Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Atgyweirio eich cartref

Fel un o denantiaid y Cyngor, efallai y bydd angen i chi:

  • wneud gwaith atgyweirio yn eich cartref eich hun, neu
  • roi gwybod am rywbeth y mae angen i ni ei atgyweirio.

Gweld Polisi atgyweiriadau Cyngor Caerdydd (Word doc, 267 KB).

Pwy sy'n gyfrifol am y gwaith atgyweirio

Chi sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • amnewid gwydr wedi torri (oni bai ei fod wedi cael ei achosi gan drosedd),
  • addurno'r tu mewn i'ch cartref,
  • amnewid allweddi,
  • cloeon wedi'u difrodi,
  • seddi a chaeadau toiledau,
  • plygiau a chadwyni sinciau, baths a basnau,
  • cysylltiad poptai, peiriannau golchi ac offer eraill,
  • drysau mewnol,
  • rhwystrau i sinciau, baths a basnau,
  • erialau teledu i dai,
  • leiniau sychu dillad tro i dai,
  • atgyweirio gosodiadau a ffitiadau lle mae difrod yn faleisus neu drwy esgeulustod,
  • bylbiau golau (ac eithrio mewn ardaloedd cymunedol),
  • silffoedd, rheiliau cotiau a gosodiadau eraill sydd wedi'u gosod gan denantiaid, a
  • gwaith y cartref neu addasiadau diawdurdod.

Ni sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • cynnal a chadw adeiledd eich cartref, a
  • gwneud yn siŵr bod gosodiadau dŵr, nwy, trydan a glanweithdra yn ddiogel ac yn gweithio.

 

Categorïau gwaith atgyweirio

Rydym yn categoreiddio pob darn o waith atgyweirio fel y gallwn flaenoriaethu'r gwaith y mae angen ei wneud. Y categorïau gwaith atgyweirio yw:

  • argyfwng,
  • brys, ac
  • arferol.

Argyfwng

Mae gwaith atgyweirio yn cael ei ystyried yn argyfwng yn yr achosion canlynol:

  • os oes perygl uniongyrchol i rywun, neu
  • os oes perygl difrifol o ddifrod i'r eiddo.

Amserlen

Ein nod yw mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o geisiadau am waith atgyweirio sy'n argyfwng o fewn 2 awr.

Mewn amgylchiadau eithriadol lle na allwn fynd i'r afael â nhw o fewn 2 awr, byddwn yn rhoi cyngor i chi ar sut i leihau'r risg uniongyrchol nes y gallwn fod yn bresennol.

Byddwn yn mynd i'r afael â phob cais am waith atgyweirio sy'n argyfwng o fewn 24 awr.

Yn ystod cyfnodau prysur iawn, byddwn yn blaenoriaethu gwaith atgyweirio yn seiliedig ar y brys. Byddwn yn esbonio hyn i chi pan fyddwch yn rhoi gwybod am yr angen am waith atgyweirio.

Byddwn yn sicrhau bod yr holl risgiau posibl o niwed yn cael eu dileu, a bod unrhyw sefyllfaoedd peryglus yn cael eu datrys. Os oes angen gwaith dilynol, byddwn yn ei drefnu yn unol â'r amserlenni atgyweirio.

Enghreifftiau o broblemau neu waith sy'n cael eu hystyried yn argyfwng

  • Pibellau dŵr wedi byrstio, gollyngiadau difrifol, neu ddim cyflenwad dŵr.
  • Gollyngiadau yn agos at neu sy'n ymyrryd â chyflenwad trydan.
  • Dim gwres yn unrhyw le yn yr eiddo cyfan rhwng 1 Tachwedd a 30 Ebrill (yn ystod misoedd y gaeaf).
  • Dim dŵr poeth yn unrhyw le yn yr eiddo cyfan rhwng 1 Tachwedd a 30 Ebrill (yn ystod misoedd y gaeaf).
  • Gollyngiadau to difrifol sy'n debygol o achosi niwed i berson neu eiddo.
  • Toiled wedi'i flocio (os mai dim ond un toiled sydd yn yr eiddo).
  • Carthffos wedi'i blocio lle mae carthffosiaeth yn mynd i mewn i'r eiddo neu'n achosi problemau o fewn yr eiddo.
  • Dim trydan yn yr eiddo cyfan neu'r trydan yn tripio.
  • Difrod i offer trydanol a rhannau byw'n agored.
  • Dim golau yn yr holl eiddo.
  • Goleuadau cymunedol ddim yn gweithio.
  • Diffyg larwm tân.
  • Diffyg synhwyrydd mwg lle mae'n canu'n llawn neu lle mae'r holl larymau mwg yn yr eiddo yn ddiffygiol.
  • Ymchwiliadau carbon monocsid.
  • Materion diogelwch gyda drysau neu ffenestri allanol.
  • Gwydr wedi torri yn peri risg i ddiogelwch ar y llawr gwaelod neu niwed i berson.
  • Unrhyw fater arall sy'n risg iechyd a diogelwch ac mae'n debygol y bydd person yn yr eiddo, neu aelod o'r cyhoedd yn cael ei niweidio.
  • Archwiliad lleithder argyfwng. Ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol sydd angen gweithredu ar unwaith, fel llwydni helaeth sy'n effeithio ar y cartref cyfan ac sy'n peri peryglon iechyd. Bydd p'un a yw hyn yn cael ei ystyried yn argyfwng yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys maint y llwydni ac unrhyw broblemau iechyd sy'n cael eu profi gan yr aelwyd. Gall gwaith sy'n argyfwng gynnwys golchi llwydni a thrin yr ardal i gael gwared ar y risg uniongyrchol. Ar ôl dileu'r risg uniongyrchol, efallai y bydd gwaith pellach o dan gategori gwahanol o waith atgyweirio.

