Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Rhoi sylwadau ar gais cynllunio

Gallwch weld ceisiadau cynllunio a sylwadau sydd wedi'u gwneud. Gellir gweld sylwadau sydd wedi'u gwneud ar-lein o dan y tab sylwadau. Gellir gweld sylwadau sydd wedi'u sganio a'u e-bostio o dan y tab dogfennau.

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar gais cynllunio. Nid yw'n bwysig sut y clywsoch am gais cynllunio, ac nid oes angen i chi fod wedi derbyn llythyr gennym i wneud sylwadau.

Os na allwn ddelio â chais o dan bwerau dirprwyedig, bydd y Pwyllgor Cynllunio yn trafod y cais. Gweld y canllawiau am eich hawliau i siarad yn y pwyllgor

Sut i wneud sylw

Ni chodir ffi i wneud sylw ar gais cynllunio.

Bydd eich sylwadau yn agored i'r cyhoedd.

Mae 3 cham y mae'n rhaid i chi eu cymryd i wneud sylwadau ar gais.

Gwnewch nodyn o'r cyfeirnod

Os nad ydych yn gwybod y cyfeirnod, gallwch ddod o hyd iddo trwy edrych ar y ceisiadau cynllunio presennol ar-lein.

Gallwch ddefnyddio'r blwch chwilio syml i ddod o hyd i'r cais. Gallwch nodi'r canlynol:

  • cod post llawn neu rannol,
  • llinell sengl cyfeiriad, megis enw stryd,
  • allweddair, neu'r
  • cyfeirnod.

Y cyfeirnod yw 10 digid. Enghraifft o gyfeirnod yw 12/12345/ABC.

Bydd yn cael ei ddangos yn glir ar yr holl hysbysiadau cyhoeddus a gwaith papur ar gyfer y cais.

Pan fyddwch chi'n chwilio am gais ar-lein, bydd yn dangos yr holl ddogfennau, amlinelliadau, lluniau a chynlluniau cysylltiedig i chi.

Trwy'r post

Os yw eich eiddo yn union nesaf at y datblygiad arfaethedig, efallai y byddwch yn derbyn llythyr am y cais cynllunio. Mae hyn yn ôl ein disgresiwn ac mae'n dibynnu ar y cynllun. Bydd cyfeirnod y cais ar y llythyr.

Os nad ydych wedi derbyn llythyr, neu os ydych wedi'i golli, gallwch ddod o hyd i'r cais cynllunio ar-lein o hyd. Gallwch hefyd anfon e-bost i [email protected].

Nodwch y dyddiad cau ar gyfer sylwadau

Bydd pa mor hir fydd gennych i wneud sylw yn dibynnu ar bethau fel:

  • y math o gais cynllunio,
  • maint yr adeilad neu'r gwaith dymchwel, a
  • pan fydd y Pwyllgor Cynllunio yn cwrdd i wneud penderfyniad ynghylch y cais.

Fel arfer, mae'n rhaid gwneud sylwadau o fewn 21 diwrnod i'r cais gael ei gyflwyno.

Gallwch gael gwybod pryd mae'r dyddiad cau ar gyfer cais ar-lein ar y Porthol Cynllunio (idox). Gellir dod o hyd i'r dyddiad cau yn y tab manylion cyntaf.

Os ydych wedi derbyn llythyr am y cais, bydd y dyddiad cau ar y llythyr.

Bydd y dyddiad cau hefyd ar unrhyw ddogfennau a allai fod wedi'u harddangos yn yr ardal.

Y Pwyllgor Cynllunio

Mae'r pwyllgor yn cynnwys Cynghorwyr ac maen nhw'n gwneud penderfyniadau am rai ceisiadau yng Nghaerdydd. Gallwch gael gwybod a fydd y pwyllgor yn edrych ar gais cynllunio ar-lein, o dan y tab manylion. Bydd yn cael ei restru fel Lefel y Penderfyniad Disgwyliedig.

Gallwch wneud sylw ar-lein am gais ar unrhyw adeg cyn i'r cyfarfod ddechrau.

Os nad ydych yn sicr

Os nad ydych yn siŵr am ddyddiad cau, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl gyda chyfeirnod y cais cynllunio.

Gwneud sylw

Gallwch wneud sylwadau ar-lein neu drwy'r post.

I wneud eich sylwadau ar-lein, bydd angen i chi greu cyfrif ar ein system gynllunio ar-lein.

Os gwnewch sylw ar-lein, gallwch olrhain cais a bydd unrhyw ddiweddariadau'n cael eu hanfon i'ch cyfeiriad e-bost.

I wneud sylw drwy'r post, ysgrifennwch at:

Ystafell 250, Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y cyfeirnod.

Os gwnaethoch gyflwyno cais cynllunio ac fe'i gwrthodwyd, gallwch ddarllenwch ein canllawiau ar gyfer apelio.

Cysylltu â ni

Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes unrhyw gwestiynau gennych.

Cysylltu â ni