Mae'n hanfodol ein bod yn cynnig cymorth i unrhyw un sy'n derbyn neu'n cefnogi rhywun i dderbyn taliadau uniongyrchol gennym. Ar hyn o bryd rydym yn ariannu Canolfan Byw'n Annibynnol (CBA) Dewis i ddarparu ystod o wasanaethau trwy'r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol (GCTU).
Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim os oes gennych daliadau uniongyrchol, ni waeth faint rydych yn defnyddio'r gwasanaeth. Nid yw'n un o ofynion derbyn taliad uniongyrchol, ond byddem yn annog pawb yn gryf i gwrdd â'r GCTU i drafod sut y gall eich helpu a'ch cefnogi, yn enwedig wrth ystyried cyflogi staff.
Gall y GCTU gynnig amrywiaeth o wasanaethau.
Cymorth Craidd
Os ydych yn derbyn taliad uniongyrchol gennym, mae'r cymorth hwn ar gael i chi. Diben y cymorth hwn yw eich helpu i reoli eich taliad uniongyrchol. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyngor cynhwysfawr ar ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â rheoli eich gofal a'ch cymorth eich hun, a'r gwahanol ffyrdd posibl o ddefnyddio eich taliad, gan gynnwys sut i fod yn gyflogwr neu sut i brynu gwasanaethau cymorth eraill.
Cyflogres
Os ydych yn cyflogi eich cynorthwywyr personol eich hun gyda'ch taliad uniongyrchol, bydd angen i chi eu talu drwy system gyflogres. Mae'r GCTU yn gallu rhoi cymorth gyda'r elfennau sy'n ymwneud â'r gyflogres. Gall hefyd roi templedi a gwybodaeth am y ddogfennaeth a chymorth gyda sut i gyfleu'r wybodaeth hon pan fydd ei hangen. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn cynnwys cymorth manwl ynghylch treth, pensiynau a chyfraniadau cyflogaeth eraill.
Cyfrifon Wedi'u Rheoli
Os byddai'n well gennych adael i'r GCTU reoli'r cyllid taliadau uniongyrchol, gall weithredu fel asiant i wneud hyn. Byddwn yn anfon eich taliad uniongyrchol i'r GCTU a bydd yn ymdrin â thaliadau i mewn i'r cyfrif ac allan ohono.
Help gyda Dod yn Gyflogwr
Os ydych yn dewis cyflogi eich cynorthwywyr personol eich hun am y tro cyntaf, bydd y GCTU ar gael i sicrhau bod gennych y wybodaeth gywir a bod gennych y systemau cywir ar waith i reoli staff fel cofrestru gyda Chyllid a Thollau EF ar gyfer taliadau treth.
Recriwtio
Mae sicrhau bod gennych y bobl iawn i fodloni eich anghenion gofal a chymorth yn hollbwysig ar gyfer taliadau uniongyrchol, a bydd y GCTU yn eich helpu i recriwtio staff. Mae'r help hwn yn cynnwys ysgrifennu disgrifiadau swydd, hysbysebu swyddi, a sicrhau bod y prosesau angenrheidiol yn cael eu dilyn i gyflogi staff.
Os oes angen i chi newid cynorthwy-ydd personol neu benodi un newydd ar unrhyw adeg, yna gall y GCTU eich helpu.
Er y bydd y GCTU yn rhoi cyngor, ac yn eich cefnogi drwy'r broses recriwtio a chyflogi, nid yw'n asiantaeth recriwtio, ac nid oes ganddo unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol fel cyflogwr. Wrth ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am gynorthwy-ydd personol, chi yw'r cyflogwr a chi sydd â'r holl gyfrifoldebau cyfreithiol.
Sut i gysylltu â'r GCTU
Gallwch gysylltu â'n Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol ar 029 2240 5060.
