Gallwch ddefnyddio ein system gynllunio ar-lein i weld, dilyn a rhoi sylwadau ar geisiadau cynllunio.
Nid oes angen i chi gofrestru cyfrif i weld ceisiadau.
Os ydych chi eisiau diweddariadau rheolaidd neu os hoffech wneud sylwadau ar geisiadau, bydd angen i chi gofrestru.
Defnyddio'r system gynllunio ar-lein
I gofrestru, bydd angen i chi nodi eich cyfeiriad e-bost, eich enw cyntaf, a'ch cyfenw.
Pan fyddwch chi'n defnyddio'r system gyntaf:
- Dewiswch y botwm 'Cofrestru'.
- Llenwch y ffurflen. Rhaid i chi gwblhau pob adran sydd wedi'i nodi â seren * i gofrestru.
- Crëwch gyfrinair.
Ar ôl i chi ddewis 'Cyflwyno' byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau. Rhaid i chi ddilyn y ddolen yn yr e-bost i orffen eich cofrestriad. Gwiriwch eich ffolder sothach.
I ddilyn neu wneud sylwadau, bydd angen i chi ddefnyddio'ch e-bost a'ch cyfrinair i fewngofnodi i'r system.
Chwilio am gais cynllunio
Mae ffyrdd gwahanol y gallwch chwilio am gais cynllunio yn dibynnu faint o wybodaeth sydd gennych.
Mae chwiliad syml yn caniatáu i chi ychwanegu:
- cod post,
- un llinell o gyfeiriad,
- allweddair, neu'r
- y cyfan neu rywfaint o'r cyfeirnod.
Dylid arddangos y cyfeirnod yn glir ar yr holl hysbysiadau cyhoeddus a gwaith papur sy'n ymwneud â'r cais.
Gallwch ddefnyddio nodchwiliwr gan ddefnyddio'r symbol canran '%' os nad ydych yn gwybod y cyfeirnod llawn. Er enghraifft, 12/1234%.
Mae'r chwiliad uwch yn caniatáu i chi roi gwybodaeth fanylach am y cais i mewn.
Gallwch chwilio drwy ddefnyddio:
- dyddiadau perthnasol,
- enw'r person a wnaeth y cais, neu
- amrywiaeth o ffactorau eraill.
Gallwch chwilio am gais gan ddefnyddio'r dyddiad a gwybodaeth ychwanegol fel statws cais neu ward yng Nghaerdydd.
Gallwch hefyd ddewis y botwm 'Chwilio Strydoedd A i Y' ar gyfer unrhyw geisiadau yng Nghaerdydd wedi eu rhestru fesul stryd.
Arbed chwiliad
Gallwch chwilio ceisiadau heb fewngofnodi, ond rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i arbed chwiliad.
Pan fydd y canlyniadau chwilio'n cael eu rhestru, byddwch yn gweld opsiynau i:
- Chwilio'n fanylach
Mae hyn yn caniatáu i chi newid eich meini prawf chwilio. - Arbed chwiliad
Bydd hyn yn cadw chwiliad penodol o dan eich proffil. Gallwch hefyd ddewis cael rhybuddion ar e-bost o unrhyw ddiweddariadau i'ch chwiliad. Er enghraifft, gallech sefydlu chwiliad am geisiadau ar eich stryd. Fe'ch hysbysir ar e-bost am unrhyw geisiadau newydd a gyflwynir. - Argraffu
Mae hyn yn agor ffenestr newydd yn eich porwr ac yn dangos fersiwn y gellir ei argraffu o'ch canlyniadau chwilio.
Cyflwyno sylwadau
Rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i gyflwyno sylw.
Dewch o hyd i'r cais cynllunio penodol rydych chi ei eisiau a dewiswch y tab 'Sylwadau'.
Pan fyddwch yn gwneud sylw, bydd rhai o'ch manylion personol yn ymddangos gydag ef.
Sut i wrthwynebu neu rhoi sylwadau ar gais cynllunio.
Dilyn cais
Rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i ddilyn cais.
Dewch o hyd i'r cais penodol rydych chi ei eisiau a dewiswch y tab 'Dilyn'.
Bydd y cais hwn nawr yn cael ei arbed o dan 'Ceisiadau Rydych yn eu Dilyn' a gellir ei weld bob tro y byddwch yn mewngofnodi trwy ddewis y tab 'Fy Mhroffil'.
Pan fyddwch yn dilyn cais, cewch eich hysbysu ar e-bost bob tro bydd newid i'r cais.
Gallwch ddilyn nifer o geisiadau ar yr un pryd.
Os na allwch ddod o hyd i gais ar ein system, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein.
