Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith adeiladu neu ddymchwel yng Nghaerdydd rhaid i chi:
- Oes angen caniatâd cynllunio arna i?
- Darllenwch ein Nodiadau Canllaw ar Geisiadau Cynllunio (PDF, 69 KB) sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am ba fath o ffurflen gais y mae angen i chi ei llenwi, yn ogystal â help i wneud eich cais.
- Dysgwch Beth yw cost a hyd y broses?
- Defnyddiwch y Porth Cynllunio Cymru i wneud cais am ganiatâd cynllunio.
Mewngofnodwch i Borth Cynllunio Cymru
Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflenni cynllunio a'u dychwelyd i'r cyfeiriad ar y dudalen hon.
Ffurflenni cais
Mae'r holl ffurflenni a chanllawiau a restrir yma hefyd ar gael ar wefan y Porth Cynllunio Cymru.
Gwaith adeiladu ar eich tŷ
Ar gyfer gwaith ar eich tŷ, gan gynnwys:
- newidiadau adeiladu
- codi adeiledd newydd
bydd angen y ffurflen ganlynol arnoch:
Gwaith adeiladu arall -newid defnydd, gwaith adeiladu ar eiddo masnachol, a.y.y.b
- Ar gyfer gwaith adeiladu gan gynnwys: Newid defnydd e.e. troi adeilad o fod yn un tŷ mawr i fod yn fflatiau, neu ei newid o un dosbarth adeilad masnachol
- estyniadau a newidiadau allanol
bydd angen y canlynol arnoch:
Caniatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw'n ôl
Gall caniatâd cynllunio amlinellol (847kb PDF) weithiau fod yn briodol pan fydd angen cytundeb 'mewn egwyddor' arnoch am y datblygiad rydych yn bwriadu'i wneud, heb orfod ymrwymo i gynllun penodol. Nid oes angen cyflwyno cymaint o fanylion penodol ar gyfer y math hwn o gais cynllunio. Gall materion wedi'u cadw'n ôl gynnwys: ymddangosiad, mynediad, tirlunio, cynllun a maint.
Canllaw ar gael help gyda'r cais (96.4kb PDF).
Caniatâd cynllunio amlinellol gyda phob mater wedi'i gadw'n ôl
Mae caniatâd cynllunio amlinellol gyda phob mater wedi'i gadw'n ôl (759kb PDF) yn golygu nad oes angen manylu ar unrhyw un o'r manylion ychwanegol ar y cam hwn, fel ymddangosiad, mynediad, tirlunio neu gynllun. Mae gwybodaeth am wneud cais yn y canllaw cymorth (63.6kb PDF).
Materion wedi'u cadw'n ôl yn dilyn caniatâd amlinellol
Materion wedi'u cadw'n ôl yn dilyn caniatâd amlinellol (343kb PDF). Os ydych wedi llenwi un o'r ffurflenni caniatâd cynllunio amlinellol (rhai materion wedi'u cadw'n ôl/pob mater wedi'i gadw'n ôl), bydd angen i chi lenwi'r ffurflen hon yn nes ymlaen i gael caniatâd ar gyfer y materion a gadwyd yn ôl - neu na fanylwyd arnynt - cyn i chi ddechrau ar y gwaith. Canllaw cymorth (35.4kb PDF).
Dangos hysbysebion
Os ydych am osod hysbyseb, e.e.
- ar flaen siop neu fusnes (gyda/heb oleuadau)
- taflunio golau
- hysbysfyrddau
- arwyddion sy'n hongian
baneri
rhaid cyflwyno Ffurflen Gais Gosod Hysbyseb (356kb PDF). Ceir rhagor o wybodaeth am lenwi'ch cais yn y canllaw cymorth (24.7kb PDF).
Cais i Gyflawni Amod
Mae angen Cais i Gyflawni Amod (325kb PDF) pan fydd angen rhagor o wybodaeth ar gyfer y caniatâd cynllunio neu'r caniatâd adeilad rhestredig. Mae angen cyflwyno neu gymeradwyo'r manylion neu'r dogfennau y gofynnwyd amdanynt cyn i'r gwaith adeiladu allu dechrau. Mae'r canllaw (19.6kb PDF) hwn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am lenwi ffurflen gais.
Dileu neu amrywio amod ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi
Defnyddir Diwygiad Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio Presennol (330kb PDF) pan fo angen i chi ddiwygio manylion a gymeradwywyd yn flaenorol fel newid bach i ddyluniad neu ddeunyddiau a ddefnyddir ar broject.
