Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Beicffyrdd

Rydym yn datblygu cynigion ar gyfer 6 beicffordd yng Nghaerdydd. Bydd y beicffyrdd yn cefnogi ac yn hyrwyddo beicio ar gyfer pob oedran a gallu. Bydd y llwybrau arfaethedig yn cysylltu cymunedau â phrif gyrchfannau trwy'r ddinas, gan gynnwys Canol y Ddinas a Bae Caerdydd.

Bydd y llwybrau beicio yn darparu llwybrau parhaus sy'n reddfol ac yn gyfforddus i'w defnyddio. Byddant yn cael eu gwahanu oddi wrth gerbydau a cherddwyr lle bo angen.

Caiff y beicffyrdd eu datblygu ar sail cynigion yn y Map Rhwydwaith Teithio Llesol sy'n nodi cynllun 15 mlynedd i wella llwybrau ar gyfer cerdded a beicio yn y ddinas.

Gweld y map beicffyrdd (2mb JPG)

Dysgu am bob llwybr beicio arfaethedig.

Canol y ddinas i Barc y Rhath

Bydd Beicffordd 6 yn mynd o ganol y ddinas i:

  • Blasnewydd,
  • Pen-y-lan,
  • Cyncoed, a
  • Pharc y Rhath.

Rydym wedi dechrau cam 1 y beicffordd hwn. Dysgu mwy am gam 1 llwybr beicio Parc y Rhath.

Canol y ddinas i Ogledd-ddwyrain Caerdydd

Bydd Beicffordd 1 yn mynd o ganol y ddinas i:

  • Gathays,
  • Ysbyty Athrofaol Cymru,
  • Gorsaf reilffordd Lefel Uchel y Mynydd Bychan,
  • Gorsaf reilffordd Lefel Isel y Mynydd Bychan, a
  • Safle Datblygu Strategol Gogledd-ddwyrain Caerdydd.

Mae'r rhan o'r llwybr rhwng Stuttgart Strasse ac Ysbyty Prifysgol Cymru eisoes wedi'i chwblhau.

Canol y Ddinas i Barc Busnes Llaneirwg

Bydd Beicffordd 2 yn mynd o ganol y ddinas i:

  • Adamsdown,
  • Parciau manwerthu Heol Casnewydd,
  • Tredelerch,
  • Llanrhymni, a
  • Pharc Busnes Llaneirwg.

Canol y ddinas i Fae Caerdydd

Bydd Beicffordd 3 yn mynd o ganol y ddinas i Fae Caerdydd.

Canol y ddinas i Ogledd-Orllewin Caerdydd

Bydd Beicffordd 4 yn mynd o ganol y ddinas i:

  • Landaf,
  • Danescourt, a
  • Safle Datblygu Strategol y Gogledd-orllewin.

Canol y ddinas i Gaerau

Bydd Beicffordd 5 yn mynd o ganol y ddinas i:

  • Lan-yr-afon,
  • Trelái, a
  • Chaerau.