Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Beth yw cost a hyd y broses?

Mae cost gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn dibynnu ar ba fath o waith rydych am ei wneud.

Mae rhai mathau o geisiadau cynllunio, fel ychwanegu neu wella mynediad i bobl anabl mewn cartrefi ac adeiladau cyhoeddus, am ddim.

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio am ddim.

Sut i dalu

Os ydych yn cyflwyno eich cais cynllunio drwy'r post, bydd angen i chi bostio un copi o'ch ffurflen gais ynghyd ag un copi o'ch dogfennau ategol. Gellir talu gyda cherdyn dros y ffôn pan fydd yr achos wedi'i gofrestru. Byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chyfeirnod yr achos.

Rheoli Datblygu
Ystafell 250
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Os ydych yn gwneud cais ar-lein drwy'r Porth Cynllunio gallwch dalu eich ffi gyda cherdyn debyd dros y ffôn.

Pa mor hir fydd y broses?

Penderfyniadau cynllunio: Mae'r amser y mae'n ei gymryd i wneud penderfyniad yn dibynnu ar y math o ganiatâd cynllunio rydych wedi gwneud cais amdano.

Fel arfer, ein nod yw penderfynu ar geisiadau o fewn 8 wythnos ond mae gan geisiadau sy'n ddarostyngedig i Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ddyddiad targed o 16 wythnos.

Mae penderfyniad cynllunio fel arfer yn ddilys am bum mlynedd, oni bai bod gan eich caniatâd cynllunio derfyn amser penodol arno. Mae gennych 5 mlynedd o'r dyddiad y caiff ei roi i ddechrau'r gwaith. Os nad ydych wedi dechrau'r gwaith o fewn pum mlynedd, efallai y bydd angen i chi ailymgeisio neu wneud cais i ymestyn y caniatâd cyn iddo ddod i ben. Os oes angen i chi wneud hyn, rhaid i chi ddefnyddio ffurflen gais Dileu neu Amrywio amod. Cysylltwch â ni am ragor o gyngor.

Gallwch gael gwybod sut i rhoi sylwadau ar gais cynllunio.

Apeliadau: Os gwrthodir eich cais am ganiatâd cynllunio byddem yn eich annog i geisio trafod cynllun diwygiedig yn hytrach na chyflwyno apêl. Gallwch ddysgu mwy am apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio.

Mae gwefan y Porth Cynllunio wedi llunio tabl o'r amseroedd cyfartalog i wahanol fathau o apêl gael eu penderfynu. Mae hyn fel arfer tua 15 i 30 wythnos.

Nodwch mai canllaw cyffredinol yn unig yw pob amser. Mae pob cam o'r broses gynllunio yn cael ei benderfynu fesul achos unigol. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Rheoli Datblygu
Cynllunio Strategol, Priffyrdd a Thraffig a Thrafnidiaeth
Ystafell 250
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Ffôn: 029 2233 0800

Cysylltu â ni