwch yn llofnodi Cytundeb Taliad Uniongyrchol gyda ni. Mae'r cytundeb hwn yn gontract cyfreithiol rwymol a fydd yn cynnwys yr hyn a ddisgwylir gan unrhyw un sy'n derbyn neu'n rheoli taliad uniongyrchol, gan gynnwys:

  • Atebolrwydd am y ffordd y caiff taliadau uniongyrchol eu defnyddio.
  • Rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau, anawsterau, neu os yw'r defnyddiwr gwasanaeth wedi adennill galluedd.
  • Dilyn cyfraith cyflogaeth os ydych yn cyflogi pobl.

Os oes gan y defnyddiwr gwasanaeth alluedd cyfnodol, rhaid i chi sicrhau yn ystod cyfnodau pan fydd yn adennill galluedd, eich bod yn ei gynnwys cymaint ag sy'n ymarferol wrth wneud penderfyniadau.

Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod y Person Addas yn iawn ar gyfer y rôl ac mai dyma'r dewis gorau i'r defnyddiwr gwasanaeth. Byddwn yn trafod y rôl gyda chi fel y gallwn fod yn hyderus y gallwch fodloni gofynion Person Addas ac y byddwch yn gweithredu er budd gorau'r defnyddiwr gwasanaeth. Efallai y bydd angen i chi hefyd gael gwiriadau hunaniaeth a diogelu perthnasol.

Rydym am annog pobl i ddefnyddio Person Addas fel y gellir defnyddio taliadau uniongyrchol mor eang â phosibl. Er nad ydym am eich annog i beidio â gweithredu fel Person Addas, rhaid i ni eich gwneud yn ymwybodol y gallai unrhyw ddefnydd twyllodrus neu anonest o daliad uniongyrchol neu gam-drin eich swydd arwain at gamau cyfreithiol.

Rhaid i chi beidio ag amlygu'r defnyddiwr gwasanaeth nac unrhyw aelod o deulu'r defnyddiwr gwasanaeth i risg neu golled oherwydd camddefnyddio'r taliad uniongyrchol neu eich swydd. Fodd bynnag, bydd ein Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yno i'ch helpu i lywio pethau felly gallwch bob amser wirio pethau gydag ef yn gyntaf.

Mae'n werth nodi na all unrhyw un sy'n Berson Addas fod yn gynorthwy-ydd personol i'r defnyddiwr gwasanaeth os telir amdano gan y taliadau uniongyrchol.

Os ydych yn ymgymryd â rôl Person Addas, ond nad yw'n gweithio i chi neu i'r defnyddiwr gwasanaeth, gallwch adael y rôl drwy gysylltu â ni a rhoi rhybudd i ni cyn gynted ag y byddwch yn gwneud y penderfyniad hwn. Dan yr amgylchiadau hyn, byddai'n rhaid i Berson Addas newydd gael ei nodi a'i gytuno gennym cyn y gallai'r pecyn taliad uniongyrchol barhau.

 

Mwy o wybodaeth

Os ydych yn ystyried rôl Person Addas, dylech siarad â gweithiwr cymdeithasol y defnyddiwr gwasanaeth yn gyntaf i drafod yr hyn y mae'r rôl yn ei gynnwys a mynd drwy'r meini prawf perthnasol.

Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth o wybodaeth i'r rhai sy'n ystyried neu'n rheoli taliadau uniongyrchol. Siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol am yr hyn sydd ar gael. Gallwch hefyd gysylltu â'n Tîm Taliadau Uniongyrchol yn y Gwasanaethau Oedolion:

Ffôn: 029 2087 3617
E-bost: [email protected]