Dylai eich bil treth gyngor fod yn debyg i'r un yma.
1. Dyddiad Dosbarthu
Hwn yw'r dyddiad y cafodd eich bil ei anfon atoch. Ni chaiff unrhyw daliadau a wnaed ar ôl y dyddiad hwn eu dangos ar y bil hwn.
2. Rheswm dros y bil
Mae'r adran hon yn egluro pam fod y bil wedi'i gyhoeddi a bydd yn dangos un o'r rhesymau canlynol:
- Bil blynyddol
Eich bil newydd am y flwyddyn dreth nesaf. - Budd-daliadau
Mae'r bil wedi'i gyflwyno i ddangos newid yn eich gostyngiad treth gyngor. - Cyfrif wedi'i Gau
Anfonir y bil hwn i chi pan ddaw cyfnod bilio i ben e.e. pan fyddwch yn gadael yr eiddo. - Newid i'r Band Prisio
Caiff y bil hwn ei anfon pan fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi penderfynu ailasesu band eich eiddo. - Cyfrif Newydd
Mae hyn yn golygu bod cyfrif newydd wedi'i greu i chi yn yr eiddo a ddangosir ar y bil. - Eithriad
Bydd y bil hwn yn dangos bod eithriad wedi'i roi neu'i dynnu oddi ar eich cyfrif. - Gostyngiad
Bydd y bil hwn yn dangos bod disgownt wedi'i roi neu'i dynnu oddi ar eich cyfrif.
3. Rhif y cyfrif
Dyma eich rhif cyfeirnod personol i'ch cyfrif treth gyngor a'ch cyfnod atebolrwydd. Efallai y bydd gennych lawer o gyfrifon yn yr eiddo yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Rhaid bod gennych y rhif hwn wrth law i drafod eich bil.
4. Yr eiddo y mae'r bil hwn yn cyfeirio ato
Y cyfeiriad y mae'r bil yn berthnasol iddo.
5. Band
Dyma'r band y rhoddwyd eich eiddo ynddo. Rhagor o wybodaeth am fandiau prisio.
6. Tâl am y cyfnod
Y cyfnod y mae'r bil yn berthnasol iddo. Mae biliau bob amser yn cyfateb i'r flwyddyn ariannol. Os yw'n fil blynyddol, bydd bob amser o 1 Ebrill tan 31 Mawrth i'r flwyddyn ariannol honno.
Hefyd yn yr adran hon mae:
Balans sy'n cael ei Gario Drosodd: Caiff unrhyw swm sy'n ddyledus gennych o'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ei nodi yma.
Addasiadau: Mae hwn yn dangos unrhyw addasiadau i'ch bil. Mae ffigur negyddol (-) yn ostyngiad o gyfanswm eich bil. Fel arall mae'n ychwanegu at gyfanswm y bil. Bydd hyn am un o'r rhesymau canlynol:
- Budd-daliadau
- Gostyngiad Person Sengl
- Gostyngiad Anabledd
- Disgownt Eiddo Gwag
- Eithriadau
- Ad-daliadau
- Diystyru
- Costau
- Trosglwyddo o eiddo / cyfrifon eraill
7. Cyfrifiadau
Mae hwn yn gyfrifol o'r cyfanswm y bydd angen i chi ei dalu sy'n dangos unrhyw ddisgowntiau a/neu ychwanegiadau.
8. Y swm sy'n daladwy
Y cyfanswm y bydd angen i chi ei dalu am y cyfnod a nodir yn Adran 6.
9. Cynllun rhandaliadau a dull o dalu
Mae'r adran hon yn dangos ar ba ddyddiadau y mae angen i chi dalu a sut rydych yn bwriadu talu.
- Debyd Uniongyrchol - bydd eich taliadau'n mynd o'ch cyfrif banc ar y dyddiadau a nodir.
- Arian parod - Unrhyw ddull talu arall, gan gynnwys taliadau ar y rhyngrwyd, yn y swyddfa bost, â cherdyn debyd/credyd a siec.
Symiau'r rhandaliadau: Mae hyn rhoi gwybod i chi faint y byddwch yn ei dalu ar bob dyddiad rhandalu. Mae'r rhandaliad cyntaf fel arfer fymryn yn wahanol i'r gweddill.
10. Enw'r sawl sy'n gyfrifol
Enw'r sawl sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor ar y bil hwn. Rhagor o fanylion ar bwy sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor.