Canllaw cymorth (26.5kb PDF)
Mae dileu neu amrywio amod ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi (346kb PDF) yn gysylltiedig â sefyllfa lle eich bod eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ond yr hoffech ddileu neu newid amod o'r caniatâd e.e. newid amseroedd agor eiddo busnes neu fasnachol. Canllaw cymorth (35.4kb PDF).
Mân Newid i Ganiatâd Cynllunio Presennol
Mae Mân Newid i Ganiatâd Cynllunio Presennol (330kb PDF) ar gyfer pan fo angen i chi ddiwygio manylion a gymeradwywyd o flaen llaw megis mân newid i ddyluniad neu ddeunyddiau a ddefnyddir ar broject. Canllaw cymorth (26.5kb PDF).
Dymchwel adeiladau
Os ydych am ddymchwel eich cartref, neu safle busnes, efallai y bydd angen i ni gytuno ar fanylion o ran sut rydych yn bwriadu gwneud hynny a sut rydych yn cynnig adfer y safle wedi hynny.
Sut i wneud cais:
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y Porth Cynllunio Cymru lle gallwch hefyd wneud cais ar-lein i ddymchwel adeilad .
Fodd bynnag, os byddai'n well gennych lenwi ffurflen gais ar bapur a'i hanfon atom drwy'r post, bydd angen i chi lenwitri math o ddogfen:
- Cais i Ddymchwel (327kb PDF). Hon yw'r brif ffurflen i wneud cais am ganiatâd i ddymchwel adeilad neu adeiledd. Bydd angen anfon y ffurflen hon yn ôl atom drwy'r post. Mae gwybodaeth am lenwi'r ffurflen yn y canllaw cymorth (19.9kb PDF).
- Rhaid i chi osod Hysbysiad Dymchwel (PDF, 23 KB) ar yr un adeg â phan anfonwch eich Cais i Ddymchwel. Rhaid ei lenwi, ei argraffu a'i osod ar safle'r gwaith dymchwel arfaethedig, neu wrth y safle hwnnw. Rhaid iddo fod yn weladwy i'r cyhoedd ac yn hawdd i'w ddarllen. Bydd yn cymryd 28 diwrnod, o'r dyddiad y byddwch yn anfon eich Cais i Ddymchwel, i ddod i benderfyniad, a rhaid i'ch Hysbysiad Dymchwel gael ei arddangos am o leiaf 21 o'r 28 diwrnod hwnnw.
- Unwaith i chi osod Hysbysiad Dymchwel rhaid i chi gwblhau Datganiad Dymchwel (PDF, 14 KB), ei lofnodi a'i anfon yn ôl atom i gadarnhau eich bod wedi gosod yr hysbysiad am o leiaf 21 diwrnod. Os ydych eisoes wedi gosod yr Hysbysiad, gallwch gyflwyno'r Datganiad Dymchwel ar yr un adeg â'r Cais i Ddymchwel. Os na fyddwch yn gwneud hyn bydd angen ei anfon atom ar ôl hynny.
Os ydych yn cynllunio i ddymchwel adeilad neu adeiledd mewn ardal gadwraeth bydd angen i chi wneud cais am Ganiatâd dymchwel mewn ardal gadwraeth (344kb PDF). Gallwch ddefnyddio'r canllaw cymorth (37.6kb PDF) wrth lenwi'r ffurflen.
Bydd hyn yn mynd law yn llaw â chais cynllunio llawn, felly bydd angen cyflwyno dau gais dan rai amgylchiadau.
Adeiladau Rhestredig
I gael rhagor o wybodaeth am adeiladau rhestredig yng Nghaerdydd gallwch gysylltu â'r tîm cadwraeth.
Rhaid i chi wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig (422kb PDF) os ydych yn cynllunio gwaith dymchwel, addasu neu estyn sy'n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig statudol. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn Ceisiadau Cynllunio Cymru. Mae'n rhaid cynnwys Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth ar gyfer pob cais Caniatâd Cynllunio sy'n ymwneud ag Adeilad Rhestredig.
