Gallwch dalu eich treth gyngor yn y ffyrdd canlynol:
- ar-lein
- Debyd Uniongyrchol
- trosglwyddiadau banc
- taliad ffôn awtomataidd, neu
- trwy'r post.
Talu'ch treth gyngor ar-lein
Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i dalu'ch bil treth gyngor. Sicrhewch fod gennych y manylion canlynol wrth law:
- rhif cyfrif eich treth gyngor (ar gornel dde uchaf eich bil. Mae'r rhif hwn yn 8 digid o hyd ac yn dechrau gyda '1' neu '2')
- eich Cerdyn Debyd neu Gredyd
- y swm rydych am ei dalu
Debyd uniongyrchol
Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol i dalu'ch treth gyngor yn syth o'ch cyfrif banc bob mis.
Trefnwch Debyd Uniongyrchol ar-lein.
Lawrlwythwch ffurflen gais am Debyd Uniongyrchol i ddychwelyd drwy'r post. (PDF, 284 KB)
Dros y ffôn
Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd i dalu dros y ffôn. System daliadau awtomatig 24 awr yw hon.
Bydd angen y canlynol arnoch cyn i chi ffonio:
- rhif cyfrif eich treth gyngor (ar gornel dde uchaf eich bil. Mae'r rhif hwn yn 8 digid o hyd ac yn dechrau gyda '1' neu '2')
- eich Cerdyn Debyd neu Gredyd
- y swm rydych am ei dalu
Ffoniwch 029 2044 5900. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud eich taliad.
Gallwch siarad ag un o'n hymgynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid am eich bil. Nid yw hwn yn wasanaeth 24 awr, ac mae ond ar agor yn ystod oriau agor y ganolfan alwadau.
Drwy'r post
Anfonwch eich siec neu'ch archeb bost gyda'ch cerdyn talu'r dreth gyngor i:
Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD
Dylid croesi Sieciau / Archebion Post a'u gwneud yn daladwy i Cyngor Caerdydd. Gofynnwch am dderbynneb os oes angen un arnoch.
Ni dderbynnir sieciau ôl-ddyddiedig.
Peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post.
Cyfrif banc
Gallwch dalu'ch bil yn syth i gyfrif banc y Cyngor:
Nat West Bank,
96 Heol-y-Frenhines
Caerdydd
CF10 2GR
Cod didoli: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838
Cofiwch ddyfynnu eich rhif cyfrif treth gyngor.
Lawrlwythwch i gael ffordd well o gysylltu â gwasanaethau'r cyngor.
