Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd

Mae Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd yn bartneriaeth rhwng gwahanol sefydliadau er mwyn cynnig gwasanaeth ymyrryd a chefnogaeth i bobl ifanc a'u teuluoedd. Nod y bartneriaeth yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu ac ail-droseddu gan bobl ifanc 10-17 oed. Mae hefyd yn cynnig cymorth i ddioddefwyr troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd

Canolfan John Kane
213a North Road
Gabalfa
Caerdydd
CF14 3GH

029 2233 0355

Chwiliwch am wybodaeth am y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghaerdydd.

Rhifau cymorth Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd

Mae ystod eang o sefydliadau ar gael i'ch helpu chi a'ch teulu:

Gwasanaethau cyffredinol sy'n cynnig cymorth

Porth Teuluoedd Caerdydd

Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Rhifau ffôn pwysig

  • Mewn Argyfwng: 999
  • Yr Heddlu (Heb fod yn Argyfwng): 101
  • ChildLine: 0800 1111
  • NSPCC Cymru: 0808 800 5000
  • Tîm Dyletswydd Argyfwng y Cyngor: (029) 2078 8570
  • Crimestoppers: 0800 555 111
  • Cymorth i Ddioddefwyr: 0300 303 0161
  • Cymorth i Fenywod Caerdydd (Safe As): (029) 2046 0566

Gwasanaethau arbenigol eraill

  • Basement @53 Llamau (Tai): (029) 2087 3570
  • Gwasanaeth Lles Teuluol Barnardos: (029) 2057 7074
  • Meic: 080880 23456 (Testun: 84001)
  • Kooth (Cwnsela Ar-lein)
  • Mind Hub Cymru
  • Gwasanaeth Iechyd Rhywiol Integredig: (029) 2033 5335
  • Tîm Allgymorth Iechyd Rhywiol: (029) 2046 5250
  • Mind: (029) 2039 5123
  • Sefydliad Jacob Abraham: (029) 2132 3433
  • Gwasanaeth Lles Emosiynol Pobl Ifanc: 0800 008 6879
  • Frank: 0300 123 6600
  • Switched On! (029) 22 33 02 92
  • Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc: (01443) 443013
  • Stonewall Cymru (Hawliau LHDT): 0800 050 2020
  • Gyrfa Cymru: 0800 028 4844
  • Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro: 03444 77 20 20
  • BulliesOut: (029) 2049 2169
  • Cruse Bereavement Care: (029) 2022 6300

 

Strategaetg Datblygu Cyfiawnder Ieuenctid

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r hyn y bydd y partneriaid, sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd, yn ei wneud drwy weithio gyda'i gilydd. Fe'i datblygwyd yn ystod mis Mai 2020 mewn cyfres o weithdai gyda'r rhai sy'n ymwneud â'r gwasanaethau, gan gynnwys pobl ifanc.

Er mwyn gwneud i'r strategaeth hon ddigwydd, fe'i hategir gan gynllun datblygu manwl, a gytunwyd hefyd gan y gwasanaethau partner, sy'n nodi pwy fydd yn gwneud beth, sut ac erbyn pryd. Bydd y gwaith hwn yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd, dan gadeiryddiaeth cadeirydd annibynnol, er mwyn sicrhau bod y datblygiad ar y trywydd iawn. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â strategaethau perthnasol eraill ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd sydd â'r nod o roi'r dyfodol gorau a mwyaf diogel i bob person ifanc yng Nghaerdydd.