 

Brys

Mae gwaith atgyweirio'n cael ei ystyried yn waith brys os oes angen ei gwblhau'n gyflym ond nid oes risg uniongyrchol i chi na gweddill yr aelwyd.

Amserlen

Fel arfer byddwn yn mynd i'r afael â cheisiadau am waith atgyweirio brys o fewn 5 diwrnod gwaith.

Oherwydd nifer yr atgyweiriadau sy'n cael eu hadrodd, gall ein hamser ymateb gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith.


Enghreifftiau o broblemau neu waith sy'n cael eu hystyried yn frys

  • Dim gwres rhwng mis Mai a mis Hydref (yn ystod misoedd yr haf).
  • Dim dŵr poeth rhwng mis Mai a mis Hydref (yn ystod misoedd yr haf).
  • Methiant rhannol y system wresogi trwy gydol y flwyddyn.
  • Mân wasanaethau plymio, fel rheiddiaduron yn gollwng neu orlifo.
  • Gollyngiadau y gellir eu rheoli.
  • Cawodydd diffygiol.
  • Goleuadau ystafell ymolchi diffygiol.
  • Offer trydanol wedi'u difrodi sy'n cael eu rheoli ac nad ydynt yn dangos rhannau byw.
  • Mân ddiffygion trydanol, fel goleuadau neu socedi nad ydynt yn gweithio.
  • Diffyg system mynediad drws.
  • Diffyg offer golchi dillad cymunedol.
  • Diffyg systemau erial cymunedol.
  • Drysau cymunedol allanol diffygiol neu anniogel.
  • Archwiliad lleithder brys. Ar gyfer achosion mwy difrifol sydd angen sylw cyflymach, fel llwydni sy'n lledaenu ar draws sawl ystafell. Gall gwaith brys gynnwys golchi llwydni a thrin yr ardal i gael gwared ar y risg uniongyrchol. Ar ôl dileu'r risg uniongyrchol, efallai y bydd gwaith pellach o dan gategori gwahanol o waith atgyweirio.

 

Arferol

Mae gwaith atgyweirio'n cael ei ystyried yn arferol yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn ddiogel yn eich cartref, a
  • gallwn ei drefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.

Gwaith atgyweirio arferol yw'r holl waith atgyweirio sy'n codi o ddydd i ddydd nad yw'n dod o dan y categorïau argyfwng neu frys.

Amserlen

Fel arfer byddwn yn mynd i'r afael â gwaith atgyweirio arferol o fewn 25 diwrnod gwaith.

Oherwydd nifer yr atgyweiriadau sy'n cael eu hadrodd, gall ein hamser ymateb gymryd hyd at 45 diwrnod gwaith.


Enghreifftiau o broblemau neu waith sy'n cael eu hystyried yn arferol

  • Unrhyw broblemau gyda'r system wresogi nad ydynt yn ei gwneud yn anniogel.
  • Amnewid rheiddiadur.
  • Amnewid sinc a bath wedi'u difrodi.
  • Cafnau a pheipiau dŵr sy'n ddiffygiol neu wedi torri.
  • Gosod gwyntyllau.
  • Unrhyw bwyntiau trydanol neu oleuadau ychwanegol sydd angen eu gosod.
  • Goleuadau allanol sydd angen eu gosod.
  • Drysau sydd angen eu haddasu.
  • Addasu neu amnewid cloeon a chliciedau drysau cyntedd.
  • Lloriau wedi'u difrodi.
  • Craciau mawr mewn plastr nenfwd.
  • Addurno ar ôl gwaith plastro.
  • Teils llawr plastig neu finyl sydd wedi'u difrodi ac sydd mewn lleoliad a allai achosi perygl baglu.
  • Gwaith gosod gwydr.
  • Archwiliad lleithder arferol. Ar gyfer achosion llai difrifol, fel mân fannau llwydni mewn ardal fach.

 

Gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio

Rydym yn gwneud gwaith cynnal a chadw bob blwyddyn i amnewid neu adnewyddu elfennau sy'n dod tuag at ddiwedd eu bywyd arferol.

