Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cyflwyniad i Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (y Safon) yn gosod y cyflwr targed yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r Safon yn dweud bod yn rhaid diweddaru'r holl dai cymdeithasol a'u cadw mewn cyflwr da fel y gall tenantiaid fyw mewn cartref sydd:

  • mewn cyflwr da,
  • yn saff ac yn ddiogel,
  • yn fforddiadwy i'w wresogi ac yn cael yr effaith leiaf posib ar yr amgylchedd,
  • ag ardal gyfleustodau a chegin fodern,
  • ag ystafell ymolchi fodern,
  • yn gyfforddus ac yn hyrwyddo lles,
  • â gardd addas, ac
  • sydd ag ardal awyr agored ddeniadol.

Mae'r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi'u dylunio i'w hargraffu. Mae'n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.

Cynnal a chadw

Mae'n bwysig bod y safon yn cael ei gynnal, a bod y buddsoddiad wedi'i gynllunio'n iawn. Bydd faint o fuddsoddiad sydd ei angen yn newid bob blwyddyn felly bydd angen addasu ein rhaglenni gwaith yn flynyddol.

Mae gennym nifer o fethiannau dros dro, ac rydym wedi cyflwyno mesurau i ailystyried a sicrhau cyflawni'r safon gymaint â phosibl. Methiant dros dro yw eiddo nad yw'n bodloni'r safon am resymau dilys. Er enghraifft, os nad yw preswylydd eisiau'r hyn a gynigir.

Rydym yn adolygu'r safon pan fydd eiddo'n dod yn wag. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid i gael tenantiaid nad ydynt wedi cael gwaith SATC neu sydd wedi newid eu meddwl i gysylltu â ni.

Cyllid

Mae'r cyllid yn cynnwys:

  • incwm rhent tai cyngor,
  • arian wedi ei fenthyg (benthyca darbodus), a
  • Grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr (LAM) gan Lywodraeth Cymru.

Ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027, byddwn yn cael £9,570,000 gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei wario ar gynlluniau gwella SATC.

Logo Llywodraeth Cymru