Ystyr 'person anabl' yn y cyd-destun hwn yw person sydd ag anabledd sylweddol a pharhaol. Gall fod yn oedolyn neu'n blentyn ac nid oes rhaid iddo fod yn gyfrifol am dalu bil Treth Gyngor.
Gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad os oes gan eich eiddo o leiaf un o'r canlynol:
- ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol i fodloni anghenion y person anabl,
- ystafell (heblaw cegin, ystafell ymolchi neu doiled) i fodloni anghenion y person anabl ac a ddefnyddir yn bennaf gan y person hwnnw,
- lle ychwanegol y tu mewn i'r eiddo er mwyn defnyddio cadair olwyn.
Rhaid i'r ystafell neu'r gadair olwyn fod yn hanfodol, neu'n bwysig iawn i les y person anabl. Mae cadeiriau olwyn i'w defnyddio yn yr awyr agored yn unig yn cael eu heithrio.
Nid oes rhaid bod ystafell ychwanegol wedi'i hadeiladu'n arbennig, ond ni fydd eich cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad oni bai bod yr ystafell yn hanfodol neu'n bwysig iawn i'r person anabl.
Os cewch y gostyngiad, bydd eich Treth Gyngor yn cael ei gostwng i fod yn gyfwerth â'r band prisio islaw'r un sydd gennych nawr, er enghraifft os ydych yn byw mewn eiddo band D, codir y Dreth Gyngor arnoch ar gyfer eiddo band C. Os ydych yn byw mewn eiddo band A, bydd eich Treth Gyngor yn cael ei gostwng gan ganran penodol.
