Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cyflogi cynorthwy-ydd personol

Gall cyflogi cynorthwy-ydd personol gyda thaliadau uniongyrchol roi'r rhyddid a'r hyblygrwydd i chi ddewis rhywun sy'n briodol i fodloni eich anghenion gofal a chymorth a chynnig cysondeb.

Dewis eich cynorthwy-ydd personol

Gall y person rydych yn ei gyflogi i fod yn gynorthwy-ydd personol amrywio. Efallai eich bod yn ystyried cyflogi aelod o'r teulu, ffrind neu gymydog, neu recriwtio gweithiwr gofal medrus. Yn y rhan fwyaf o achosion, y person gorau i'w gyflogi fydd rhywun nad ydych yn ei adnabod ond sydd â'r lefel gywir o sgiliau a phrofiad i'ch cefnogi.

Er bod taliadau uniongyrchol yn eich galluogi i gael mwy o ddewis o ran cynorthwy-ydd personol, mae dal angen i ni sicrhau mai ef yw'r person mwyaf priodol i fodloni eich anghenion.

Os nad oes gennych rywun mewn golwg eisoes, rydym yn eich annog i ddefnyddio ein Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol, a ddarperir drwy Ganolfan Byw'n Annibynnol (CBA) Dewis, a all eich helpu i ddod o hyd i rywun sy'n iawn i chi. Efallai ei bod eisoes yn adnabod rhywun a fyddai'n addas, neu y bydd yn eich helpu i'w recriwtio.

Os ydych yn ystyried cyflogi aelod o'r teulu, mae rhai amodau y mae'n rhaid eu bodloni felly cyn gwneud unrhyw drefniadau, rhaid i chi drafod hyn gyda'ch tîm gwaith cymdeithasol.

 

Recriwtio eich cynorthwy-ydd personol

Cyn cyflogi unrhyw un, mae'n syniad da meddwl am yr hyn rydych yn chwilio amdano a pha fath o berson rydych am iddo eich cefnogi a'r math o dasgau yr hoffech i'ch cynorthwy-ydd personol eu cyflawni. Efallai y byddai'n ddefnyddiol ysgrifennu rhestr yn cynnwys y sgiliau a'r tasgau yr hoffech i'ch cynorthwy-ydd personol eu cael neu eu gwneud. Bydd y rhestr hon hefyd yn eich helpu i ddatblygu disgrifiad swydd sy'n hanfodol wrth recriwtio/cyflogi staff. Rhaid i chi gofio bob amser bod yn rhaid i'r tasgau y gallwch ofyn i'ch cynorthwy-ydd personol helpu â nhw fodloni eich anghenion a nodir yn eich Cynllun Gofal a Chymorth.

Gallwch gyflogi mwy nag un cynorthwy-ydd personol i roi'r cymorth yr aseswyd bod ei angen arnoch. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych daliadau uniongyrchol i dalu am fwy na 48 awr yr wythnos gan ein bod yn disgwyl i unrhyw un sy'n derbyn taliad uniongyrchol ddilyn y Rheoliadau Amser Gwaith cyfredol a dim ond contractio wythnos waith o 48 awr ar y mwyaf ar gyfer pob cynorthwy-ydd personol. Fodd bynnag, os oes amgylchiadau eithriadol sy'n golygu bod cynorthwy-ydd personol (gyda'i gytundeb) yn optio allan o'r Rheoliadau Amser Gwaith gan nad oes cymorth arall ar gael, rhaid trafod yn gyntaf gyda'r rheolwr achos gan efallai na fyddwn yn cytuno i hyn ar sail hirdymor.

Bydd CBA Dewis yn gallu eich cynghori ar hyn.

Ni all pawb gael eu cyflogi fel cynorthwy-ydd personol, efallai oherwydd nad oes ganddynt hawl i weithio yn y DU neu fod ganddynt gofnod troseddol. Rhaid i chi gwblhau'r gwiriadau cywir cyn cyflogi unrhyw un, mae hyn hefyd yn cynnwys os ydych yn ystyried cyflogi aelod o'r teulu gan y byddwch yn dod yn gyflogwr cyfreithiol iddo.

Mewn rhai achosion, efallai na fyddwn yn cytuno â'r dewis a wnaethoch ac felly efallai na fyddwn yn cytuno i ariannu'r taliadau uniongyrchol ar gyfer person penodol. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn bob amser yn trafod hyn gyda chi ymlaen llaw.

 

Bod yn gyflogwr

Pan fyddwch yn dewis cyflogi cynorthwy-ydd personol, rhaid i chi hefyd ysgwyddo cyfrifoldebau penodol a dilyn deddfwriaeth benodol. Mae'n bwysig eich bod yn meddwl am bob maes cyflogi eich staff eich hun i sicrhau eich bod yn gyflogwr da. Pethau y bydd angen i chi eu rhoi ar waith:

  • Cyflogres
  • Cyfraddau Cyflog
  • Contractau Cyflogaeth
  • Taflenni Amser, Ffurflenni Gwyliau, Ffurflenni Salwch
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr

Rhaid i chi ddilyn yr holl ddeddfwriaeth a pholisïau cyfredol mewn perthynas â chyfraith cyflogaeth; er enghraifft, tâl salwch, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth, a threth incwm ac ati.

Os byddwch yn dewis cyflogi cynorthwy-ydd personol gyda'ch taliadau uniongyrchol, bydd y cytundeb cyflogaeth rhyngoch chi a'r cynorthwy-ydd personol. Ni fydd gan Wasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd na CBA Dewis unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol mewn perthynas â chyflogaeth y cynorthwy-ydd personol.

 

Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol

Rydym yn ariannu CBA Dewis i ddarparu ein Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol i bawb sy'n derbyn taliadau uniongyrchol gennym. Mae yno i'ch cefnogi gyda hyn oll a gall roi gwybod i chi beth yw eich cyfrifoldebau ar ôl i chi ddod yn gyflogwr. Ar ôl i chi recriwtio eich cynorthwy-ydd personol, bydd angen i chi ei reoli, ac mae hyn yn cynnwys sicrhau ei fod wedi'i hyfforddi i gyflawni ei ddyletswyddau.

Os ydych am gyflogi cynorthwy-ydd personol, bydd hefyd yn eich cefnogi i:

  • Ysgrifennu disgrifiad swydd.
  • Hysbysebu'r swydd.
  • Cyfweld â darpar staff.
  • Dewis y person rydych am ei gyflogi a chael geirdaon.
  • Cwblhau gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
  • Llunio Contract Cyflogaeth.

Rydym yn annog pawb sy'n derbyn taliadau uniongyrchol i ddefnyddio CBA Dewis ar gyfer y rhan fwyaf o'r agweddau ar reoli eu taliadau uniongyrchol, os nad pob un.

 

Mwy o wybodaeth

Mae cymorth ar recriwtio cynorthwywyr personol neu wybodaeth gyffredinol am daliadau uniongyrchol ar gael gan CBA Dewis. Gellir cysylltu â hi trwy ffonio 02922 405060.

Os ydych yn ystyried cyflogi aelod o'r teulu, dylech siarad â'ch tîm gwaith cymdeithasol cyn gwneud unrhyw drefniadau pellach.