Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Apelio yn erbyn penderfyniad

Os gwnewch gais am ganiatâd cynllunio a'i fod yn cael ei wrthod, byddwn yn ysgrifennu atoch gyda'r rhesymau. Os nad ydych yn fodlon ar y rhesymau, neu os nad ydych yn eu deall, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Bydd gan y llythyr a anfonwn atoch nodyn yn egluro'ch opsiynau ar y cam nesaf.

Rydym yn argymell i chi geisio trafod cynllun wedi'i ddiwygio yn hytrach nag apelio. Yn yr achos cyntaf, cysylltwch â'r swyddog cynllunio a oedd yn gweithio ar y cynllun gwreiddiol.

Mae cofnodion y Porth Cynllunio yn dangos, ar gyfartaledd, mai dim ond tua thraean o apeliadau sy'n llwyddo.

Os gwrthodwyd eich cais, gallwch o bosibl gyflwyno un cais arall gyda'ch cynlluniau wedi'u haddasu am ddim o fewn 12 mis i'r penderfyniad ar eich cais cyntaf.

Fodd bynnag, os ydych wedi cysylltu â ni i drafod eich gwrthodiad, efallai y byddwch o hyd am ystyried gwneud apêl cynllunio. Dylech ond wneud apêl pan fetho popeth arall.

Os penderfynwch apelio, rhaid i chi:

1. Wneud yn siŵr bod gennych hawl i apelio

Gallwch apelio:

  • Os mai chi gyflwynodd y cais cynllunio yn y lle cyntaf, neu os ydych yn Ysgutor dros rywun arall a'i gyflwynodd
  • Os rhoddwyd Hysbysiad Dirwyn i Ben i chi. Dyma hysbysiad sy'n gwneud i chi stopio arddangos hysbyseb neu ddefnyddio tir i ddangos hysbyseb.
  • Os cyflwynwyd Hysbysiad Gorfodi i chi.
  • Os oes gennych fudd cyfreithiol yn y tir lle gwneir yr apêl.
  • Os oeddech yn feddiannwr perthnasol ar y tir pan gyflwynwyd yr hysbysiad a phryd cyflwynwyd yr apêl.

Nid oes hawl apelio fel arall.

Dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, dylech allu gwneud yr apêl eich hun, ond gall rhywun arall ei wneud ar eich rhan.

Darllenwch fwy am wneud apêl neu cysylltwch â'n tîm cynllunio.

2. Apelio o fewn y terfyn amser

Chwe mis yw'r terfyn ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau, er mai wyth wythnos ydyw o ran caniatâd i arddangos hysbysebion. Darllenwch y Terfynau Amser Apelio ar y Porth Cynllunio.

3. Cyflwyno'ch apêl

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio drwy'r Porth Cynllunio.Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am y broses apelio gan gynnwys gwneud apêl, rhoi sylwadau ar apêl a chanllawiau ar wneud apêl.

4. Anfonwch gopi o'ch apêl i Gyngor Caerdydd

Rhaid i chi anfon copi o'ch apêl a'r holl ddogfennau ategol i [email protected] neu drwy'r post i:

Rheoli Datblygiadau
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Cost

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio am ddim.

Pa mor hir fydd y broses yn cymryd?

Dylech ganiatáu digon o amser i sicrhau bod popeth yn cael ei gyflwyno drwy'r Porth Cynllunio a bod copïau yn cael eu hanfon i Gyngor Caerdydd cyn y terfyn amser.

Fel arfer, mae'n cymryd 15-30 wythnos i ddod i benderfyniad.

Cysylltu â ni