Enghreifftiau o waith cynnal a chadw wedi'i gynllunio:

  • peintio ac atgyweirio allanol,
  • uwchraddio boeleri a systemau gwres canolog presennol,
  • adnewyddu'r to,
  • amnewid clymau wal geudod, neu
  • osod gwydr dwbl.

Byddwn yn cysylltu â chi yn rhoi manylion y gwaith cynnal a chadw a fydd yn digwydd, pryd y caiff ei gwblhau a phwy fydd yn gwneud y gwaith.

Bydd yr is-gontractwr yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad.

Cysylltwch â ni os oes unrhyw gwestiynau gennych.

 

Gwasanaethu nwy

Fel landlord, rydym yn gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod tenantiaid ac ymwelwyr yn eiddo'r Cyngor yn ddiogel.

Mae'n rhaid i'ch gwres canolog nwy gael ei wasanaethu bob blwyddyn i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel rhag gollyngiadau nwy a gwenwyn carbon monocsid.

Os yw eich gwres canolog nwy yn cael ei wasanaethu'n rheolaidd, mae'n anghyffredin i offer nwy fethu'r archwiliad arferol. Os bydd offer yn methu, byddwn yn gwneud trefniadau ar unwaith i sicrhau eich bod yn ddiogel a bod y gwaith atgyweirio angenrheidiol yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl.

Eich apwyntiad

Byddwn yn anfon llythyr atoch tua 2 wythnos cyn dyddiad eich apwyntiad gwasanaethu nwy.

Os nad yw dyddiad eich apwyntiad yn addas, bydd angen i chi roi o leiaf 48 awr o rybudd i ni i'w newid.

  • Trefnwch apwyntiad, neu
  • ffoniwch 029 2087 2088 (dewiswch opsiwn 2).

Mynediad i'ch eiddo

Mae'n rhaid i chi roi mynediad i'ch eiddo i'r peirianwyr nwy ar gyfer yr apwyntiad.

Os na fyddwch yn rhoi mynediad iddynt, byddwch yn torri amodau eich Contract (Cytundeb Tenantiaeth).

Mae ein holl beirianwyr wedi'u cofrestru gyda Diogelwch Nwy. Dylai'r peiriannydd ddangos cerdyn adnabod a rhif cofrestru Diogelwch Nwy i chi.

Ar ôl iddo gwblhau'r gwasanaeth a'r gwiriad diogelwch, byddwch yn derbyn copi o'r Dystysgrif Diogelwch Nwy Landlord (CP12) ar gyfer eich cofnodion eich hun.

Gollyngiadau nwy

Nid ydym yn gyfrifol am olrhain ac atgyweirio gollyngiadau nwy. Os ydych chi'n arogli nwy, ffoniwch Wales and West Utilities ar 0800 111 999.

Cofiwch:

  • Ddiffodd y nwy wrth y mesurydd.
  • Agor y ffenestri a'r drysau i alluogi'r nwy i ddianc.
  • Peidio â defnyddio unrhyw fflamau noeth a pheidio ag ysmygu.
  • Peidio â defnyddio unrhyw socedi neu offer trydanol.

 

Anwedd a lleithder

Ewch i wefan Tai Caerdydd i gael gwybodaeth a chyngor ar anwedd a lleithder.

Rhoi gwybod bod angen gwaith atgyweirio

Os mai ni sy'n gyfrifol am y gwaith atgyweirio, rhowch wybod amdano ar-lein.

Os yw'n waith atgyweirio sy'n argyfwng, ffoniwch Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.

Byddwn yn rhoi dyddiad ac amser i chi ar ôl i chi roi gwybod bod angen gwneud gwaith atgyweirio. Dywedwch wrthym os oes slot amser sy'n well gennych.

Slotiau amser ar gyfer gwaith atgyweirio
Math o slotAmseroedd slot
Bore (AM)8:30am tan 12:30pm
Prynhawn (PM)12:30pm tan 4pm
Unrhyw bryd8:30am tan 4pm
Hebrwng y plant i'r ysgol10am tan 2pm

 

Os yn bosibl, rhowch eich rhif ffôn i ni fel y gallwn gadarnhau eich apwyntiad. Wrth gwblhau'r ffurflen hon, sicrhewch eich bod yn dweud y canlynol wrthym:

  • y slot amser sy'n well gennych,
  • unrhyw amgylchiadau arbennig, ac
  • unrhyw ddifrod sy'n cael ei achosi.

Rhowch wybod i ni os byddai'n well gennych gael cadarnhad o'r apwyntiad drwy neges destun.

Gallai fod yn rhaid i chi dalu am fethu apwyntiad os nad ydych yn canslo. Mae angen 24 awr o rybudd arnom i ganslo'r apwyntiad.

Rhowch wybod amdano

Canslo apwyntiad

Ffoniwch ni i newid neu ganslo eich apwyntiad. Mae angen o leiaf 24 awr o rybudd arnom, ond ceisiwch roi cymaint o rybudd â phosibl i ni.

Bydd angen i chi roi eich cyfeiriad a rhif y gwaith.

Ffôn: 029 2087 2088