Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cymorth meddyginiaeth gan gynorthwywyr personol

Ar gyfer rhai cynorthwywyr personol sy'n cael eu talu drwy Daliadau Uniongyrchol, rhan o'u rôl fydd eich cefnogi gyda'ch meddyginiaeth. Dylai hyn ddigwydd dim ond pan fo cymorth meddyginiaeth wedi'i gofnodi yn eich Cynllun Gofal a Chymorth.

Mae angen i ni wneud yn siŵr bod unrhyw gynorthwyydd personol sy'n eich cefnogi gyda'ch meddyginiaeth yn gallu:

  • rheoli'r risgiau mewn perthynas â pharatoi a rhoi meddyginiaethau, a
  • gwneud yn siŵr bod meddyginiaethau yn cael eu paratoi a'u rhoi mewn ffordd ddiogel, amserol a chyfreithlon.

Rydym wedi datblygu gweithdrefnau sy'n dilyn canllawiau, egwyddorion a deddfwriaeth genedlaethol. Rhaid i chi a'ch cynorthwyydd personol ddilyn y gweithdrefnau os yw'n ymwneud â'ch cefnogi gyda meddyginiaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • asesu eich meddyginiaeth,
  • rhoi eich meddyginiaeth,
  • cofnodi eich meddyginiaeth,
  • adolygu eich meddyginiaeth,
  • storio a gwaredu eich meddyginiaeth.

Gallwch ofyn am gopi o'r weithdrefn drwy ffonio Canolfan Byw'n Annibynnol Dewis ar 029 2240 5060.

Gallwch hefyd gysylltu â'n Tîm Taliadau Uniongyrchol yn y Gwasanaethau Oedolion:

Ffôn: 029 2087 3617

E-bost: [email protected]

Cyfyngiadau

Mae rhai mathau o feddyginiaethau neu ddulliau o roi meddyginiaeth na all cynorthwywyr personol gefnogi gyda nhw. Mae'r rhain yn cael eu dosbarthu fel tasgau iechyd a dylai gweithiwr iechyd proffesiynol eu cyflawni neu eu goruchwylio.

Ni ddylech byth ofyn i gynorthwyydd personol eich cefnogi gyda rhoi meddyginiaeth yn yr achosion canlynol:

  • mae y tu allan i'w ddyletswydd, neu
  • nid yw wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol.

Nid yw rhai yswirwyr yn yswirio cymorth meddyginiaeth. Dylech wirio gyda'ch darparwr yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr eich bod yn cael eich yswirio'n briodol ar gyfer hyn.

Hyfforddiant

Mae eich taliad uniongyrchol yn rhoi cyllid i'ch cynorthwyydd personol gael mynediad at hyd at 5 diwrnod hyfforddiant y flwyddyn. Gallwn roi'r hyfforddiant angenrheidiol iddo eich cefnogi'n ddiogel gyda'ch meddyginiaethau.

Ar ôl i'ch cynorthwyydd personol gwblhau'r hyfforddiant, bydd angen iddo gwblhau gwiriad cymhwysedd. Diben hyn yw sicrhau ei fod wedi deall yr hyfforddiant ac yn gallu cyflawni ei dasgau'n ddiogel.

Gallwch gadw lle ar gyfer eich cynorthwyydd personol drwy e-bostio [email protected].

Os yw eich anghenion wedi newid

Byddwch wedi cael digon o gyllid i'ch cynorthwyydd personol gyflawni'r tasgau a nodir yn eich Cynllun Gofal a Chymorth. Os gofynnwch iddo gwblhau tasgau nad ydynt yn eich cynllun, gall hyn effeithio ar ei allu i wneud ei dasgau cytunedig.

Os gofynnwch i'ch cynorthwyydd personol wneud rhywbeth sydd y tu allan i ddyletswyddau ei rôl, gallai'r ddau ohonoch fod mewn perygl.

Dylech siarad â'ch gweithiwr cymdeithasol a ddyrannwyd, neu aelod o'r tîm dyletswydd os yw'ch anghenion gofal a chymorth wedi newid.