Os ydych yn rhywun iau sy'n gadael gofal, gallech gael eich eithrio rhag talu'r Dreth Gyngor os ydych yn byw:
- ar eich pen eich hun,
- gyda phobl eraill sy'n gadael gofal,
- gyda myfyrwyr, neu
- gyda rhywun sydd ag amhariad gwybyddol sylweddol.
Os ydych yn byw gydag oedolyn arall gallech gael gostyngiad o 25%.
Gwneud cais am ostyngiad neu eithriad
Defnyddiwch y ffurflen hon i hawlio gostyngiad o'r dreth gyngor i bobl sy'n gadael gofal.
