Gall y ffordd y mae adeiladau a mannau cyhoeddus yn edrych a gweithio helpu i wneud ein prifddinas yn lle brafiach i fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef.
Gall dull cynaliadwy o gynllunio datblygiadau newydd hefyd leihau'r effaith a gaiff y diwydiant adeiladu ar newid yn yr hinsawdd, ychwanegu gwerth i'r datblygiad a'r ardal leol ac arwain at adeiladau sy'n rhatach ac yn fwy effeithlon i'w gwresogi, eu goleuo a'u rheoli.
Mae'n rhan o gylch gwaith cyngor i sicrhau bod canllawiau ar waith a bod cyngor yn cael ei roi ar gynllunio adeiladau a mannau cyhoeddus newydd er mwyn cyflawni hyn.
Canllaw ar Ddatganiadau Cynllunio a Mynediad
Mae'n rhaid i'r mwyafrif o geisiadau cynllunio a cheisiadau caniatâd adeilad rhestredig (gyda rhai eithriadau) gael Datganiad Cynllunio a Mynediad i fynd gyda'r cais.
Bydd y Datganiad Cynllunio a Mynediad yn dangos bod amcanion dylunio da wedi'u hystyried.
Lawrlwythwch a darllenwch y Canllaw Datganiad Cynllunio a Mynediad (PDF, 357 KB)
Canllawiau Cynllunio
Mae canllawiau cynllunio yn trafod ystod o bynciau gan gynnwys estyniadau cartrefi, cynlluniau tai newydd ac adeiladau uchel, ac yn cynnig cyngor ar ddewisiadau cynllunio, astudiaethau achos a gwybodaeth ddefnyddiol arall.
Canllaw Dylunio i Fyw
Mae'r Canllaw Dylunio i Fyw (PDF, 12 MB) yn egluro sut bydd datblygiadau newydd yn helpu Caerdydd i fod y ddinas orau i fyw ynddi. Mae'n egluro uchelgais y Cyngor ar gyfer dylunio trefol a phensaernïaeth sy'n creu ymdeimlad o le ac a fydd yn cael ei ddefnyddio gyda datblygiadau strategol ledled y ddinas.
Canllaw Cynllunio Preswyl Caerdydd
Mae gan Ganllaw Dylunio Preswyl Caerdydd (PDF, 1 MB) ganllawiau ar gynllunio datblygiadau preswyl yng Nghaerdydd. Mae ganddo hefyd astudiaethau achos ac mae'n disgrifio'r broses gynllunio i'w dilyn.
Canllaw Cynllunio Adeiladau Uchel
Mae'r Canllaw Cynllunio Adeiladau Uchel (PDF, 1 MB) yn cynnig cyngor ar leoliad adeiladau uchel ac egwyddorion y mae'n rhaid cydymffurfio â nhw wrth eu cynllunio. Mae'r canllaw hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad adeiladau uchel yng nghanol y ddinas ac yn y bae.
Canllaw Cynllunio Safleoedd Mewnlenwi
Mae'r Canllaw Cynllunio Safleoedd Mewnlenwi (PDF, 2 MB) yn cynnwys canllawiau ar ddatblygiadau mewnlenwi, sef y ffordd y caiff safleoedd bach sydd eisoes wedi'u datblygu yn y ddinas eu datblygu ymhellach.
Canllaw Cynllunio Blaen Siopau ac Arwyddion
Mae'r Canllaw Cynllunio Blaen Siopau ac Arwyddion (PDF, 2 MB) yn cynnwys canllawiau ar newidiadau i flaen siopau ac arwyddion. Mae'r ddogfen yn amlinellu materion allweddol fel dyluniad, goleuadau, diogelwch a hysbysebu.
Safonau Adeiladu Cynaliadwy Cymru
Mae Llyw.Cymru - Safonau adeiladu cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn berthnasol i bob datblygiad newydd yn ogystal â datblygiadau nad ydynt yn rhai preswyl sydd â gofod llawr o 1000m2 neu fwy, neu safle sy'n fwy nag 1 hectar.
Adolygiad dylunio
Mae'r gwasanaeth Adolygu Dylunio mewnol yn cynnig cyngor ar safon y gwaith dylunio mewn cysylltiad â datblygiadau a gyflwynwyd ar gyfer cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio neu ganiatâd cynllunio. Mae Adolygiadau yn crynhoi'r cynlluniau a adolygwyd ar gael ar gyfer:
- Adolygiad dylunio 2023 (PDF, 703 KB)
- Adolygiad dylunio 2022 (PDF, 686 KB)
- Adolygiad dylunio 2021 (PDF, 1 MB)
- Adolygiad dylunio 2019 (PDF, 351 KB)
- Adolygiad dylunio 2018 (PDF, 573 KB)
Celf Gyhoeddus
Mae gan Gaerdydd fwy na 200 darn o gelf gyhoeddus sydd wedi datblygu law yn llaw â'r ddinas dros y 150 mlynedd ddiwethaf ac sy'n rhan annatod o fannau cyhoeddus y ddinas. Bwriad y Protocol Cerfluniau a Chofebion Caerdydd (PDF, 800 KB) yw esbonio sut mae'r Cyngor yn mynd ati i asesu cynigion i osod gweithiau celf cyhoeddus yng Nghaerdydd.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r dogfennau a chanllawiau uchod, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddyluniad y ddinas, cysylltwch â ni ar-lein
Creu Lleoedd
Cynllunio Strategol
Cyngor Caerdydd
Ystafell 250 Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
