Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cofrestru ar gyfer e-filio

Os byddwch yn cofrestru ar gyfer e-filio, byddwch yn cael eich biliau'n electronig yn hytrach nag ar ffurf papur. Mae hyn yn golygu y gallwch weld eich biliau ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Ar ôl i chi gofrestru, bydd eich bil yn barod ymhen 2 ddiwrnod gwaith. Byddwch hefyd yn derbyn negeseuon atgoffa neu hysbysiadau terfynol yn electronig.

Gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif treth gyngor ar-lein i gofrestru.

Bydd angen eich rhif cyfrif 8 digid arnoch. Gellir dod o hyd i hwn ar eich bil treth gyngor.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'ch enw cyntaf, eich enw olaf, a'ch cod post yn union fel y maen nhw ar eich bil.

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, gallwch ddewis derbyn e-filiau yn y dyfodol.

Yn anffodus, os yw eich cyfrif treth gyngor yn enw cwmni neu asiant eiddo, ni fyddwch yn gallu cael mynediad i wybodaeth trwy'r gwasanaeth treth gyngor ar-lein.

Defnyddiwch y ffurflen gyswllt treth gyngor i gyflwyno eich ymholiad yn lle.

Cofrestru ar gyfer e-filio