Os ydych chi'n ofalwr, efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad ar eich treth gyngor.
Gofalwyr di-dâl
Gallwch weld yr wybodaeth am ostyngiadau sydd ar gael i ofalwyr di-dâl.
Ydych chi'n gofalu am rywun nad yw'n bartner i chi, neu blentyn i chi o dan 18 oed?
Gallwch gael gostyngiad ar eich treth gyngor os:
- ydych chi'n gofalu am o leiaf 35 awr yr wythnos
- yw'r person rydych chi'n gofalu amdano yn cael budd-daliadau penodol
- rydych chi'n byw gyda'r person rydych chi'n gofalu amdano, ac
- rydych chi'n gofalu am rywun nad yw'n bartner i chi, neu blentyn i chi o dan 18 oed
Os hoffech chi wneud cais am ostyngiad, llenwch ein ffurflen gysylltu. Bydd angen i chi roi'r canlynol i ni:
- eich enw ac enw'r person rydych yn gofalu amdano,
- eich rhif cyfrif treth gyngor,
- eich cyfeiriad a chyfeiriad y person rydych yn gofalu amdano,
- enw unrhyw un dros 18 oed sydd hefyd yn byw gyda chi,
- pa fudd-daliadau y mae'r person rydych yn gofalu amdano yn eu derbyn,
- nifer yr oriau yr ydych yn gofalu amdanynt bob wythnos, a'ch
- perthynas â'r person rydych yn gofalu amdano.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ostyngiadau'r dreth gyngor yma.
Ydych chi'n gofalu am eich partner neu blentyn i chi o dan 18 oed?
Ni allwch gael gostyngiad gofalwr ar eich treth gyngor os ydych chi'n gofalu am eich partner, neu blentyn i chi sydd o dan 18 oed.
Gofalwr cyflogedig
Os ydych chi'n cael eich cyflogi fel gofalwr, efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad ar eich treth gyngor os:
- ydych chi'n cael eich cyflogi gan unigolyn neu sefydliad i ofalu am rywun,
- ydych chi'n darparu gofal am fwy na 24 awr yr wythnos,
- nid ydych chi'n ennill mwy na £44 yr wythnos, ac
- rydych chi'n byw gyda'r person rydych yn gofalu amdano, neu mewn llety a ddarperir gan eich swydd.
Os hoffech chi wneud cais am ostyngiad, llenwch ein ffurflen gysylltu. Bydd angen i chi roi'r canlynol i ni:
- eich enw ac enw'r person rydych chi'n gofalu amdano,
- eich rhif cyfrif treth gyngor,
- yr unigolyn neu'r sefydliad rydych yn gyflogedig ganddo,
- nifer yr oriau yr ydych yn gofalu amdanynt bob wythnos,
- eich enillion wythnosol,
- eich cyfeiriad a chyfeiriad y person rydych yn gofalu amdano, ac
- enw unrhyw un dros 18 oed sydd hefyd yn byw gyda chi.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ostyngiadau'r dreth gyngor yma.
Os ydych mewn cartref gofal, ysbyty neu wedi symud i gartref eich gofalwr
Os ydych chi'n symud, neu os ydych chi wedi symud allan o'ch cartref i dderbyn gofal, rhowch wybod i ni gan y gallwn newid eich bil.
Byddwch wedi'ch eithrio rhag talu'r dreth gyngor os:
- ydych chi'n byw mewn cartref gofal neu gartref nyrsio,
- ydych chi'n aros yn barhaol yn yr ysbyty neu mewn hosbis, neu
- rydych chi wedi symud i mewn i gartref eich gofalwr.
Bydd eich eiddo wedi'i eithrio dim ond os nad yw'n wag. Os oes rhywun arall yn dal i fyw yn yr eiddo neu'n symud i mewn, yna nhw fydd yn gyfrifol am dalu'r dreth gyngor.
Os hoffech chi wneud cais am ostyngiad, l lenwch ein ffurflen gysylltu. Bydd angen i chi roi'r canlynol i ni:
- eich enw,
- eich rhif dreth gyngor,
- a ydych wedi gadael eich tŷ i gael gofal
- y dyddiad y gadawyd yr eiddo, a'ch
- cyfeiriad newydd.
