Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwasanaethau gofal plant

Rydym yn cynnig ac yn trefnu nifer o wasanaethau gofal i helpu a chefnogi teuluoedd â phlant.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod plant a phobl ifanc Caerdydd yn:

  • iach
  • teimlo'n dda am eu bywydau
  • ddiogel ac wedi eu gwarchod
  • gallu dysgu pethau newydd
  • gallu tyfu'n hapus
  • cael gofal da.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau i gynnig gwasanaethau i'r sawl mewn angen.

Strategaeth Gwasanaethau Plant Caerdydd (PDF, 1 MB)

Strategaeth Rhianta Corfforaethol

Rydym wedi cyhoeddi Strategaeth Rhianta Corfforaethol 2021-2024 (PDF, 2 MB) sy'n amlinellu ein hymrwymiadau, ein heriau a'n camau allweddol i gefnogi plant sy'n derbyn gofal a'r bobl sy'n gadael gofal ledled y ddinas.

Gan weithio gyda phartneriaid a'r gymuned ehangach, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gefnogi plant sy'n derbyn gofal a'r bobl sy'n gadael gofal er mwyn iddynt fod yn hapus, bod yn ddiogel a ffynnu.

Fel rhan o ymgynghoriad â phlant sy'n derbyn gofal, mae pum blaenoriaeth allweddol wedi'u nodi yn y strategaeth yn seiliedig ar eu barn a'u profiadau personol.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gwella lles emosiynol ac iechyd corfforol
  • Gwell cysylltiadau, gwell perthnasoedd
  • Cartref cyfforddus, diogel a sefydlog tra'u bod mewn gofal ac ar ôl hynny
  • Cyflawniad addysgol, cyflogaeth a hyfforddiant
  • Dathlu ein plant a'n pobl ifanc

 

Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Gyda'n gilydd, mae arnom ddyletswydd i gynnig gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth i breswylwyr Caerdydd er mwyn gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwrando ar farn a theimladau plant a phobl ifanc
  • Trin plant a phobl ifanc â pharch
  • Bod yn ymwybodol o wahanol anghenion diwylliannol, cred ac ieithyddol

Mae gennym Strategaeth Cymorth Cynnar sy'n rhoi'r grym i blant a'u teuluoedd drin eu lles eu hunain drwy gynnig gwasanaethau sy'n ateb eu hanghenion newidiol er mwyn iddyn nhw fedru mynd i'r afael â'u hanawsterau eu hunain.

 

Ein Hamcanion

Rydyn ni am helpu:

  • plant a phobl ifanc i aros â'u teuluoedd
  • plant a theuluoedd i liniaru effaith anabledd
  • i ostwng nifer y plant a phobl ifanc sy'n troseddu
  • i ostwng nifer y plant a phobl ifanc sy'n mynd i ofal, os yw'n ddiogel gwneud hynny
  • i wella'r canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd Mewn Gofal a chynnig cefnogaeth barhaus i Bobl sy'n Gadael Gofal pan ddônt i oed

 

Gwrando Arnoch Chi

Mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando ar y plant, y bobl ifanc, a'r teuluoedd rydyn ni'n eu cefnogi. Mae sawl ffordd y gall ein pobl ifanc ddweud eu dweud.


Eiriolaeth

Person nad yw'n cael ei gyflogi gan Wasanaethau Plant Cyngor Caerdydd ac a fydd yn eich helpu i leisio'ch barn yw Eiriolwr Annibynnol. Gall eiriolwyr eich helpu i ddeall eich hawliau ac i wneud penderfyniadau gwybodus am eich bywyd, a'ch cefnogi i siarad am bethau sy'n bwysig i chi.

Mwy o wybodaeth am Eiriolaeth.


Clwb Bright Sparks

Gallwch ymuno â'n grŵp cyfeillgar o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a lleisio eich barn.

Mae'r grŵp yn cwrdd bob pythefnos ar ddydd Iau o 5pm. Gallwch:

  • ddweud eich dweud a rhoi eich barn i ni ar wasanaethau a sut y gellid eu gwella
  • dysgu mwy am eich hawliau
  • cymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau llawn hwyl
  • treulio amser gyda phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno neu os ydych eisiau cael gwybod mwy, cysylltwch â Sam ar 07767 168 478 neu [email protected].


Mind of my Own

Mae Mind of my Own wedi creu apiau cwbl hygyrch sy'n eich galluogi i nodi eich meddyliau a'u hanfon at y rheiny sydd angen clywed gennych.

Mwy o wybodaeth am Mind of my Own.

 

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth, cyngor neu gymorth, cysylltwch â ni drwy ffonio:

029 2053 6490

Y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Tîm Dyletswydd Brys ar

029 2078 8570

Chwiliwch am wybodaeth am y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael ar gyfer teuluoedd yng Nghaerdydd.