Ystyrir bod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anawsterau sy'n cael effaith hirdymor sylweddol ar ei ddysgu.
Efallai y bydd ganddo: anawsterau gyda dysgu, cyfathrebu a rhyngweithio, anabledd corfforol neu synhwyraidd, neu anawsterau ymddygiadol, emosiynol a datblygu cymdeithasol.
Roedd ADY gynt yn cael ei adnabod fel anghenion addysgol arbennig.
Er mwyn bodloni'r galw cynyddol, rydym yn yn ymgynghori ar newidiadau i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o ansawdd uchel.
Gallwch weld y cynigion presennol:
- Darpariaeth anghenion dysgu cymhleth ac awtistiaeth
- Anghenion dysgu cymhleth
- Darpariaeth iechyd a lles emosiynol
