Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Map rhwydwaith teithio llesol

Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn dangos llwybrau presennol a'r dyfodol ar gyfer cerdded a beicio a fydd yn helpu trigolion i deithio o amgylch y ddinas yn haws. Rydym wedi gwneud hyn er mwyn bodloni gofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Mae llwybrau'r dyfodol sydd i'w gweld ar y map yn gynigion a gaiff eu cyflwyno yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Bydd y map yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa gynlluniau cerdded a beicio fydd yn cael blaenoriaeth ar gyfer prosesau dylunio a gweithredu.

Mae'r llwybrau presennol wedi'u harchwilio i ddangos eu bod yn cyrraedd y safonau sy'n ofynnol o dan Ganllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Mae llwybrau cerdded a beicio eraill ar gael yng Nghaerdydd ond dim ond y rhai sy'n cyrraedd y safonau hyn a ddangosir ar y map.

Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus 2021, gwnaethom ddiwygio'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol ac fe'i cymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2022.

Gallwch weld y Map Rhwydwaith Teithio Llesol ar-lein.

Gallwch weld yr adroddiad ymgynghori (PDF, 577 KB).

Os hoffech weld yr adroddiadau blynyddol cyn 2020, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni