Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Eithriadau myfyrwyr

Os ydych yn fyfyriwr, gallech gael eich eithrio o dalu'r Dreth Gyngor.

I gael eich ystyried yn fyfyriwr llawn-amser, rhaid i'ch cwrs:

  • bara o leiaf 1 flwyddyn galendr neu academaidd
  • ei gwneud yn ofynnol i chi ymgymryd ag ef am o leiaf 24 wythnos y flwyddyn
  • cynnwys o leiaf 21 awr o astudio, hyfforddiant neu brofiad gwaith yr wythnos.

Os ydych yn astudio ar gyfer cymhwyster hyd at Safon Uwch a'ch bod o dan 20 oed, rhaid i'ch cwrs:

  • bara o leiaf 3 mis
  • cynnwys o leiaf 12 awr o astudio'r wythnos

Er mwyn sicrhau nad ydych yn atebol am daliad, gwiriwch a yw'ch landlord wedi cwblhau ffurflen adolygu eithrio myfyrwyr. Os ydynt, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Os nad ydynt, mae angen i chi gael tystysgrif Treth Gyngor gan y Cofrestrydd yn eich prifysgol neu goleg.

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen i anfon copi o'ch tystysgrif eithrio atom. Cofiwch gynnwys manylion eich rhif cyfrif Treth Gyngor (os yw'n bosibl), eich enw a'ch cyfeiriad yng Nghaerdydd pryd bynnag y byddwch yn cysylltu â ni.

Bydd angen i unrhyw ddogfenau y mae angen i chi eu hatodi i'r ffurflen fod yn ffeiliau delwedd (jpeg, jpg, png). Tynnwch lun neu sgrinlun o'ch dogfen i'w hatodi i'r ffurflen.

Ffurflen eithrio myfyrwyr

Gŵr neu wraig a dibynyddion myfyrwyr

Dylid trin gŵr neu wraig a dibynyddion myfyriwr rhyngwladol hefyd fel pe baent yn fyfyrwyr llawn-amser ar yr amod:

  • nad dinasyddion Prydeinig ydynt, ac
  • mae rheoliadau mewnfudo'n eu hatal rhag derbyn cyflogaeth â thâl neu hawlio budd-daliadau tra byddant yn byw yn y DU.

Os ydych yn ŵr neu'n wraig i fyfyriwr, bydd angen i chi ddarparu copi o'ch pasbort neu'ch fisa.