Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Rhentu garej

Rydym yn berchen ar garejys ledled y ddinas ar ystadau Tai Cyngor.

Mae garejys ar gyfer defnydd preifat yn unig ac nid ar gyfer gweithgareddau masnachol.

Gallwch ond wneud cais am garej sydd yn ardal eich eiddo. Os nad oes un ar gael ar eich safle o ddewis, fe wnawn eich ychwanegu at y rhestr aros ar gyfer y safle hwnnw a byddwn yn cysylltu â chi os daw un ar gael.

Mae ein garejys ar gyfer cadw cerbyd modur. Ni ddylech gadw petrol nac unrhyw ddeunyddiau fflamadwy eraill yn eich garej. Ni ddylech is-osod eich garej i unrhyw un arall. Nid oes trydan yn y garejys.

I wneud cais am garej ewch i Hyb Cyngor a gofyn am ffurflen gais neu llenwch gais ar-lein (PDF, 184 KB). Gallwch e-bostio'ch ffurflen ar ôl ei chwblhau at [email protected]

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Rhowch gwybod i ni am broblem ar safle garej

Rhowch gwybod i ni am waith atgyweirio sydd angen ar eich garej.

Rhoi gwybod am rywbeth

Gallwch hefyd rhoi gwybod i ni am dipio anghyfreithlon.

Cyngor ar ymddygiad gwrthgymdeithasol