Mae nifer o adeiladau pwysig, gweddillion archeolegol a mannau agored Caerdydd wedi'u gwarchod er mwyn diogelu cymeriad arbennig y ddinas.
Ymgynghoriad cyhoeddus a hysbysiadau cyfreithiol
Gweld manylion ymgynghoriadau cyhoeddus diweddar a hysbysiadau cyfreithiol a gyhoeddwyd.
Rhestr Treftadaeth Leol
Daeth yr ymgynghoriad ar y Rhestr Treftadaeth Leol ddrafft i ben ar 18 Medi 2024. Rydym yn ystyried yr ymatebion a gafwyd cyn gwneud argymhellion i'r Cabinet.
Cyfarwyddiadau Erthygl 4
- Neuadd Stacey (Heol Stacey, Adamsdown) - mae'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024 wedi'i gadarnhau. Mae hyn yn dileu hawliau datblygiad a ganiateir i ddymchwel neu baentio'r eiddo hwn. Cyfarwyddiadau Erthygl 4 - Heol Stacey (PDF, 356 KB)
- Castell Rompney, Tredelerch, - mae'r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023 wedi'u cadarnhau. Gwnaeth hyn ddileu hawliau datblygiad a ganiateir i ddymchwel neu baentio'r eiddo hwn.
Ardaloedd Cadwraeth
Mae gan Gaerdydd 27ardal gadwraeth (PDF, 720 KB) a ddynodwyd yn rhai o ddiddordeb archeolegol neu hanesyddol arbennig. Defnyddiwch y map i weld a yw eiddo mewn ardal gadwraeth.
Mae rheolaethau cynllunio cenedlaethol yn gysylltiedig ag eiddo mewn ardal gadwraeth, ac mae canllawiau ar y rheolau hyn ar gael ar y Porth Cynllunio. Mae gan nifer o ardaloedd Gyfarwyddyd Erthygl 4, sy'n gosod rheolaethau ychwanegol dros amrywiaeth o fân addasiadau eraill fel addasiadau i ffenestri (PDF, 955 KB).
Dyma restr o seiri sy'n arbenigo mewn atgyweirio ac ailgynhyrchu ffenestri a drysau traddodiadol.
Os ydych yn ystyried newid eich eiddo ac yr hoffech gael cyngor, gofynnir i chi gyflwyno ymholiad cyn gwneud cais.
Hefyd, mae angen caniatâd i wneud gwaith ar goed mewn ardaloedd cadwraeth.
Mae'r dogfennau isod yn disgrifio cymeriad pob ardal gadwraeth ac yn cynnig gwybodaeth am y rheolaethau sydd ar waith.
Parciau a Gerddi Hanesyddol
Mae 18 parc a gardd yng Nghaerdydd sydd ar Gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Mae'r gofrestr statudol yn cynnig gwybodaeth i helpu i ddiogelu a chadw'r lleoedd arbennig hyn, y mae 12 ohonynt yn barciau cyhoeddus.
Gallwch weld parciau a gerddi hanesyddol Caerdydd ar y map.
Adeiladau Rhestredig
Mae tua 1,000 o adeiladau rhestredig yng Nghaerdydd. Gallwch ddysgu a yw adeilad yn un rhestredig ar fap.
Mae adeiladau'n cael eu rhestru gan Cadw i sicrhau bod eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn cael ei gydnabod yn llawn yn y system gynllunio. Mae angen Caniatâd Adeilad Rhestredig pan fydd addasiad neu estyniad arfaethedig yn effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig neu adeiladau cyfagos. Mae angen Datganiad Effaith ar Dreftadaeth ar gyfer yr holl geisiadau Caniatâd Adeilad Rhestredig.
Cofiwch: Mae'n drosedd cyflawni gwaith ar adeilad a restrwyd yn statudol heb gael y Caniatâd Adeilad Rhestredig angenrheidiol yn gyntaf.
Arolwg rheoleiddiol Cadw ar gyflwr adeiladau rhestredig. Mae adroddiadau Adeiladau Mewn Perygl ar gael i'w hasesu a gyflawnwyd yn Caerdydd Arolwg Adeiladau Rhestredig - 2011 (PDF, 4 MB) a Caerdydd Arolwg Adeiladau Rhestredig - 2015 (PDF, 2 MB).
Adeiladau Rhestredig Lleol
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar adolygiad cam cyntaf o'r Rhestr Leol rhwng 24 Gorffennaf a 18 Medi 2024. Mae tua 300 o adeiladau yng Nghaerdydd wedi'u rhestru'n lleol. Bwriad y rhestr hon yw sicrhau bod adeiladau lleol sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn cael eu cydnabod yn y system gynllunio.
Gweld adeiladau rhestredig lleol ar y map.
Henebion
Mae gan Cadw 31 o Henebion Cofrestredig (PDF, 832 KB) yng Nghaerdydd, o archeoleg cynhanesyddol i amddiffynfeydd o'r Ail Ryfel Byd. Gallwch weld y lleoliadau ar y map.
Mae'n drosedd cyflawni gwaith ar safle heneb gofrestredig heb gael caniatâd Heneb Gofrestredig gan Cadw yn gyntaf.
Cysylltu â ni
Cadwraeth
Ystafell 250
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