Gweld adeiladau rhestredig ar fap
Mae angen caniatâd arnoch i weithio ar unrhyw rannau o'r adeilad, waeth beth yw gradd yr adeilad a ph'un a yw'r nodwedd rydych yn gweithio arni'n cael ei chrybwyll yn benodol yn y rhestr graddau ai peidio. Mae Cadw wedi paratoi canllawiau ar reoli newidiadau i adeiladau rhestredig. Gall gwaith gynnwys adeiladau neu adeileddau eraill sy'n gysylltiedig â'r prif adeilad rhestredig a gall hefyd fod yn berthnasol i waliau ffiniol. Mae rhagor o wybodaeth am lenwi'r ffurflen gais yn y canllaw cymorth (47kb PDF). Bydd hyn yn mynd law yn llaw â chais cynllunio llawn, felly bydd angen cyflwyno dau gais dan rai amgylchiadau.
Rydym yn cynghori'n gryf eich bod yn cyflwyno ymholiad Cyn Gwneud Cais cyn cyflwyno'r cais.
Defnydd neu weithgareddau presennol - Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon (TDC)
Os ydych yn berchen ar ddarn o dir neu adeilad a'i fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd - fel rhedeg busnes - gallwch wneud cais am ddogfen statudol a all brofi a yw'r defnydd hwnnw'n gyfreithlon.
Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon (TDC) yw hon, sy'n profi a yw gweithgaredd neu weithrediad sy'n digwydd mewn adeilad neu ar dir yn gyfreithlon. Gall hyn gynnwys:
- os yw ardal yn cael ei defnyddio i barcio cerbydau cwmni
- os yw ardal neu adeilad yn cael ei ddefnyddio i gadw offer neu stoc
- cadarnhau a yw amseroedd agor adeilad, safle neu fusnes yn gyfreithlon.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych yn ceisio gwerthu tir ond eich bod yn sylwi na roddwyd caniatâd cynllunio, a'ch bod am ddangos i unrhyw brynwyr posibl bod y gweithgaredd neu'r busnes sy'n digwydd yno'n gyfreithlon. Fodd bynnag, mae angen i chi roi tystiolaeth i ddangos bod y defnydd neu'r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers o leiaf 10 mlynedd.
Gallwch wneud cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon (479kb PDF) drwy lawrlwytho a llenwi'r ffurflen.
Ceir canllaw cymorth (40kb PDF) hefyd, sy'n cynnwys gwybodaeth am sut i lenwi'r ffurflen.
Os ydych yn bwriadu defnyddio tir neu adeilad at weithgaredd, gallwch wneud cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon am ddefnydd neu ddatblygiad Arfaethedig (358kb PDF).
Darllenwch y canllaw cymorth (24kb PDF).
Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon Arfaethedig
Os ydych yn bwriadu defnyddio tir neu adeilad at weithgaredd, gallwch wneud cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon ar gyfer Defnydd neu Ddatblygiad Arfaethedig (358kb PDF).
Defnyddiwch y Canllaw Cymorth (24kb PDF) wrth lenwi'r ffurflen.
Hysbysiad i berchennog - beth i'w wneud os yw'r perchennog yn anhysbys
Os bwriedir gwneud gwaith adeiladu, rhaid i berchennog y tir, yr adeiladau neu'r safle gael gwybod. Perchennog y safle yw'r rhydd-ddeiliad, neu'r lesddeiliad os oes o leiaf saith mlynedd o'r brydles yn weddill.
Cwblhewch Ffurflen Hysbysiad i Berchennog (PDF, 27 KB)
Os nad yw'r perchennog yn hysbys, cwblhewch Hysbysiad i'w gyhoeddi ar gyfer Tystysgrifau C a D a Ffurflen Hysbysiad i Berchennog (117kb PDF) y mae'n rhaid eu cyhoeddi mewn papur newydd lleol.
Gallwch gysylltu â ni i gael rhagor o fanylion, neu ewch i wefan y Porth Cynllunio Cymru.
Cysylltu a ni
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r ffurflenni cais hyn, neu i gael cyngor a chymorth cyffredinol ar y project rydych wedi'i gynllunio, cysylltwch â ni.
Rheoli Datblygu
Cynllunio Strategol, Priffyrdd a Thraffig a Thrafnidiaeth
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Ffon: 029 2233 0800
Ar gyfer ffurflenni cais, cyngor a chymorth cyffredinol, cysylltwch â'r adran Rheoli Datblygu:
Ar gyfer ymholiadau'n ymwneud ag Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth, cysylltwch â'r adran Gadwraeth.
