Rydym wedi partneru â Spokesafe i ddarparu rhwydwaith o loceri beiciau diogel mewn sawl lleoliad ar draws canol y ddinas.
Gallwch archebu loceri fesul diwrnod, wythnos neu fis ar yr Ap Spokesafe.
Mae'r Ap yn dangos argaeledd amser real i chi ac yn gadael i chi archebu a chael mynediad at loceri 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae pob locer:
- ar gyfer un beic,
- wedi'i hamgáu'n llawn ac yn
- gloadwy.
Ewch i wefan Spokesafe i gael rhagor o wybodaeth.
Cost
| Hyd | Cost |
|---|---|
| 24 awr | £1.50 |
| 1 wythnos | £7.50 |
| 1 mis | £20 |
Lleoliadau
- Castell Caerdydd, Stryd y Castell, CF10 3RB
- Stryd Tredegar, CF10 1EG
- Ffordd Churchill, CF10 2HE
- Heol y Porth, CF10 1DD
- Canolfan Dewi Sant, Heol Charles, CF10 2GA
- Heol y Frenhines, CF10 2BJ
- Stryd Wood, Sgwâr Canolog, CF10 1XR
