Mae Sustrans yn gweithio ar y cyd gyda saith dinas yn y DU - Belfast, Birmingham, Bryste, Caerdydd, Caeredin, Manceinion Fwyaf a Newcastle - i adrodd ar gynnydd tuag at wneud beicio yn ddull teithio dydd i ddydd deniadol.
Lawrlwythwch Adroddiad Bywyd Beicio Caerdydd (PDF, 1 MB).
Cafodd Bywyd Beicio ei ysbrydoli gan y Copenhagen Bicycle Account, ac mae'n asesiad o ddatblygiad beicio yn cynnwys amgylchedd ar gyfer beicio, cynlluniau newydd yn ogystal â boddhad am wahanol agweddau o feicio.
Dyma'r cyntaf o ddau adroddiad, gyda'r ail yn cael ei gyhoeddi yn 2017. Mae'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn dod o ddata lleol, yn cynnwys arolwg cynrychiadol o dros 1,100 o drigolion Caerdydd. Ceir rhagor o fanylion am ddarganfyddiadau a methodoleg yr adroddiad o
Diolchwn i bobl Gaerdydd am gymryd rhan yn yr arolwg ac i'r rhai a wirfoddolodd i gael eu ffotograffu ar gyfer yr adroddiad hwn.
