Mae gan Gaerdydd wyth Safle Strategol (sy'n cynnwys 500 neu fwy o anheddau neu ddefnyddiau cyflogaeth sylweddol), sydd wedi'u dyrannu drwy'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) er mwyn helpu i ddiwallu'r angen am gartrefi a swyddi newydd ledled y ddinas.
Er mwyn helpu i sicrhau bod y cartrefi a'r swyddi newydd hyn yn ffurfio rhan o gymunedau sydd wedi'u cynllunio'n dda, mae'r cynllun datblygu lleol yn nodi dull 'uwchgynllunio' ar gyfer cyflawni'r safleoedd strategol, lle mae seilwaith ategol fel coridorau trafnidiaeth gynaliadwy, ysgolion, cyfleusterau cymunedol a mannau gwyrdd yn cael eu darparu fel rhan o'r datblygiadau.
Cynhyrchwyd cyfres o ddogfennau monitro i roi crynodeb wedi'i ddiweddaru'n rheolaidd o weithgarwch datblygu ym mhob lleoliad, gan gynnwys manylion am:
- Hanesion Cynllunio: Pan fydd ceisiadau newydd wedi'u derbyn a pha geisiadau sydd wedi'u penderfynu (wedi cymeradwyo),
- Gweithgaredd Datblygu: Pa safleoedd sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ac yn ddangosydd o sawl cartref/safle sydd wedi'u cwblhau,
- Seilwaith: Y seilwaith ategol y cytunwyd arno drwy gytundebau S106 (cyfreithiol) a manylion am y gwaith hwnnw a phrosiectau cysylltiedig eraill sydd ar y gweill, neu sy'n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd.
Mae'r wybodaeth yn y ddogfennau hon wedi'i dylunio i'w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Safle Strategol CDLl | Dogfen Fonitro |
|---|---|
A - Parth Fenter Canol Caerdydd / Hwb Trafnidiaeth Rhanbarthol (Tua 2000 o gartrefi) | A - Parth Menter Canolog (PDF, 2 MB) |
B - Hen Waith Nwy, Ferry Road: (Tua 500 o gartrefi gyda defnyddiau cymunedol cysylltiedig) | B - Hen Waith Nwy (PDF, 1 MB) |
C - Gogledd Orllewin Caerdydd: (Lleiafswm o 5,000 o gartrefi, cyflogaeth a defnyddiau cymunedol eraill) | |
D - I'r Gogledd o Gyffordd 33 yr M4 (Tua 2,000 o dai, gyda defnyddiau cymunedol, cyflogaeth a Pharcio a Theithio) | D - I’r Gogledd o Gyffordd 33 yr M4 (PDF, 2 MB) |
E - I'r De o Creigiau: (Tua 650 o gartrefi gyda defnyddiau cymunedol cysylltiedig) | E - I’r De o Creigiau (PDF, 1 MB) |
F - Gogledd Orllewin Caerdydd (I'r Gorllewin o Bontprennau) (Tua 4,500 o dai, gyda chyflogaeth a defnyddiau cymunedol) | |
G - I'r Dwyrain o Ffordd Gyswllt Pontprennau: (Tua 1,300 o dai gyda defnyddiau cymunedol) | |
H - I'r De o Barc Busnes Llaneirwg (Safle cyflogaeth strategol) | H - I’r De o Barc Busnes Llaneirwg (PDF, 1 MB) |
Trafnidiaeth
Er mwyn helpu i sicrhau bod gan ymwelwyr, trigolion a gweithwyr Caerdydd presennol ac yn y dyfodol ddewisiadau eraill i geir preifat a'u bod yn gallu dewis cerdded, seiclo a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wneud eu teithiau dyddiol, mae cyfres o welliannau priffyrdd a thrafnidiaeth yn cael eu darparu ynghyd â datblygiadau newydd.
Polisiau, Cynlluniau a Phrojectau Trafnidiaeth
- Cynllun trafnidiaeth lleol
- Aer Glân Caerdydd
- Map rhwydwaith teithio llesol
- Beicffyrdd
- Projectau trafnidiaeth
- Cynllun parcio'r ddinas
Cysylltu â ni
Creu lleoedd,
Ystafell 250,
Neuadd y Sir,
Caerdydd,
CF10 4UW
