Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Eiddo eithriedig

Gall eithriadau'r dreth gyngor fod ar gael os yw eiddo:

Rhesymau eraill dros eithriadau

Gellid hefyd ystyried eithriadau ar eiddo:

  • Lle mae angen gwaith atgyweirio strwythurol arno, neu mae hyn ar waith neu wedi cael ei wneud. Rhaid i'r eiddo hefyd fod heb ei ddodrefnu i raddau helaeth (wedi'i eithrio am hyd at 12 mis)
  • Sydd heb ei feddiannu ac yn eiddo i elusen (wedi'i eithrio am hyd at chwe mis)
  • Sydd wedi'i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sydd yn yr ysbyty neu mewn cartref nyrsio neu ofal yn barhaol
  • Sydd wedi'i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sy'n derbyn gofal mewn lle arall (heblaw am ysbyty, cartref nyrsio neu gartref gofal)
  • Sydd wedi'i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sy'n byw ac yn rhoi gofal yn rhywle arall
  • Sydd heb ei feddiannu oherwydd marwolaeth y preswylydd/preswylwyr (wedi'i eithrio am hyd at 12 mis ar ôl profiant neu lythyrau gweinyddu). Dim ond pan fo'r eiddo wedi bod yn wag ers dyddiad marwolaeth y preswylydd y mae'r eithriad hwn yn gymwys.
  • Lle mae'r gyfraith yn gwahardd meddiannu'r eiddo
  • Sydd heb ei feddiannu ac wedi'i ddal ar gyfer gweinidog crefyddol
  • Sy'n eiddo i fyfyriwr a heb ei feddiannu ar hyn o bryd. Dim ond os mai'r myfyriwr oedd y person olaf i fyw yno (gan gynnwys gyda myfyrwyr eraill) y mae'r eithriad hwn yn gymwys.
  • Sydd wedi'i adfeddiannu ac heb ei feddiannu
  • Sy'n neuaddau preswyl yn bennaf ar gyfer llety myfyrwyr
  • Sy'n eiddo'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn
  • Sydd wedi'i feddiannu gan aelodau o luoedd sy'n ymweld
  • Sydd heb ei feddiannu ac yn cael ei ddal gan ymddiriedolwr mewn methdaliad
  • Sy'n llain carafán neu'n angorfa cwch heb ei meddiannu
  • Sy'n cael ei feddiannu gan berson/bobl dan 18 oed yn unig
  • Sy'n rhandy heb ei feddiannu
  • Sydd wedi'i feddiannu ond gan berson/bobl sydd â nam meddyliol difrifol
  • Sy'n eiddo sydd wedi'i feddiannu gan ddiplomyddion penodol

Gofynnwch i ni am eithriadau